Dydy cynghorydd o Sir Benfro a ddywedodd y dylai pob dyn gwyn gael caethwas du, yn ôl yr adroddiadau, ddim yn ynad mwyach, meddai Cymdeithas yr Ynadon.
Mae Andrew Edwards, cynghorydd sir dros ward Prendergast yn Hwlffordd, wedi’i gyhuddo o wneud y sylw mewn recordiad, gafodd ei anfon wedyn at swyddog monitro Cyngor Sir Penfro.
Ers hynny, mae e wedi gadael y grŵp gwleidyddol a chyfeirio ei hun at yr Ombwdsmon.
Mae’n debyg bod y Cynghorydd Edwards – a oedd yn ynad a llywodraethwr ysgol hefyd – wedi cael ei adnabod drwy ei lais.
Yn ôl Nation Cymru, fe wnaeth sawl person adnabod y Cynghorydd Edwards wrth ei lais, yn dweud nad oes “dim byd o’i le ar liw’r croen o gwbl”.
“Dw i’n credu y dylai pob dyn gwyn gael dyn du fel caethwas, neu fenyw ddu fel caethwas, wyddoch chi.
“Does dim byd o’i le â lliw croen, dim ond eu bod nhw’n ddosbarth is na ni’r bobol wyn, wyddoch chi.”
Dydy cyd-destun y recordiad ei hun ddim yn hysbys eto.
‘Ddim yn aelod’
Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd Cymdeithas yr Ynadon: “Mae’r sylwadau sy’n cael eu hadrodd arnyn nhw yn afiach a does dim lle yn yr ynadaeth i unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn gwneud y fath sylwadau.
“Mae gan y system farnwrol drefn ar gyfer ymchwilio i achosion o gamymddwyn ac yna gweithredu.
“Rydyn ni’n deall bod yr unigolyn dan sylw wedi stopio bod yn ynad ym mis Gorffennaf 2022.
“Dyw e ddim yn aelod o’n cymdeithas.
“Yr ynadaeth yw rhan fwyaf amrywiol y system farnwrol. Mae 14% o ynadon yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, sy’n cyd-fynd, ar y cyfan, â’r boblogaeth gyfan.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod mwy i’w wneud.
“Rhaid i’r ynadaeth fod yn lle croesawgar sy’n adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol, a dylai unrhyw un sydd ddim yn hoffi hynny adael.”
‘Cyfeirio at yr Ombwdsmon’
Wnaeth y Cynghorydd Edwards, ddaeth yn gynghorydd ar ôl yr etholiadau lleol llynedd, ddim gwadu na chadarnhau’r honiadau pan ofynnwyd iddo gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Lleol.
“Yn hytrach, fe wnaeth gyfeirio at ddatganiad ysgrifenedig blaenorol ganddo a oedd yn dweud: “Dw i’n ymwybodol o’r fath honiadau difrifol yn fy erbyn.
“Dyna pam fy mod i wedi cyfeirio fy hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am asesiad annibynnol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Edwards, sy’n farbwr hunangyflogedig, trwyddedwr tafarn a bwyty yn Abertawe, a Freemason: “Mae e nawr yn nwylo arbenigwyr cyfreithiol a’r Ombwdsmon.
“Byddai’n annheg ar y system pe bawn yn gwneud sylw nawr.”
‘Afiach’
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Llafur y cyngor: “Mae’r farn sydd yn y recordiad yn afiach.
“Bydd pobol Sir Benfro, yn arbennig pobol ward Prendergast yn Hwlffordd, wedi’u synnu o glywed y sylwadau gafodd eu gwneud, yn ôl y sôn, gan y Cynghorydd Edwards.
“Does yna ddim lle i hiliaeth yn ein cymdeithas, heb sôn am drwy farn sy’n cael ei mynegi gan aelod etholedig o Gyngor Sir Penfro.
“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y mater wedi cael ei gyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ond dyw e ddim yn fater i’r Ombwdsmon yn unig.
“Rhaid i’r Grŵp Ceidwadol weithredu ar unwaith a gwahardd y Cynghorydd Edwards tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.”
‘Dim lle i hiliaeth’
Disgrifiodd y Cynghorydd Alistair Cameron o Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Penfro y sylwadau honedig fel rhai “tramgwyddus ofnadwy”.
“Does yna ddim lle i hiliaeth mewn cymdeithasol gynhwysol a goddefgar sy’n gwerthfawrogi cyfraniad pawb.
“Bydd pobol dros Sir Benfro a Chymru wedi’u brifo a’u synnu gan y sylwadau.
“Rhaid i’r awdurdodau priodol ymchwilio i’r sylwadau honedig gan fod gan gynghorwyr ddyletswydd glir dan y Cod Ymddygiad i hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd a pharch tuag at eraill.
“Os ddaw cadarnhad mai’r Cynghorydd Edwards wnaeth y sylwadau yna dylid ei wahardd o Gyngor Penfro.”
‘Dim sylw pellach’
Dywedodd arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Penfro, Di Clements: “Cefais wybod am yr honiadau a siaradais â’r Cynghorydd Edwards. Yna, fe wnaeth gyfeirio ei hun at yr Ombwdsmon.
“O ystyried natur yr honiadau fe wnaeth adael y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Penfro fore ddoe (Ebrill 12).
“Ni fyddwn yn rhoi sylw pellach nes daw canlyniadau ymchwiliad yr Ombwdsmon.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: “Rydyn ni’n ymwybodol o’r honiad ac wedi cyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon.
“Byddai’n anaddas gwneud sylw pellach ar y funud.”