Dim ond 48.6% o gleifion gofal llygaid a oedd yn disgwyl am apwyntiad claf allanol gafodd eu gweld o fewn y targed amser ar ddiwedd Chwefror 2023, yn ôl ystadegau newydd.

Mae’r ffigwr yn cynnwys cleifion cafodd eu gweld o fewn 25% o’r amser ar ôl y targed, ond nid yw’n cynnwys y rheiny heb ddyddiad targed penodol.

Cyfeiria data StatsCymru at gleifion o fewn y categori Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n golygu eu bod yn wynebu risg o “niwed na ellir ei ddadwneud neu ganlyniad andwyol sylweddol” pe bai’r targed amser yn cael ei fethu.

Yn ôl y ffigyrau, o’r 138,646 o lwybrau cleifion oedd yn disgyn o fewn y categori R1, roedd targed amser wedi cael ei benodi ar gyfer 138,470 ohonyn nhw, a gwelwyd 67,316 o fewn y targed.

“Enghraifft glir o fethiant Llafur”

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, wedi beirniadu’r ffigyrau hyn.

“Dyma enghraifft glir arall o fethiant Llafur i gwtogi rhestrau aros Cymru, gan adael cleifion mewn perygl o niwed difrifol,” meddai’r Aelod o’r Senedd.

“Nid yw dros hanner y cleifion yn cael eu gweld o fewn y targed, ac mae’r sefyllfa wedi gwaethygu o gymharu â’r adeg yma llynedd.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur roi’r gorau i anwybyddu arferion da mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig lle mae rhestrau aros yn gyffredinol yn fyrrach.

“Byddai’n dda i’r Llywodraeth Lafur gyflwyno ein cynlluniau gweithredu, boed hynny’n agor canolfannau llawfeddygol, gwestai gofal, neu yn yr achos hwn, ehangu rôl optegwyr wrth ddarparu gofal llygaid yn y gymuned,” meddai.

“Gwneud gwaith arloesol” i daclo’r broblem

Fodd bynnag, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod “gwaith arloesol” yn cael ei wneud i daclo’r broblem gydag amseroedd aros hir.

“Rydym yn cymryd camau i wella gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru,” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo mwy na £1bn yn ychwanegol yn ystod y tymor Senedd hwn i helpu GIG Cymru i wella ar ôl pandemig Covid a thorri amseroedd aros.

“Mae byrddau iechyd yn gwneud gwaith arloesol i wella mynediad at wasanaethau gofal llygaid, gan gynnwys agor theatrau symudol a chlinigau cymunedol newydd ledled Cymru sy’n helpu i gynyddu nifer y triniaethau cataractau a gyflawnir.

“Mae’r clinigau cymunedol yn darparu triniaethau gofal llygaid brys a chymhleth yn nes at adref, gan leihau’r angen i bobl fynd i’r ysbyty.

“Mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol Gwasanaeth Iechyd Gofal Cymru hefyd yn helpu i hyfforddi gweithlu cynaliadwy yn y dyfodol trwy ddarparu cyfleoedd dysgu arbenigol i optometryddion o bob rhan o Gymru.”

Bydd y ffigyrau’n cael eu diweddaru ddechrau fis nesaf.