Mae angen cyd-weithio gyda chleifion a chlinigwyr i greu gwelliannau i greu gwelliannau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai 22 sefydliad iechyd.
Mewn papur newydd, mae sawl coleg brenhinol, elusen a grŵp cleifion yn galw am ddull newydd o redeg y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, dylai cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol eistedd ochr yn ochr â rheolwyr i wneud penderfyniadau gyda’i gilydd.
Daw hyn wrth i Weithrediaeth GIG Cymru, sydd wedi’u sefydlu er mwyn creu gwelliannau yn y gwasanaeth iechyd, ddod i ddiwedd ei hail wythnos.
Yn ymarferol, byddai’r newidiadau’n golygu bod y Weithrediaeth yn:
- Rhannu cyfrifoldebau arwain – sicrhau bod rhwydweithiau cenedlaethol newydd yn cael eu harwain gan glinigwyr sy’n gweithio gyda chynrychiolwyr cleifion
- Rhoi llais i bawb
- Sicrhau nad oes unrhyw gyflwr iechyd yn cael ei adael ar ôl
- Cydnabod bod gwybodaeth yn arf, a gwneud taith claf yn haws i’w deall
- Dysgu gan bwyllgorau’r Senedd
‘Dechrau trafodaeth’
Cafodd y Weithrediaeth ei sefydlu mewn ymateb i alwadau am “law arweiniol ganolog gryfach” ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon mae’r trefniadau newydd yn gyfle i greu dull cydweithredol o redeg y gwasanaeth, lle mae clinigwyr, cleifion a’r cyhoedd yn rhan o’r drafodaeth.
Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, ei bod hi’n amlwg bod angen gwneud pethau’n wahanol.
“Mae cannoedd ar filoedd o bobol angen ein help ni, ond does gennym ni ddim digon o welyau, staff nac arian,” meddai.
“Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng.
“Mae llawer o dimau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei chael hi’n anodd delio â’u rhestrau aros, ac rydyn ni’n gwybod ei bod yn annhebygol y bydd rhagor o arian ar gael yn fuan.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda staff y trydydd sector, arweinwyr clinigol cenedlaethol ac arweinwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddod o hyd i ffordd o roi egwyddorion cyd-gynhyrchu ar waith – dylai pawb gael bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am y ffordd rydyn ni’n rhedeg y gwasanaeth iechyd.
“Mae Cymru’n wlad fach sydd ag ymdeimlad cryf o gymuned.
“Mae pobol eisiau gofal o ansawdd uchel iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac fel clinigwyr, rydyn ni eisiau darparu gofal o ansawdd uchel.
“Ers blynyddoedd, mae penderfyniadau am Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, mewn system aneglur a chymhleth, heb fawr ddim tryloywder – mae’n amser i ni newid hynny a dechrau trafodaeth.
“Byddai Gweithrediaeth newydd GIG Cymru, a fyddai’n cael ei redeg fel partneriaeth wirioneddol rhwng clinigwyr, rheolwyr a’r cyhoedd, yn rhoi cyfle go iawn i ni wella’r ffordd rydyn ni’n gofalu am gleifion.”