Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod gan y rheol 182 ar lety gwyliau sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru “y potensial i darfu ar y sector twristiaeth yng Nghymru ar raddfa nad oes modd ei dychmygu”.

Ers Ebrill 1, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheol sy’n golygu bod rhaid i dŷ gwyliau fod yn llawn am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael ei ystyried yn lety gwyliau, a chael talu trethi busnes yn hytrach na threth cyngor domestig.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae nifer yn cael eu gweithredu fel busnesau bychain teuluol, gyda rhai yn adeiladau ger eu cartrefi.

Ychydig iawn o eithriadau sydd i’r rheol, meddai’r blaid, ac maen nhw’n dweud bod y Llywodraeth yn “amharod i wrando”.

Mae Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, a’r Ceidwadwr Sam Rowlands wedi codi’r mater yn y Senedd ar sawl achlysur ond mae’r blaid yn dweud bod y gweinidog yn “rhy ddogmataidd yn ei barn i fod yn barod i wrando”.

Ymchwil

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae ymchwil ganddyn nhw eu hunain yn dangos y graddau mae’r rheolau newydd yn cael effaith ar lety gwyliau teuluol ledled Cymru.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi siarad ag unigolion a sefydliadau sy’n teimlo effaith y rheolau, ac mae tri ohonyn nhw wedi cyflwyno tystiolaeth.

Mae PASC Cymru’n cynrycholi llety gwyliau hunanarlwyo ledled Cymru, ac maen nhw’n dweud y bydden nhw wrth eu boddau pe bai modd sichrau bod eu llety’n llawn am 182 diwrnod y flwyddyn.

Maen nhw’n dweud ei bod yn bosib lle mae cryn dipyn o alw am lety, ond nad yw hynny’n wir “yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil diffyg twristiaeth”.

Maen nhw’n dweud y bydd y trothwy o 182 o ddiwrnodau “y tu hwnt i gyrraedd” gormod o bobol “waeth pa mor galed maen nhw’n trio”, ac maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi cael “eglurhad rhesymol” am y trothwy newydd.

Yn ôl Marnie Slade, perchennog hen gapel Capel Cartref gafodd ei droi’n llety gwyliau, mae’r rheol yn achosi “straen di-ben-draw”.

Mae ei llety’n cael ei hyrwyddo gan Croeso Cymru, sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru.

“Er mwyn cael mwy o archebion, dw i wedi ystyried gostwng y cyfraddau’n sylweddol, ond wedyn os ydw i’n dal yn methu cyrraedd y trothwy, bydda i’n diweddu i fyny â bil enfawr a hyd yn oed llai o arian yn y cyfrif,” meddai.

“Dw i wedi gweithio’n galed erioed wrth sicrhau bod ymwelwyr â Chapel Cartref yn cael profiad cofiadwy a phositif.

“Mae Airbnb yn dangos 66 o adolygiadau, a dim ond un yn bedair seren, a’r gweddill yn bum seren.

“Rydyn ni’n dod ag ymwelwyr i’r ardal leol, maen nhw’n bwyta mewn bwytai ac yn defnyddio’r tafarnau, mae pum ystafell wely’n golygu aduniadau teuluol mawr a llawer o bobol yn gwario’u harian yn yr ardal gyfagos.

“Byddwn ni 48 noson yn brin er bod gennym ni wefan newydd, er ein bod ni wedi ymuno â ‘FreetoBook’, er ein bod ni wedi rhoi hysbysebion ychwanegol i Midweek Breaks a.y.b., er ein bod ni’n treulio llawer o amser yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r cyflymdra gafodd y trothwy hwn ei gyflwyno’n teimlo’n hollol annheg.

“Mae yna wahaniaeth rhwng bod yn berchen ar ail eiddo a’i adael yn wag.

“Dw i erioed wedi teimlo bod hynny’n iawn, ond mae ein trethu ni yn y ffordd yma’n rhoi pobol allan o fusnes.

“Os yw’r gyfradd yn codi i 300%, fydd dim diben i ni barhau.”

Mae Ian Pattinson o Discover Pembrokeshire Walking, yn teimlo bod y rheol 182 diwrnod yn cael effaith ar ei fywyd beunyddiol hefyd.

“Fel fy un i, all eiddo hunanarlwyo ddim cael ei werthu ar wahân: mae nifer yn anaddas i’w defnyddio fel preswylfeydd parhaol ac mae nifer i ffwrdd o’r ardaloedd lle mae gwaith.

“Felly dydyn nhw ddim yn gallu cyfrannu’n bositif at fater y stoc dai.

“Fe wnes i ddarllen nifer o’r sylwadau gafodd eu cynnig gan hunanarlwywyr bach yng nghefn gwlad yn ystod un o gyfnodau’r ymgynghoriad, a ches i fy nghyffwrdd gan yr emosiwn gafodd ei leisio gan y sawl oedd ond wedi gweld diwedd y daith i’w busnesau teuluol hoff.

“Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwrando ac mae hi fel pe baen nhw’n benderfynol o godi arian, ac i’r diawl â’r canlyniadau.

“Ar nodyn personol, efallai fy mod i’n agos at y lefel 182 diwrnod ond dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i’n cael fy effeithio’n fawr ganddo, nac yn golygu nad yw’n cael effaith ar safon fy mywyd.

“Bob dydd mae’n mynd drwy fy meddwl, dw i’n cyfri’r archebion sydd gen i ac yn pendroni pryd fydd yr archeb nesaf yn cyrraedd.

“Ar y gorau, bydd y mesurau sbeitlyd, didrugaredd, cosbol wedi’u targedu’n wael yn gyrru nifer o fusnesau dilys i’r wal; ac ar y gwaethaf, dw i’n poeni go iawn y bydd y boen meddwl sy’n cael ei hachosi gan fygythiad gwirioneddol y premiwm ar dreth y cyngor yn gwthio nifer dros y dibyn.”

‘Rhoi pobol allan o fusnes a gwaith’

Mae’r materion hyn wedi’u codi gan Sam Rowlands, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn y Senedd, sydd wedi herio gweinidogion y Llywodraeth yn gyson, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n glir na fydd hyn yn bosib i nifer, yn syml iawn, ac fe fydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru’n rhoi pobol allan o fusnes ac allan o waith,” meddai.

“Mae’n glir fod y Gorchymyn hwn wedi anfon sioc drwy’r diwydiant, heb fod nifer o fusnesau dilys yn gwybod beth i’w wneud.

“Rydyn ni wedi clywed heddiw fod eu hiechyd a’u lles meddwl wedi cael ergyd enfawr.

“Mae Llywodraeth Cymru yma a dylen nhw fod yma i gefnogi busnesau i’w galluogi nhw i ffynnu, a pheidio’u niweidio nhw.”

‘Dogmatiaeth wrth-dwristiaid’

“Rydyn ni wedi bod yn brwydro yn erbyn y rheol 182 diwrnod hon ers y dechrau,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dydy hi ddim wedi cael ei hystyried yn dda, mae’n seiliedig ar ddogmatiaeth wrth-dwristiaid yn hytrach na helpu i ddatrys yr argyfwng tai.

“Mae’r straeon gan y rheiny yn y busnes llety gwyliau’n dinistrio’r enaid.

“Mae pobol sy’n angerddol dros fod eisiau dangos harddwch Cymru i’r byd yn destun straen nad oes modd ei dychmygu wrth iddyn nhw geisio ateb gofynion llety Llafur.

“Mae gofynion blanced 182 diwrnod Llafur yn fiwrocratiaeth o’r top i lawr.

“Wnaethon nhw ddim gwrando ar y diwydiant twristiaeth, wnaethon nhw ddim gwrando ar y teuluoedd sy’n rhedeg y llety, wnaethon nhw ddim gwrando ar ardaloedd yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil diffyg twristiaeth, wnaethon nhw ddim gwrando.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Cafodd y newidiadau i’r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi eu dylunio i helpu i ddatblygu marchnad dai decach ac i sicrhau bod perchnogion eiddo’n gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle maen nhw’n berchen cartrefi neu’n rhedeg busnesau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd y meini prawf newydd ar gyfer llety hunanarlwyo yn dangos yn gliriach fod yr eiddo hyn yn cael eu llogi’n rheolaidd ac yn gweithredu fel busnesau gwyliau am o leiaf hanner y flwyddyn.

“Bydd eiddo nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf yn gorfod talu treth y cyngor yn hytrach na chyfraddau annomestig.

“Mae’n fater i bob awdurdod lleol benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn eu hardaloedd.

“Mae nifer o eithriadau ar hyn o bryd i’r premiwm, ac yn dilyn ymgynghoriad rydyn ni wedi ymestyn y rhain i gynnwys eiddo ag amod cynllunio sy’n nodi mai dim ond ar gyfer llety gwyliau neu ddefnydd sy’n ei atal rhag bod yn breswylfa barhaus fel prif neu unig breswylfa’r person mae modd defnyddio’r eiddo.

“Mae hyn yn golygu na fyddai llety gwyliau sy’n cael eu dal o fewn yr eithriad yn destun y premiwm.

“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau i gadarnhau bod gan awdurdodau lleol bwerau trwy ddisgresiwn i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu premiwm neu gyfradd safonol treth y cyngor os nad yw’r trothwy 182 diwrnod newydd yn cael ei fodloni.”