Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei neges Nadolig gyntaf ers iddi ddechrau yn y swydd.

“Dw i eisiau dymuno Nadolig Llawen a heddychlon i chi gyd – ble bynnag a sut bynnag rydych chi’n dathlu,” meddai.

“Dw i’n gobeithio bo chi’n gallu treulio’r amser yma gyda theulu a ffrindiau, a chael rhywfaint o amser i orffwys!

“Dw i hefyd eisiau dweud diolch o galon i’r nifer fawr o bobol fydd yn gweithio dros yr ŵyl.

“O’n gwasanaethau brys, i’r NHS [Gwasanaeth Iechyd Gwladol] a’r cynghorau lleol – diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud i’n cadw ni’n ddiogel yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Ac wrth gwrs i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i eraill – dyma wir ysbryd y Nadolig.

“Gall y Nadolig fod yn amser unig i lawer.

“Felly, os ydych chi am wneud un peth dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn tsiecio i mewn ar bobol eraill yn eich cymuned.

“Gyda’n gilydd, gallwn ni gyd edrych ymlaen at y flwyddyn newydd gyda gobaith.

“Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.”