Wel, mae 2024 wedi bod yn dipyn o flwyddyn yn wleidyddol!

Mae Syr Keir Starmer bellach yn Rhif 10 Downing Street ers pum mis, ac mae eisoes wedi gorfod cynnal dau ail-lansiad!

Er gwaetha’r fuddugoliaeth ysgubol ym mis Gorffennaf, dydy cyflwr Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ddim yn cymharu’n ffafriol efo cyflwr ‘Llafur Newydd’ oedd yn cael ei harwain gan Tony Blair ar ôl 1997.

Dydi Keir Starmer ddim wedi sefydlu ei hun fel Prif Weinidog llawn personoliaeth, a hynny yn rhannol oherwydd… wel, does ganddo fe fawr o bersonoliaeth! Ond mewn cyfnod lle mae cyllidebau’n brin, pobol yn straffaglu o wythnos i wythnos, mae’n rhaid troi cornel yn 2025 a defnyddio llai o rethreg.

Penbleth gwleidyddol

Un o’r achlysuron mwyaf diddorol o’m safbwynt i’n bersonol eleni oedd cael mynd i Gynhadledd Reform yng Nghasnewydd.

Dw i ddim yn gallu pwysleisio ddigon faint o aelodau llawn hyder a theimlad gwirioneddol bositif y gall Nigel Farage a Reform fod yn rym etholiadol go iawn o fewn yr aelodaeth ddaru fi siarad efo nhw ym mis Tachwedd.

Ers hynny, mae’n edrych fel pe bai Reform am dderbyn rhyw fath o rodd ariannol gan Elon Musk. Does dim adroddiadau pendant am faint o arian fydd yn cael ei roi, ond mae hynny’n amherthnasol yn sgil y benbleth mae’n mynd i’w rhoi i Keir Starmer a Llafur.

Mae ffigurau ar yr asgell dde, y poblyddwyr fel Nigel Farage a Donald Trump, yn dadlau eu hochr drwy awgrymu “ni a nhw”.

Pe bai Keir Starmer yn ceisio’i gwneud hi’n anoddach nag y mae hi ar hyn o bryd i roi arian i blaid wleidyddol, yn enwedig tu allan i gyfnod etholiad, mi fydd yn rhoi cyfle i Reform ddweud, “Wel, dyma chi, y sefydliad wrthi eto’n crebachu ar ryddid barn”.

Felly, dydi hi ddim mor syml â chyflwyno bil sy’n diwygio Deddfwriaeth Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau, a Refferenda – rhywbeth sydd ddim wedi cael ei newid ers 2000.

Mae’n rhaid i Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig gydbwyso sut mae atal rhywun o dramor fel Elon Musk rhag dylanwadu ar etholiadau yma, ond ceisio peidio â rhoi mwy o arfau gwleidyddol sy’n cynyddu eu gallu nhw i bwyntio bys at y sefydliadau.

Cyfryngau Lloegr yn talu sylw

Dydi’r cyfryngau yn Lloegr ddim yn talu llawer o sylw i Gymru, yn enwedig o ran gwleidyddiaeth. Ond, os oes gen i ragfynegiad ar gyfer 2025, y ffaith y bydd yna fwy o sylw nag erioed i Gymru ydi’r rhagfynegiad hwnnw.

Mae Reform yn gwneud yn dda yng Nghymru – rhywbeth sy’n cael ei gefnogi gan eu perfformiad nhw yn yr etholiad cyffredinol wrth ddod yn ail mewn 13 allan o’r 32 sedd.

Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, mae Nigel Farage yn barod i daflu pob dim mae o’n gallu i ennill yma. Mae’n bwysig cofio nad ydyn nhw’n gwneud cystal yn yr Alban.

Dw i’n disgwyl ei weld o’n gwneud ambell i ymddangosiad yn y cymoedd yn ystod y flwyddyn i geisio perswadio pobol i ddweud ‘Na’ wrth Lafur a’r Ceidwadwyr, ac i symud ato fo a Reform. Pwy a ŵyr? Efallai mai Reform Wales fydd enw cangen Cymru o’r blaid y flwyddyn nesaf hefyd!

Mi fydd yna lot o ddiddordeb gan y cyfryngau yn Llundain sydd eisoes yn gofyn, hyd yn oed gyda system etholiadol ‘cyntaf i’r felin’, os oes yna siawns y gallai Nigel Farage fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.

Er bod y Nadolig yma, bron iawn, mae yna lawer i Keir Starmer feddwl amdano fo dros y gwyliau!