Dydy’r premiwm ar ail gartrefi “ddim yma i gosbi neb”, yn ôl Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd.
Chwe blynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod hawl gan awdurdodau lleol i godi rhagor o dreth ar ail gartrefi nag y mae’n rhaid i berchennog ei dalu am brif gartref.
O fis Ebrill, bydd 21 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno’r premiymau hyn ar dreth y cyngor.
Mae’r polisi bellach yn bwnc llosg sy’n plethu sawl dadl ymfflamychol: y bwlch golud, baich treth, dyfodol yr iaith Gymraeg, hyfywedd y diwydiant twristiaeth, a dirywiad cymunedau gwledig.
Ond yn ôl arweinwyr Cyngor Gwynedd, yr awdurdod cyntaf i gyflwyno’r premiymau yn 2018, ymateb i’r argyfwng tai mae’r polisi yn fwy na dim arall; dim ond yn ôl y stoc dai mae ei werthuso, ac, o ystyried y ffigyrau diweddaraf, mae i’w weld yn ffynnu.
Mae Nia Jeffreys, arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, a Paul Rowlinson, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros dai dai, yn esbonio wrth golwg360 am bwrpas, amcanion a llwyddiant y polisi dadleuol hwn.
‘Argyfwng tai’
“Mae yna argyfwng tai,” medd Nia Jeffreys.
Dyma, meddai, ydy sylfaen unrhyw drafodaeth ynghylch ail gartrefi.
“Rŵan, mae wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol.
“Mae Keir Starmer i’w weld wedi deffro i’r broblem ac yn sôn am godi tai ledled y wlad.
“Ond rydan ni yng Ngwynedd wedi gwybod yn iawn bron ers degawdau bod yna argyfwng – ac mae argyfwng tai yn arwain at bob math o argyfyngau llai eraill.”
Mae cyfradd ail gartrefi Gwynedd ymhlith yr uchaf yng Nghymru, ac mewn rhai ardaloedd megis Abersoch ac arfordir de Meirionnydd, mae mwy nag 20% o’r stoc dai’n ail gartrefi.
“Dw i’n meddwl bod y dyhead yna gan bobol Gwynedd i weld mwy o dai yn dod i berchnogaeth leol ac yn cael eu defnyddio trwy gydol y flwyddyn,” meddai Nia Jeffreys wedyn.
“Mae o’n drist pan wyt ti’n mynd i bentrefi yn y gaeaf ac maen nhw’n wag.”
Plygio’r sinc
Mae Paul Rowlinson yn cyfeirio at yr argyfwng yn nhermau sinc sydd â dau dap ar agor, ond heb ddim byd yn rhwystro’r dŵr rhag syrthio drwy’r twll.
Mae’r Cyngor yn ceisio codi tai o hyd ac o hyd, ond am fod y galw’n cynyddu hefyd, yn enwedig am fod cynifer yn cael eu gwerthu fel ail gartrefi, dydy’r stoc dai sydd ar gael fyth yn codi.
Dyna, felly, oedd wrth wraidd yr ymbil gan y Cyngor ar Lywodraeth Cymru yn 2018, er mwyn eu galluogi nhw i gyflwyno premiymau ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Ym mis Ebrill y flwyddyn honno, fe osododd y Cyngor y premiwm cyntaf o 50% ar ben y dreth gyngor.
Mae’r premiwm wedi codi ddwywaith ers hynny – i 100% ym mis Ebrill 2021, ac yna i 150% yn 2023.
I ddechrau, roedd y polisi i’w weld yn methu, wrth i nifer o berchnogion ailgofrestru eu heiddo’n fusnesau bychain, fyddai’n golygu nad oedd rhaid iddyn nhw dalu’r dreth gyngor o gwbl.
Ond wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheolau newydd yn 2023, oedd yn golygu mai dim ond llety gwyliau oedd yn llawn 180 diwrnod y flwyddyn oedd yn cael eu hystyried yn fusnesau go iawn, mae’r sinc wedi dechrau llenwi.
Bellach, mae mwy a mwy o ail gartrefi yn dychwelyd i fod yn brif aelwydydd yng Ngwynedd; roedd 8% o gartrefi’r sir yn ail gartrefi yn 2024, o’i gymharu â 13% yn 2023.
‘Cyfiawnder cymdeithasol’
Mae’r ddau gynghorydd am bwysleisio mai datrys yr argyfwng tai ydy prif amcan y polisi o hyd, a bod yr arian gaiff ei godi gan bremiymau Gwynedd yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ym maes tai a chartrefi hefyd.
Dywed Paul Rowlinson fod y premiymau’n codi “tua £9m y flwyddyn”.
“Rydyn ni’n defnyddio £3m y flwyddyn at gostau digartrefedd, a’r gweddill yn mynd i’r cynllun gweithredu tai sy’n gynllun cynhwysfawr i godi mwy o dai, a llawer o gynlluniau eraill i helpu pobol i wella a phrynu a rhentu tai.”
Ymhlith ymdrechion y Cyngor mae strategaeth i gynyddu nifer trigolion Gwynedd sy’n gymwys i fod yn denantiaid mewn cartrefi cymdeithasol, ac addasu tai i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd, fyddai’n lleihau eu biliau trydan.
Y cyfle hwn i ailgydbwyso’r farchnad dai ydy’r egwyddor sydd wedi gwneud polisi’r premiymau mor ddeniadol i drigolion y sir, yn ôl Nia Jeffreys.
“Y neges dw i’n ei chlywed gan bobol Gwynedd ydy, tra bo pobol heb ddim un tŷ, tra bo pobol yn ddigartref, dw i’n meddwl bod yna ddadl cyfiawnder cymdeithasol bod pobol efo ail dai’n talu’r premiwm,” meddai.
“Mae yna deuluoedd yng Ngwynedd, er enghraifft, sy’n gorfod magu eu plant mewn gwely a brecwast – heb gegin, heb fedru coginio.
“Dydy’r peth ddim yn deg.”
‘Ddim yna i gosbi neb’
Mae trafodaethau ynghylch y premiymau yn aml iawn yn canolbwyntio ar wrthwynebiad hanesyddol y mudiad iaith at dai haf yn y Fro Gymraeg.
Yn wir, mae Cymdeithas yr Iaith a’r grŵp ymgyrchu newydd Nid yw Cymru ar Werth yn dadlau mai cam cyntaf ydy’r premiymau at gyflawni eu hamcanion hirdymor o gyflwyno Deddf Eiddo yng Nghymru.
Ar sail y cysylltiadau hynny y gwnaed cwynion fod polisi’r premiymau yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn y rheiny sydd ddim yn medru’r iaith – yn enwedig Saeson, perchnogion y rhan fwyaf helaeth o ail gartrefi.
Yn 2022, wedi asesiad effaith cydraddoldeb, fe ganfu’r Cyngor fod “ychydig” o dystiolaeth fod y polisi’n gwahaniaethu yn erbyn grŵp gwarchodedig, ond fod “eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn cynyddu rhai o broblemau cymdeithasol Gwynedd”, ac y dylai’r perchnogion “wneud cyfraniad ariannol i liniaru peth o’r anfanteision maen nhw yn eu hachosi” – gan gynnwys eu heffaith ar yr iaith Gymraeg.
Dyna’n union mae Nia Jeffreys yn ei bwysleisio hefyd.
“Dydy’r polisi ddim yna mewn unrhyw ffordd i gosbi neb,” meddai.
“Rydan ni i gyd yn unol fel Plaid Cymru, dw i’n meddwl, ein bod ni eisiau taclo’r argyfwng tai achos yr holl resymau rydan ni wedi’u trafod: digartrefedd, yr effaith ar unigolion, yr effaith ar yr economi, ond yn gyfan gwbl, wrth gwrs, yr effaith ar ein cymunedau ni a’r iaith Gymraeg.
“Rydan ni’n deall yn llwyr bod yna linc rhwng yr argyfwng tai, pobol ifanc yn methu fforddio tai, pobol ifanc yn gadael yr ardal, ac effaith hynny ar yr iaith Gymraeg.”
‘Teclyn’
Ond nid mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn unig mae angen polisïau o’r fath, yn ôl Nia Jeffreys.
Mae premiymau eisoes ar waith mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg ar ei chryfaf, er enghraifft ym Mro Morgannwg a Sir Fynwy.
Mae’r un argyfwng tai i’w ganfod yn ne-orllewin Lloegr, Ardal y Llynnoedd, ac yn Ardal y Copaon, meddai Paul Rowlinson.
Yn ddiweddar, fe fu Nia Jeffreys yn ymweld â Chernyw, lle’r oedd arweinydd Ceidwadol y Cyngor yno yn canmol Gwynedd am lwyddiant y premiymau, ac yn mynegi diddordeb mawr mewn ceisio gweithredu rhywbeth tebyg yn ei hardal hi.
“Felly, dw i’n meddwl bod y premiwm yn un tŵl yn y tŵl-bocs i helpu’r ardaloedd hyn i ddatrys yr argyfwng tai,” meddai.
“Ond wneith o ddim ei ddatrys o’n llwyr.
“Dydy datrys yr argyfwng tai yn llwyr ddim o fewn gafael yr awdurdodau lleol, i fod yn hollol onest.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu.
“Ond mae hwn yn un teclyn fedrwn ni ei ddefnyddio i geisio gwella’r sefyllfa.”