Bydd £600,000 o gyllid ychwanegol yn cael ei gynnig i undebau credyd, yn ôl cyhoeddiad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, heddiw (Ebrill 13).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad yr arian yw cefnogi cynlluniau benthyca moesegol a fforddiadwy yn sgil yr argyfwng costau byw, ac i gynnig cymorth i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.

Daw’r arian fel hwb ychwanegol i’r ymyriad costau byw a gyflwynwyd llynedd gyda’r bwriad o gefnogi pobol gyda hanes credyd gwael sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol.

Beth yw undebau credyd?

Mae undebau credyd yn sefydliadau nid er elw ac yn derbyn blaendaliadau, yn rhoi benthyciadau, ac yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chynhyrchion ariannol eraill.

Yn hytrach na bod yn eiddo i unrhyw gyfranddalwyr neu fuddsoddwyr allanol, mae undebau credyd yn eiddo i’r bobol sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ffordd fwy fforddiadwy a chyfrifol o fenthyg arian gan eu bod yn cyfrannu at yr economi a lles ariannol eu haelodau.

Mae ganddyn nhw hefyd “hanes cryf o feithrin gwydnwch ariannol” i’r rheiny mewn sefyllfaoedd ariannol bregus, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Teg a fforddiadwy”

“Mae undebau credyd Cymru yn gweithio’n anhygoel o galed o ran ein cefnogi i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thaclo tlodi ledled Cymru,” meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

“Mae eu gwasanaethau nhw wedi bod – ac fe fyddan nhw’n parhau i fod – yn hanfodol i bobl sy’n wynebu trafferthion ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw hwn na welwyd ei debyg o’r blaen.

“Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ddarparu mynediad at gredyd teg a fforddiadwy.

“Byddwn yn annog y rhai sy’n ei chael hi’n anodd ac a allai fod yn wynebu risg benthycwyr stepen drws llog uchel neu fenthycwyr arian didrwydded, i droi at eu hundeb credyd lleol, sy’n gallu rhoi mynediad i chi at gredyd teg a fforddiadwy.”

“Hwb aruthrol”

Ymwelodd Jane Hutt a Banc Cymunedol Smart Money Cymru yng Nghaerffili yn dilyn rhoi £121,033 mewn cymorth cyfalaf i’r banc ac i Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Derbynion nhw’r arian ychwanegol er mwyn gwneud gwaith diweddaru i’r seilwaith Technoleg Gwybodaeth er mwyn sicrhau ei fod cystal â banciau stryd fawr.

Y bwriad yw gwneud undebau credyd yn fwy deniadol i aelodau sydd eisiau profiad digidol ac i ddarparu dewis arall yn lle benthycwyr cost uchel, yn enwedig i gynulleidfaoedd iau.

Dywedodd Mark White, Prif Weithredwr Banc Cymunedol Smart Money Cymru:

“Mae cymorth cyfalaf Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn TG newydd wedi bod yn hwb aruthrol a fydd yn caniatáu i Smart Money dyfu a datblygu gwasanaethau bancio fforddiadwy newydd.

“Mae’r cyllid ychwanegol i gefnogi ein gwasanaeth benthyca i’r rhai sydd leiaf tebygol o allu cael cyllid yn golygu y gallwn dargedu ein benthyciadau at y rhai sydd â’r angen mwyaf am gredyd yn yr hinsawdd bresennol.”