Bu’r Moniars Bach yn fuddugol draw yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddoe gan ennill y wobr am y Band Gwerin Orau a’r Gân Newydd Orau (Gwerin).

Dan eu henw newydd, Elysian, Gwen Edwards sy’n canu, Elin Hâf Taylor ar y sielo, Arfon Wyn ar y gitâr ac Einion Williams yn chwarae’r bodhrán (y drwm Gwyddelig).

Bydd y criw hefyd yn chwarae i Dylan Morris yng Ngharlow heno wrth iddo gystadlu gyda chân fuddugol Cân i Gymru eleni, ‘Patagonia’, wedi’i chyfansoddi gan Alistair James.

Rhannu hanes o Fôn

Daeth y criw i’r brig yn y gystadleuaeth Cân Newydd Orau gydag ‘Afon Bacsia’, sy’n rhannu hanes teulu o bentref Rhosmeirch ym Môn flynyddoedd yn ôl.

“Mae’r gân yn sôn am hanes cwpl wnaeth gyfarfod wrth Afon Bacsia ac wedi mynd ati i adeiladu bwthyn i’w teulu fyw ynddo yn Sir Fôn allan o gerrig o’r afon, gan eu bod nhw mor dlawd,” meddai Arfon Wyn, a gyfansoddodd y gân.

“Roeddwn i wedi bod yn chwarae efo’r syniad ac roedd y stori’n ddiddorol.

“Roeddwn i wedi clywed am hen wraig o bentref Rhosmeirch oedd yn cynnig paned i’r cwpl yma oedd yn gweithio’n galed i adeiladu’r tŷ am ei bod hi’n teimlo drostyn nhw.

“Dim ond bwthyn bach roedden nhw wedi gallu adeiladu, jest digon iddyn nhw allu byw ynddo fo.

“Roedd y stori wedi aros yn fy mhen, felly mae’r geiriau’n egluro bod y cwpl, er yr amser caled, wedi cael bywyd hapus.”

Bydd ‘Afon Bacsia’ ar gael i’w chlywed ar albwm Elysian.

Rhoi’r cyfle i bobol ifanc

Fel rhan o’r gystadleuaeth Band Gwerin Gorau, perfformiodd Elysian ‘Afon Bacsia’ yn ogystal â ‘Hen Ferchetan’, ac roedd Arfon yn awyddus i roi’r cyfle i rywun ifanc gystadlu.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed ac mae’n deimlad braf iawn cael bod yn ôl, yn enwedig cael bod yn ôl a rhoi cyfle i’r genod ifanc.

“Mae gan Gwen Edwards lais hollol wych.

“Roeddwn i jest eisiau rhoi siawns i rywun ifanc i gael canu – gan fod y Moniars wedi cael y cyfle o’r blaen – roeddwn i eisiau i Gwen gael y cyfle o gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

“Aethon ni ag Elin Fflur efo ni i’r ŵyl yn 2002, a wnaethon ni guro’r Gystadleuaeth Cân Ryngwladol.”

Mae fideo o Elysian yn perfformio ‘Hen Ferchetan’ yn yr ŵyl yma.

Cyfle i gyfarfod Celtiaid

Mae Arfon hefyd yn falch o’r cyfle i gael cyfarfod â hen ffrindiau yn yr ŵyl, gan mai dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal ers y pandemig.

“Mae hi’n braf cael gweld hen gyfeillion o’r gwledydd Celtaidd arall.

“Wnes i weld ffrind o Galway ddoe, ac roedd o wedi curo’r gystadleuaeth canu’n unigol.

“Ti’n gwneud ffrindiau newydd yn yr ŵyl ac mae o’n braf iawn cael gwneud hynny.”

  • Roedd llwyddiant hefyd i Gôr yr Heli (Pwllheli), dan arweiniad Gwenan Gibbard, wrth iddyn nhw gipio’r wobr gyntaf am y Côr Merched, a’r ail wobr am y Côr Gwerin Unsain.