Rhyw bum mlynedd yn ôl bellach, ymunais â’r ‘Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin’ newydd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn y flwyddyn gyntaf, cafodd y ffilm 2001 A Space Odyssey (1968) ei dewis fel sail cynhadledd yn 2018, i ddathlu pen-blwydd 50 y ffilm arloesol yma. Digwydd bod, dyma hoff ffilm fy ngŵr, sydd yn Athro Bywydeg Esblygol. Buodd o felly yn gyflwynydd frwd ac amgen!

Roeddwn yn benderfynol o gyflwyno yn y gynhadledd nesaf. Mynychais y cyfarfod yn llawn brwdfrydedd, ond trôdd hyn i anghrediniaeth ac anobaith pan glywais taw’r dewis tro hyn oedd Alien (1979), gan fod 2019 yn ben-blwydd yn 40 ar y ffilm wreiddiol.

Mi roedd hi’n ben-blwydd yn 40 arna i hefyd, a synfyfyriais ar sut roeddwn, dros y 40 mlynedd ddiwethaf, wedi ceisio osgoi’r fasnachfraint gyfan! Pam fysa’ unrhyw un yn dewis pwnc mor ffiaidd ar gyfer cynhadledd? Mi roedd hyn, wrth gwrs, yn ymateb anghyffredin.

Cerddi-Mewn-cyfieithiad-3
Cerddi hunan-seicreiddiol mewn cyfieithiad

Bwgan y fasnachfraint Alien

Cwynais yn chwerw wrth fy mentor amyneddgar. Wrth drafod, gwnaethom benderfynu ceisio archwilio beth oedd yn fy ypsetio gymaint, gyda’r opsiwn o ddefnyddio hyn fel sail i gyflwyniad amgen i’r gynhadledd.

Sgwennais geiriau allweddol cysylltiedig ar ddarn o bapur sgets. Nodais eiriau megis slimey, sticky, goo, a yuck. Mentrais drafod hyn ar Twitter, a chefais gynigion ychwanegol gan gyd-ysgolheigion, megis ectoplasm ac abject.

Defnyddiais y geiriau hyn i archwilio’r llenyddiaeth ysgolheigaidd. Dyma sut ddes i at waith Julia Kristeva, y llenor Bwlgaraidd-Ffrengig a’i champwaith arloesol Powers of horror.

Yn ei hysgrif, mae Kristeva yn datblygu dirmygedigaeth (abjection) fel cysyniad pwysig yn nhermau dehongli a damcaniaethu am lenyddiaeth; mae llenorion ac ysgolheigion eraill wedyn wedi datblygu dirmygedigaeth ymhellach, megis gwaith Barbara Creed wrth ddehongli Alien.

Roeddwn ar y trywydd iawn, felly, ac roedd yna rywbeth diddorol i’w archwilio, ond nawr fysa’ raid i mi ymwneud â’r fasnachfraint, a chynefino â hi, er mwyn deall beth oedd wrth wraidd fy ofn-ddiflasedd. Yn wir, hyd hynny, nid oeddwn wedi gweld ’run o’r ffilmiau yr holl ffordd drwodd!

Sleid-Aliwn
Sleid Alien gyda fy nghelf Xenomorph

Astudiaeth achos hunan-seicdreiddiol

Gyda help fy ngŵr, llwyddais i wylio’r ffilmiau i gyd o’r dechrau hyd y diwedd. Darllenais lyfrau a sbïo ar waith celf Giger. Es i’r siopau perthnasol yn Lerpwl a synnu ei bod hi’n bosib prynu gwrthrychau megis battle-damaged Xenomorphes!

Trwy’r gweithredoedd hyn, llwyddais i ddad-sensiteiddio fy hun, ac erbyn y diwedd roeddwn eisiau ‘mofyn nwyddau megis bocs-cinio hefo’r ŵy eiconig arno, ac ymweld â’r bar-amgueddfa yn y Swistir!

Yn serendipaidd, roeddwn yn y cyfamser wedi gadael fy swydd ym Mangor, ac wedi cyfro mamolaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr yn yr Adran Seicoleg, lle ges i hwyl arni’n trafod y prosiect hefo fy nghydweithwyr a’r myfyrwyr (oedd yn mwynhau tynnu coes ar adegau!).

Ond y gwir trobwynt oedd pan adewais fy ngyrfa fel darlithydd, a dechrau fel bardd, llenor, ac artist llawrydd. Rhoddodd hyn yr amser a’r gofod i mi feddwl yn ddwfn, gan ddefnyddio technegau creadigol amrywiol.

Un diwrnod, wrth herio fy hun i grwydro ar hyd greithiau’r cof, sgwennais gerdd o’r enw ‘Awakening in the White room’, am yr adeg y deffrois yn yr ysbyty, wedi i mi cael fy nhrawiad (seizure) olaf.

Rhoddodd yr atgof ergyd i mi, felly eisteddais yn dawel yn ystyried y ddelwedd. Crwydrodd fy meddwl at y nifer cyfyng o ddelweddau tebyg mewn ffilmiau… ac yno, yn eu mysg, roedd Kane yn y ffilm Alien – yn fwy arswydus am ei fod yn cael ‘confylsiwn’ nag oherwydd y Xenomorph oedd wrthi’n cnoi ei ffordd drwy ei fol!

Colofn-yng-nghylchgrawn-Barddas-1
Colofn yng nghylchgrawn Barddas

Pamffled dwyieithog o gerddi

Defnyddiais y gerdd yn y bennod a ddaeth o’r cyflwyniad yn y gynhadledd.

Wnes i hefyd ddefnyddio’r sleid o’r gynhadledd lle roeddwn wedi gosod arni sgets y gwnes i o’r Xenomorph; mae’r llyfr ‘Alien legacies bellach wedi ei gyhoeddi, gyda fy mhennod ynddo.

Cyfieithais y gerdd a’i chyhoeddi yn fy ngholofn yng nghylchgrawn Barddas (Rhifyn Hydref 2021) gyda’r addewid y byddwn yn sgwennu cyfrol o gerddi am fy mhrofiadau cysylltiedig, a’i chyhoeddi yn 2022.

Wel, mi wnes i sgwennu cerddi newydd, ond bu hyn yn broses boenus a dryslyd i mi, ac yn gais i mi roi’r gorau iddi sawl gwaith. Ond, o’r diwedd, mi wnes i hel digon o gerddi i greu pamffled – 30 cerdd wreiddiol, a’u cyfieithu nhw wedyn (heblaw am un gerdd weledol). Defnyddiais fy nghelf amrwd o’r stafell wen ar y clawr.

Mae’r pamffled nawr ar gael i’w brynu, a medrwch ei ymofyn o ‘Siop y siswrn’ yn y Wyddgrug, Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt (gan gynnwys trwy eu gwefan nhw), ac oddi ar Amazon.

Rwy’n mynd i geisio ei osod mewn siopau eraill, a byddaf yn darllen ohono mewn amryw o nosweithiau mic agored, gyda lawnsiad a sesiynau llofnodi i’w trefnu. Mae hwn yn waith hynod bersonol i mi, a gobeithiaf y bydd rhai ohonoch yn mwynhau ei ddarllen. Dyma flas o un o’r cerddi: