Mae Theatr Clwyd a Theatr y Grand yn Abertawe wedi ennill nifer o wobrau yng Ngwobrau Pantomeim Prydain.

Cafodd cynhyrchiad Imagine Theatre o Beauty and the Beast, gafodd ei lwyfannu yn Abertawe, ei ddewis fel y Pantomeim Gorau mewn theatr â mwy na 900 o seddi.

Enillodd y cynhyrchiad y wobr ar gyfer y Dyluniad Set Gorau hefyd, diolch i waith Mark Walters, Nina Dunn a Matt Brown.

Aeth y wobr ar gyfer y Pantomeim Gorau mewn theatr â llai na 500 o seddi i Robin Hood, cynhyrchiad mewnol gan Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.

Enillodd Ben Locke, wnaeth serennu yn Robin Hood, y wobr ar gyfer y Dihiryn Gorau hefyd.