Gêm y Ganrif

Wrecsam 3 Notts County 2

Dydd Llun Y Pasg

10/04/2023

 

I’r Cae Ras o’r cur oesol – wedi dod

Y mae’r dorf obeithiol

I chwifio fflag ddyrchafol,

I guro gêm! Sgorio gôl!

 

Un gŵr all saethu fel gwn – a moliant

Paul Mullin a welwn,

Fe lwyddodd, gorfoleddwn,

Hollywood yw goliau hwn!

 

Foster a’i faniffesto – ymateb!

Ac o’r smotyn, safio,

Llawn o gred ei arbed o,

Byw i lwyddiant a bloeddio!

 

Tri-dau’n sgôr i’w glodfori – Llun y Pasg

Llawn apêl yw’r stori,

Mae’n wir fod ein Wrecsam ni

i fod i atgyfodi.

 

Arwel Emlyn