Mae Eisteddfod Llangollen wedi penderfynu y byddan nhw’n parhau i ddefnyddio’u harwyddair wedi’r cyfan.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar y byddai’r arwyddair ‘Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo’ yn cael ei newid y flwyddyn nesaf yn sgil pryderon y gallai gael ei gamddehongli.

Y cyfieithiad Saesneg o’r geiriau o eiddo’r bardd T. Gwynn Jones yw ‘Blessed world’, ond cafodd pryderon eu codi mewn ymgynghoriad ynghylch y cyfieithiad llythrennol ac y gallai hynny arwain at gamddehongli’r arwyddair fel un hiliol.

Cynigiodd cynhyrchydd creadigol yr Eisteddfod newid yr arwyddair, ond doedd hynny ddim at ddant pawb.

Llythyr

Roedd degau o bobol wedi anfon llythyr agored at gadeirydd ac aelodau Cyngor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddangos eu hanfodlonrwydd ynghylch y cynlluniau.

Ymhlith y rhai oedd wedi llofnodi’r llythyr mae academyddion, darlithwyr, ysgolheigion, awduron a nofelwyr, beirdd, Prifeirdd ac aelodau’r Orsedd, cyfieithwyr, golygyddion, darlledwyr a thiwtoriaid Cymraeg.

Dywedodd y llythyr fod y rhai sydd wedi ei lofnodi am “ddatgan ein hanfodlonrwydd a’n pryder” ynghylch y penderfyniad.

“Defnyddiwyd yr arwyddair – yn ei ffurf Gymraeg wreiddiol ac mewn cyfieithiad safonol i’r Saesneg – heb wrthwynebiad a heb achosi tramgwydd gan yr Eisteddfod er ei sefydlu yn 1947,” meddai.

“Yn ogystal â’r ystyr amlwg – sy’n cyfleu ysbryd yr ŵyl yn gain a chofiadwy mewn cynghanedd – mae’n hysbys hefyd fod yr arwyddair yn corffori darn o hanes yr Eisteddfod: mae mwysair yn y llinell gyntaf sy’n cyfeirio at W. S. Gwynn Williams, prif sefydlydd yr Eisteddfod, ei Chyfarwyddwr Cerdd am flynyddoedd lawer, a chyfaill i T. Gwynn Jones.

“Ymhlith y rhesymau a roddwyd o blaid newid yr arwyddair nodwyd yn gyhoeddus gan un o lefaryddion yr Eisteddfod y gallai’r arwyddair o’i gyfieithu ar-lein achosi tramgwydd hiliol. Gwrthodwn sail y ddadl hon yn llwyr.

“Gallai llu o ymadroddion o liaws o ieithoedd y byd beri tramgwydd i wahanol garfanau o’u cyfieithu’n llythrennol ac anghywir heb ystyried priod-ddulliau ac arferion traddodiadol yr ieithoedd y cyfieithwyd ohonynt.

“Ni ddylid ymwrthod ag ymadroddion ar sail cyfyngiadau rhaglenni cyfieithu ar-lein, a’u tuedd weithiau i gyfieithu’n llythrennol heb gyfleu’n briodol ystyron cydnabyddedig nac arlliw ymadrodd.

“Y mae gan arwyddair T. Gwynn Jones ei ystyr yn y Gymraeg a honno’n ystyr gwbl gymeradwy; yn ôl yr ystyr honno y dylid ystyried yr arwyddair, ac nid yn ôl llathen fesur cyfieithu annigonol a ffaeledig.

“Y mae gan y Gymraeg, fel ieithoedd eraill, ei sofraniaeth ei hunan o ran ymadrodd ac ystyr, un y dylid ei chydnabod a’i pharchu.

“Ni wyddom am enghreifftiau o ieithoedd lle cytunai ei siaradwyr i ymwrthod â’r defnydd o ymadroddion cwbl ddiniwed a derbyniol oherwydd y posibilrwydd y gallai eu cyfieithu’n llythrennol ac annigonol beri tramgwydd i rywrai yn rhywle.

“Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yr Eisteddfod Ryngwladol am wneud eithriad o’r Gymraeg yn hyn o beth gan ei darostwng a’i diraddio o’i chymharu ag ieithoedd eraill.

“Y mae’r ffaith hon yn gwbl ganolog yn yr achos hwn.

“Afraid dweud bod Gwyn fyd (fel yn y Gwynfydau) yn ymadrodd hynafol yn y Gymraeg, gydag ymadroddion cytras a chyfochrog yn y Llydaweg, y Gernyweg, a’r Wyddeleg.

“Dylai’r Eisteddfod, fel digwyddiad diwylliannol a gynhelir yng Nghymru, barchu’r ffaith hon a thrwy hynny barchu’r Gymraeg a’i siaradwyr a thraddodiad diwylliannol Cymru yr un pryd.

“Y mae’n ddrwg gennym fod yr achos hwn, a gymhellwyd gan anwybodaeth ac annealltwriaeth, wedi dwyn anfri ar yr Eisteddfod a’i gwneud yn gyff gwawd.

“Fel rhai y bu ganddynt barch mawr tuag at yr Eisteddfod erfyniwn yn daer ar Gyngor yr Eisteddfod i newid ei benderfyniad gan adfer enw da’r ŵyl.

“Byddai gwneud hynny hefyd yn dileu’r anfri a roddwyd ar goffadwriaeth T. Gwynn Jones, gŵr nodedig o flaengar ei syniadau yn ei ddydd, a heddychwr a rhyng-genedlaetholwr eang ei olygwedd.

“Gofynnwn yn garedig ichwi ymatal rhag unrhyw weithredu pellach o ran dileu’r arwyddair nes i’r mater gael ei aildrafod yn llawn mewn cyfarfod o’r Cyngor.”

‘Ymrwymo i drafodaeth gyhoeddus’

“Yn dilyn cryn ystyriaeth o ymateb y cyhoedd, mae’r Bwrdd wedi pleidleisio i barhau i ddefnyddio arwyddair T. Gwynn Jones,” meddai llefarydd ar ran Eisteddfod Llangollen.

“Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i drafodaeth gyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod arwyddair yr Eisteddfod yn adlewyrchu’r byd rydym yn byw ynddo heddiw a’r byd rydym am fyw ynddo yfory.

“Wrth drafod ein hagwedd at iaith fel sefydliad, ac wrth i ni ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg newydd (fydd yn cael ei rannu’n fuan), credwn fod angen ystyried llawer o leisiau gwahanol, a chwestiynu sut mae iaith yn parhau i esblygu.

“Hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi cyfrannu’n adeiladol at y drafodaeth ystyrlon hon; mae’r dadleuon wedi’u gwneud yn rymus iawn, ar y naill ochr, i gadw arwyddair presennol yr Eisteddfod, ac ar yr ochr arall, i gomisiynu barddoniaeth newydd.

“Er mwyn sicrhau fod y neges yn glir i’n cynulleidfaoedd ar draws y byd, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yr arwyddair yn ymddangos ochr yn ochr â’u gilydd lle bynnag y bo modd.

“Ein ffocws nawr yw cynnal Eisteddfod a fydd yn dod â chymunedau o bedwar ban byd ynghyd, mewn dathliad llawen o rym cerddoriaeth a dawns i greu dealltwriaeth a harmoni.”

Dicter degau tros benderfyniad Eisteddfod Llangollen i gefnu ar arwyddair

Mae llythyr sydd wedi’i lofnodi gan ddegau o bobol wedi’i anfon at Gadeirydd ac aelodau Cyngor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen