Mae degau o bobol flaenllaw wedi llofnodi llythyr yn gwrthwynebu penderfyniad Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i newid eu harwyddair.
Daeth cadarnhad yn ddiweddar y byddai’r arwyddair ‘Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo’ yn cael ei newid y flwyddyn nesaf yn sgil pryderon y gallai gael ei gamddehongli.
Y cyfieithiad Saesneg o’r geiriau o eiddo’r bardd T. Gwynn Jones yw ‘Blessed world’, ond cafodd pryderon eu codi mewn ymgynghoriad ynghylch y cyfieithiad llythrennol ac y gallai hynny arwain at gamddehongli’r arwyddair fel un hiliol.
Cynigiodd cynhyrchydd creadigol yr Eisteddfod newid yr arwyddair, ond dydy hynny ddim at ddant pawb.
Llythyr
Mae degau o bobol wedi anfon llythyr agored at gadeirydd ac aelodau Cyngor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddangos eu hanfodlonrwydd ynghylch y cynlluniau.
Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae academyddion, darlithwyr, ysgolheigion, awduron a nofelwyr, beirdd, Prifeirdd ac aelodau’r Orsedd, cyfieithwyr, golygyddion, darlledwyr a thiwtoriaid Cymraeg.
Dywed y llythyr fod y rhai sydd wedi ei lofnodi am “ddatgan ein hanfodlonrwydd a’n pryder” ynghylch y penderfyniad.
“Defnyddiwyd yr arwyddair – yn ei ffurf Gymraeg wreiddiol ac mewn cyfieithiad safonol i’r Saesneg – heb wrthwynebiad a heb achosi tramgwydd gan yr Eisteddfod er ei sefydlu yn 1947,” meddai.
“Yn ogystal â’r ystyr amlwg – sy’n cyfleu ysbryd yr ŵyl yn gain a chofiadwy mewn cynghanedd – mae’n hysbys hefyd fod yr arwyddair yn corffori darn o hanes yr Eisteddfod: mae mwysair yn y llinell gyntaf sy’n cyfeirio at W. S. Gwynn Williams, prif sefydlydd yr Eisteddfod, ei Chyfarwyddwr Cerdd am flynyddoedd lawer, a chyfaill i T. Gwynn Jones.
“Ymhlith y rhesymau a roddwyd o blaid newid yr arwyddair nodwyd yn gyhoeddus gan un o lefaryddion yr Eisteddfod y gallai’r arwyddair o’i gyfieithu ar-lein achosi tramgwydd hiliol. Gwrthodwn sail y ddadl hon yn llwyr.
“Gallai llu o ymadroddion o liaws o ieithoedd y byd beri tramgwydd i wahanol garfanau o’u cyfieithu’n llythrennol ac anghywir heb ystyried priod-ddulliau ac arferion traddodiadol yr ieithoedd y cyfieithwyd ohonynt.
“Ni ddylid ymwrthod ag ymadroddion ar sail cyfyngiadau rhaglenni cyfieithu ar-lein, a’u tuedd weithiau i gyfieithu’n llythrennol heb gyfleu’n briodol ystyron cydnabyddedig nac arlliw ymadrodd.
“Y mae gan arwyddair T. Gwynn Jones ei ystyr yn y Gymraeg a honno’n ystyr gwbl gymeradwy; yn ôl yr ystyr honno y dylid ystyried yr arwyddair, ac nid yn ôl llathen fesur cyfieithu annigonol a ffaeledig.
“Y mae gan y Gymraeg, fel ieithoedd eraill, ei sofraniaeth ei hunan o ran ymadrodd ac ystyr, un y dylid ei chydnabod a’i pharchu.
“Ni wyddom am enghreifftiau o ieithoedd lle cytunai ei siaradwyr i ymwrthod â’r defnydd o ymadroddion cwbl ddiniwed a derbyniol oherwydd y posibilrwydd y gallai eu cyfieithu’n llythrennol ac annigonol beri tramgwydd i rywrai yn rhywle.
“Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yr Eisteddfod Ryngwladol am wneud eithriad o’r Gymraeg yn hyn o beth gan ei darostwng a’i diraddio o’i chymharu ag ieithoedd eraill.
“Y mae’r ffaith hon yn gwbl ganolog yn yr achos hwn.
“Afraid dweud bod Gwyn fyd (fel yn y Gwynfydau) yn ymadrodd hynafol yn y Gymraeg, gydag ymadroddion cytras a chyfochrog yn y Llydaweg, y Gernyweg, a’r Wyddeleg.
“Dylai’r Eisteddfod, fel digwyddiad diwylliannol a gynhelir yng Nghymru, barchu’r ffaith hon a thrwy hynny barchu’r Gymraeg a’i siaradwyr a thraddodiad diwylliannol Cymru yr un pryd.
“Y mae’n ddrwg gennym fod yr achos hwn, a gymhellwyd gan anwybodaeth ac annealltwriaeth, wedi dwyn anfri ar yr Eisteddfod a’i gwneud yn gyff gwawd.
“Fel rhai y bu ganddynt barch mawr tuag at yr Eisteddfod erfyniwn yn daer ar Gyngor yr Eisteddfod i newid ei benderfyniad gan adfer enw da’r ŵyl.
“Byddai gwneud hynny hefyd yn dileu’r anfri a roddwyd ar goffadwriaeth T. Gwynn Jones, gŵr nodedig o flaengar ei syniadau yn ei ddydd, a heddychwr a rhyng-genedlaetholwr eang ei olygwedd.
“Gofynnwn yn garedig ichwi ymatal rhag unrhyw weithredu pellach o ran dileu’r arwyddair nes i’r mater gael ei aildrafod yn llawn mewn cyfarfod o’r Cyngor.”
❝ Dim byd yn hiliol ynghylch ‘Gwyn fyd’
Geiriau T. (angen rhywbeth arall) Jones
❝ Bendith arnoch…