Adroddwyd yn ddiweddar ar y cyfryngau newyddion fod Cyngor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w harwyddair ‘Byd gwyn fydd byd a gano, / Gwaraidd fydd ei gerddi fo’ a luniwyd gan T Gwynn Jones.  Fel un a dderbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen ac fel un yr oedd yr Eisteddfod yn rhan bwysig o’i fagwraeth, yr oedd hyn yn siom ac yn syndod o’r mwyaf imi.  Cysylltiad personol arall oedd fod T Gwynn Jones ar un adeg yn Athro Llenyddiaeth Gymraeg yn y