Yr wythnos hon yng nghylchgrawn Golwg, yr awdur Marlyn Samuel o Ynys Môn sy’n rhoi cyngor i ddyn sydd wedi darganfod bod ei wraig ar wefan ddêtio 

Annwyl Marlyn,

Mae fy ngwraig wastad wedi bod yn fwy hyderus na fi. Dwi’n teimlo weithiau ei bod hi’n erfyn i fi fod yn fwy fel hi, ond nid dyna pwy ydw i. Wnes i golli’n swydd ddwy flynedd yn ôl ac er fy mod i’n gweithio eto erbyn hyn, dw i’n ennill llawer llai nag oeddwn i ac mae fy ngwraig yn ennill ddwywaith cymaint â fi. Dydy hynny ddim wedi helpu pethau.

Tua mis yn ôl ro’n i wedi mynd allan am beint a dyma un o’r hogia yn cellwair ei fod wedi gweld fy ngwraig ar wefan ddêtio. Pan es i adra wnes i fynd ar y wefan a dyna le’r oedd llun ohoni, yn datgan ei bod hi wedi “gwahanu” ac yn chwilio am “antur” gyda rhywun tebyg.

Mae hi wedi colbio’n hunan hyder i unwaith eto. Dw i ddim wedi siarad efo hi am hyn achos dw i ddim yn gwybod beth i wneud a dw i’n ofni y bydd hi’n dweud mai dyma’r diwedd i ni. Ydach chi’n credu dylwn i ddweud fy mod i’n gwybod neu smalio bod bob dim yn iawn?

Dwi’n siŵr fod darganfod fod eich gwraig yn chwilio am ddyn arall wedi bod yn sioc, a dweud y lleiaf.  Mae’n amlwg fod yna broblem fawr yn eich priodas sydd rhaid ei hwynebu.

Un peth y dylid ei ystyried – ydach chi’n berffaith siŵr mai proffil eich gwraig sydd ar y wefan yma go-iawn? Mae cymaint o sôn y dyddiau yma am broffil a chyfrifon ffug yn cael eu creu.

Mae’n rhaid i chi siarad efo’ch  gwraig ynglŷn â hyn yn ddiymdroi. Camgymeriad o’r mwyaf fyddai peidio â dweud dim. Byw celwydd fyddai hynny ac fe fyddai hynny ond yn gwneud y sefyllfa’n waeth yn y pen draw. Fy nghyngor i ydi i chi fagu digon o blwc, dewis eich moment yn ofalus, pan mae ganddoch chi’ch dau ddigon o amser a llonydd i drafod hyn. Rhowch gyfle iddi esbonio pam ei bod wedi ymuno â gwefan ddêtio, a pham ei bod yn teimlo mor anfodlon ac anhapus yn eich perthynas ar hyn o bryd. Os ydach chi’n teimlo fod eich gwraig yn meddwl llai ohonoch chi am eich bod chi’n ennill llai o gyflog na hi, yna mi ddylech chi drafod hynny efo hithau. Mae cydraddoldeb yn allweddol bwysig mewn unrhyw berthynas, hyd yn oed os nad ydi’r cyflogau’n gydradd.

Rhaid i mi gyfaddef y peth cyntaf ddaeth i’n meddwl i ar ôl darllen eich llythyr oedd y gȃn honno gan Rupert Holmes, ‘Escape’, sy’n cael ei hadnabod fel The Pina Colada Song a oedd yn boblogaidd iawn yn y saithdegau.

Yn y gȃn mae’r dyn wedi diflasu efo’i bartner gan fod y berthynas wedi colli ei sbarc. Un diwrnod  mae’n gweld hysbyseb yn y papur newydd am ddynes sy’n chwilio am bartner ac un o’r nodweddion mae’n rhaid iddo ei gael ydi ei fod yn hoffi pinna coladas. Mae’r dyn yn ymateb i’r hysbyseb ac yn trefnu i gyfarfod y ddynes mewn bar. Pan mae’n cyrraedd mae’n cael andros o sioc pan mae’n darganfod mae ei bartner presennol sydd yno. Mae’r gȃn yn gorffen yn obeithiol drwy ddangos fod gan y ddau lawer iawn mwy yn gyffredin nag yr oedden nhw wedi’i sylweddoli. Yn ôl pob sôn, seiliwyd y gȃn ar stori go-iawn. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn argymell am funud i chi ymuno ȃ gwefan ddêtio! Ond fel y cwpwl sydd yn y gȃn, efallai fod gan y ddau ohonoch chithau fwy yn gyffredin hefyd a bod modd ail gynnau’r fflam ac adfer eich priodas.

Adfer y briodas?

Rydych chi’n dweud eich bod yn teimlo weithiau ei bod hi’n “erfyn i fi fod yn debycach iddi hi, ond nid dyna pwy ydw i”. Peidiwch ag ymddiheuro a theimlo’n wael am hynny. Waeth faint maen nhw’n drio, allith neb newid ei bersonoliaeth. Opposites attract, meddan nhw. Yn ddi-os  mi rydan ni’n aml yn cael ein denu at bartneriaid sy’n complimentio ein personoliaethau ein hunain. Mae pobl allblyg yn cael eu denu at bobl fwy mewnblyg, bore godwyr tuag at dylluanod y nos, cynllunwyr gofalus at rai mwy byrbwyll ac yn blaen. I’r rhan fwyaf o gyplau, y gwahaniaethau yma ydi sail i’r elfen bwysicaf  mewn unrhyw berthynas sef y chemistry arbennig hwnnw sy’n bodoli rhwng cyplau.

Efallai drwy wyntyllu’r mater y bydd modd adfer y briodas. Ond efallai hefyd fod yr ysgrifen ar y mur yn barod, yn anffodus. Dydach chi ddim yn dweud ers pryd rydach chi efo’ch gwraig. Weithiau pan mae cyplau wedi cyfarfod yn ifanc iawn, dydyn nhw ddim yr un bobl ag yr oedden nhw’n ddeunaw oed, er enghraifft.  Mae rhywun wedi tyfu allan o’r berthynas. Ar ôl siarad efo’ch gwraig ynglŷn â hyn efallai y bydd rhaid i chithau dderbyn fod y briodas wedi rhedeg ei chwrs ac, yn y pen draw, gwell fyddai i chi a’ch gwraig wahanu a, maes o law, gyfarfod partneriaid newydd.