Mae pencampwriaeth Chwe Gwlad y merched yn cychwyn heddiw (dydd Sadwrn, 25 Mawrth), gyda Chymru yn herio’r Gwyddelod yng Nghaerdydd.
Yma mae Llywela Edwards yn edrych ar obeithion y tîm ac yn holi un o’r chwaraewyr sydd wedi cael cytundeb proffesiynol…
Mewn cyfnod digon tywyll yn hanes rygbi Cymru, dyma edrych ymlaen a gobeithio y daw’r merched â goleuni i’r gêm. Mae pencampwriaeth Chwe Gwlad y merched ar droed, â Chymru, sydd gyda mwy o chwaraewyr proffesiynol nag erioed, yn gobeithio am chwip o gystadleuaeth eleni.
Heb amheuaeth, mae Chwe Gwlad y merched wedi bod yn ‘ras dau geffyl’ ers blynyddoedd bellach rhwng y cewri proffesiynol, Lloegr a Ffrainc. Lloegr enillodd y Gamp Lawn yn 2022, gan ennill y bencampwriaeth am y pedwerydd tro yn olynol. Roedd y gwahaniaeth safon rhwng y ddau dîm yma a gweddill y gwledydd i’w weld yn glir. Ond a fydd tro yn y gynffon eleni?
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar bod 25 o chwaraewyr Cymru wedi derbyn cytundebau llawn amser ar gyfer y flwyddyn 2023, sy’n fwy na dwbl niferoedd y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n wych dweud hefyd bod Iwerddon, yr Alban a’r Eidal wedi dechrau troi at gytundebau proffesiynol i’r chwaraewyr. Dim ond gobeithio felly y bydd y buddsoddiad sydd wedi ei roi yng ngêm y merched yng Nghymru a’r gwledydd eraill yn cael ei adlewyrchu ar y cae, ac y gallwn roi dipyn o sioc i’r ddau geffyl blaen!
Ers dwy flynedd bellach, mae pencampwriaeth y merched wedi cael ei chynnal ar ôl i bencampwriaeth y dynion ddod i ben. Mae hyn yn cael ei weld fel cyfle da i’r sylw i gyd ddisgyn ar gêm y merched, yn hytrach na’u bod yn chwarae yng nghysgod y dynion a’r hogiau dan 20.
Felly, beth fydd gobeithion Cymru eleni?
Mae’n deg disgrifio canlyniadau Cymru yn y gystadleuaeth llynedd fel rhai cymysglyd, oherwydd er i’r cochion orffen yn drydydd yn y tabl ar ôl buddugoliaethau gwych yn erbyn Iwerddon a’r Alban, cafwyd canlyniad siomedig iawn ar dir cartref yn erbyn yr Eidal, yn ogystal â chwalfa yn erbyn Lloegr a Ffrainc.
Mae chwe enw newydd yn y garfan eleni, mewn ymgais i gryfhau’r garfan cyn paratoadau Cwpan y Byd 2025. Ar y llaw arall, mae amryw o enwau amlwg ar goll. Un o’r colledion mwyaf i’r garfan yw Jasmine Joyce. Dyma chwaraewr sydd wedi denu sylw ar draws y byd o ganlyniad i’w chyflymder aruthrol, ond mae hi wedi dewis canolbwyntio ar ei gyrfa yn y gêm saith bob ochr. Dim ond gobeithio y byddwn yn ei gweld yn ôl yn y crys coch yn fuan.
Gêm agoriadol y gystadleuaeth fydd Cymru v Iwerddon ddydd Sadwrn yma ar Barc yr Arfau. Bydd hon yn gêm allweddol i Gymru, sydd angen dechrau ar y droed flaen, ac fe fyddai buddugoliaeth yn creu momentwm pwysig wrth fynd ymlaen i’r Alban yr wythnos ganlynol. Dwy gêm galed iawn fydd yn wynebu Cymru wedyn, pan fydd y gelyn pennaf, Lloegr, yn ymweld â Chaerdydd, cyn i Gymru deithio i Ffrainc. Bydd Cymru yn gobeithio rhoi coron ar y cyfan yn yr Eidal ar benwythnos olaf y gystadleuaeth, a phwy a ŵyr, efallai bydd y merched yn chwarae am y Gamp Lawn!
“Strwythur newydd, cyfle gwych”
Un sy’n awchu i gychwyn y gystadleuaeth eleni ydi Gwenllian Pyrs, y prop o Ysbyty Ifan. Mae taith rygbi Gwenllian wedi bod yn un cyffrous dros ben, gan ddechrau yn chwarae i dîm dan 18 Nant Conwy yn Llanrwst. Mae hi bellach wedi ennill 22 o gapiau i’w gwlad, ac yn chwarae yn wythnosol i glwb Bristol Bears dros y ffin. Roedd Gwenllian yn un o’r 12 cyntaf i dderbyn cytundeb proffesiynol yn 2022, ac erbyn hyn gyda chytundeb tan ddiwedd tymor 2024.
Wrth drafod y cytundebau newydd yma, eglurodd Gwenllian pa mor fuddiol ydynt i’r merched: “Nid yn unig yr ochr rygbi, ond hefyd rydym yn cael mwy o amser i adennill ein nerth a chanolbwyntio ar fwyd a maeth, sy’n hanfodol bwysig yn y byd rygbi proffesiynol. Mae’r strwythur newydd wedi rhoi cyfle gwych i ni ddatblygu perthynas gydag aelodau’r garfan a’r tîm hyfforddi, gan fagu dealltwriaeth well yn yr ymarferiadau ac ar y cae rygbi.”
Wrth ei holi am deimladau’r garfan ar ôl Cwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Hydref llynedd, dywedodd Gwenllian eu bod yn “hapus iawn i fynd allan o’r grŵp a chyrraedd y chwarteri, ond rydym yn gwybod bod cyfleoedd wedi eu colli yn ystod y rowndiau gogynderfynol.”
Fe gollodd y merched o 55 i 3 yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Seland Newydd, sef y tîm aeth ymlaen i ennill Cwpan y Byd.
Mae Gwenllian yn credu bod y gystadleuaeth ei hun wedi bod yn llwyddiannus dros ben, ac yn “gam mawr ymlaen i dorri llwybr newydd a chyffrous i ddyfodol rygbi merched”.
Gan edrych ymlaen at y Chwe Gwlad, dywedodd Gwenllian bod “paratoadau trylwyr wedi eu gwneud, ac mae’r garfan yn awchu am gael dechrau. Bydd y gêm gyntaf yn hanfodol bwysig i ni, ac os cawn ni fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, mi wneith hynny roi momentwm i ni ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn yr Alban.”
Ar ôl dioddef anafiadau yn ystod Cwpan y Byd, mae Gwenllian yn gobeithio bod yn ffit ar gyfer pob un o’r gemau yn y Chwe Gwlad. Un gêm mae hi’n edrych ymlaen ati yn benodol yw’r ornest yn erbyn Ffrainc: “Dydw i erioed wedi chwarae i ffwrdd yn Ffrainc, felly mi fuaswn wrth fy modd yn cael fy newis ar gyfer y gêm honno – mae’r merched yn dweud bod yr awyrgylch yn Ffrainc yn anhygoel a’r stadiwm yn llawn dop, gyda’r dorf yn uchel eu cloch bob amser. Er eu bod yn dîm corfforol iawn, dwi wrth fy modd yn chwarae yn eu herbyn!”
Wrth drafod y gêm yn gyffredinol yng Nghymru, dyma oedd geiriau ysbrydoledig Gwenllian: “Mae rygbi merched ar groesffordd bwysig, ac rwy’n hyderus bod amser cyffrous o’n blaenau. Dwi’n cymell merched ifanc Cymru i fod yn hyderus a chymryd pob cyfle posib i weithio’n galed ar eu doniau rygbi a gwthio’u hunain i safon uwch. Mae cyfnod cynhyrfus ar y gorwel, a gobeithio bydd hyn yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc Cymru ym maes rygbi a thu hwnt.”
Clywch clywch – a gyda phob un o gemau Cymru yn cael eu darlledu yn fyw ar BBC iPlayer, mae hyn yn llwyfan perffaith i ddenu cefnogwyr a chwaraewyr newydd, ac yn gyfle gwych i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o grysau cochion.
Cymru v Iwerddon brynhawn Sadwrn, y gic gyntaf am 2.15 – gêm yn fyw ar bbc iplayer