Wrth i S4C gyhoeddi cyfres arall cefn-wrth-gefn – rhai sy’n cael ei ffilmio yn Saesneg ac yn y Gymraeg – mae awdur nofelau ditectif enwog o’r Bala yn beirniadu’r arfer.

Un o broblemau’r iaith Gymraeg yw bod pobl Saesneg ddim yn “gweld” yr iaith Gymraeg, ac yn cael yr argraff “wirion” ei bod yn iaith farw, yn ôl Clare Mackintosh.