Mae Dafydd Glyn Jones eisiau gweld streic arall… nid gan athrawon, na nyrsys, ond gan feirdd…

“Newydd glywed am benderfyniad awdurdodau Eisteddfod Llangollen i ‘gydweithio â bardd’ er mwyn cael arwyddair newydd yn lle cwpled T. Gwynn Jones. Feirdd, sefwch yn y bwlch. Peidiwch â gwneud dim i hyrwyddo’r ffwlbri ofnadwy yma sy’n tarddu o benglogau pobl ddigywilydd a di-ddallt.”

‘Byd gwyn yw byd a gano’ ydi’r geiriau sy’n achosi tramgwydd, am fod Google Translate yn mynnu eu cyfieithu yn ‘white world’ …

“‘Google Translate’ wir! Fe ganodd bardd mawr o Gymro o’i galon gan roi arwyddair cynnes ac addas sydd wedi gwasanaethu ac wedi ysbrydoli hyd y dydd hwn. Oes unrhyw brydydd heddiw’n meddwl y gall wella arno?” (glynadda.wordpress.com)

Ac mae’r blogwyr yn gytûn ynghylch yr esboniad…

“Mae gynnon ni’r genedl duedd mwy na thrist o gymharu popeth a wnawn gydag ein cymydog mwy; i rai, mae’n ymddangos nad oes modd barnu’r geiriau a ddefnyddiwn heblaw o’u cymharu gyda chyfieithiad posib i’r Saesneg. Mae’n adlewyrchiad gwael arnon ni fod y cynnig i newid wedi mynd cyn belled ag y mae.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

“Pwrpas honedig yr Eisteddfod yw rhannu diwylliant Cymru gyda’r byd ac eiddo’r byd gyda Chymru; mae’r syniad fod rhaid i ni, er mwyn gwneud hynny, guddio’r elfennau o’n diwylliant nad ydyn nhw’n cydymffurfio â disgwyliadau ‘rhyngwladol’ (h.y. Saesneg) fel petai’n mynd yn hollol groes i’r genhadaeth honno.” (Adam Pearce ar nation.cymru)

Ac yn ôl â ni at John Dixon am enghraifft arall o ryfeddod yr oes, wrth iddo edrych ymlaen at dystiolaeth cyn-Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, o flaen pwyllgor seneddol…

“Dyma ddyn sy’n hawlio nad oedd hyd yn oed yn gwybod ei fod mewn parti am nad oedd neb wedi ei e-bostio i ddweud hynny. Fe fydd yr amddiffyniad, wrth gwrs, yn cael ei gyflwyno gyda’r brygowthan, y symud sylw a’r celwydd noeth y mae’n enwog amdanyn nhw ond, o’i grynhoi i’w elfennau sylfaenol, mae’n swnio’n debyg iawn i bledio twpdra neu wallgofrwydd. Rhy dwp i ddeall ei reolau ei hun, neu’n ddigon gwallgof i feddwl y bydd unrhyw un arall yn credu ei fod yn dweud y gwir.”

I genedlaetholwyr yr Alban, wrth gwrs, mae’r gwahaniaeth rhwng darlun a realiti wedi troi’n fater difrifol wrth i dri ymgeisydd gynnig am arweinyddiaeth yr SNP ynghanol chwalfa gyhoeddus yn sgil ymddiswyddiad Nicola Sturgeon…

“… mae argae oedd yn dal grymoedd pwerus elfennol yn ôl bellach wedi torri. Mae ei muriau wedi chwalu a thon o ddryswch, anhrefn a cholli cyfeiriad wedi taflu pobol yma ac acw, gan adael rhai ohonyn nhw mewn penbleth llwyr; mae rhai mor ddryslyd nes gwadu bod yna argyfwng… erbyn hyn, mae’r SNP yn blaid i’r elît mewnol – ymgorfforiad o sefydliad gwleidyddol y dosbarth datganoli. Mae pris wedi’i dalu am hyn: mae’r blaid wedi colli ei min radical, ei synwyryddion gwleidyddol a dealltwriaeth o’r hyn y dylai dal grym ei olygu ac o’i hamcanion yn y pen draw.” (Gerry Hassan ar bellacaledonia.org.uk)