Mae S4C wedi croesawu cyhoeddi Mesur y Cyfryngau, fydd yn sicrhau tegwch i ddarlledwyr wrth gystadlu â chewri’r byd ffrydio.

Fel rhan o’r Mesur, bydd yn rhaid i gwmnïau mawr fel Netflix, Amazon Prime Video, Disney+ ac eraill ufuddhau i reolau Ofcom, gan sicrhau bod gwasanaethau ar-alw darlledwyr cyhoeddus yn hawdd eu canfod ar setiau teledu clyfar a ffyn ffrydio.

Bydd yn rhaid i wasanaethau ffrydio hefyd ddarparu is-deitlau, disgrifiadau clywedol ac arwyddo.

Y gobaith yw y bydd y Mesur yn galluogi sianeli fel S4C i wireddu eu potensial i dyfu, cynhyrchu mwy o gynnwys gwreiddiol a buddsoddi mewn technolegau newydd i’w galluogi nhw i gystadlu â llwyfannau ffrydio.

Bydd yn rhaid i lwyfannau megis Google ac Amazon sicrhau hefyd fod modd i wrandawyr gael mynediad i’r holl orsafoedd radio trwyddedig yn y Deyrnas Unedig, o orsafoedd cenedlaethol i rai lleol.

O ran arferion gwylio teledu traddodiadol, mae nifer y gwylwyr wedi gostwng mwy na 25% ers 2011, a 68% ymhlith pobol 16 i 24 oed.

Bydd yn rhaid i ddeunydd ar-alw, megis S4C Clic, fod yn fwy hygyrch hefyd i bobol â nam ar eu golwg a’u clyw ac i bobol sy’n gwylio setiau teledu clyfar a ffyn ffrydio yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Byddai’r Mesur hefyd yn dileu cyfynigadau daearyddol er mwyn i S4C gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy’r Deyrnas Unedig, a bydd cynnwys y sianel ar gael ar fwy o wasanaethau digidol newydd.

‘Cadarnhau sefyllfa S4C’

“Rydym yn falch iawn o weld Mesur y Cyfryngau’n cael ei gyhoeddi,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Bydd hyn yn cadarnhau sefyllfa S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-blatfform ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

“Rydym hefyd yn croesawu’r cynigion i ddiweddaru’r ffordd mae’r cyfryngau’n cael eu rheoleiddio’n gyffredinol yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth y llynedd.

“Bydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd brodorol, gan gynnwys Cymraeg, yn rhan o’r cylch gorchwyl newydd ar gyfer teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

“Bydd hefyd yn ymestyn y gyfraith sy’n ymwneud â’r cyfryngau i wylio teledu ar-lein, a sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu cysylltiedig ag yn amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.

“Bydd hyn yn cefnogi’n huchelgais i sicrhau bod y gynulleidfa’n medru canfod S4C ar-alw ar setiau teledu cysylltiedig â bod ein cynnwys Cymraeg yn amlwg ac yn hawdd i wylwyr yng Nghymru ei ganfod.

“Rydym yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ymgynghori ar y Mesur drafft ac edrychwn ymlaen at adolygu manylion y Mesur.”

‘Moderneiddio cylch gorchwyl S4C’

“Ar ran Bwrdd S4C, dwi’n croesawu’n fawr fod Mesur y Cyfryngau wedi ei gyhoeddi,” meddai Rhodri Williams, cadeirydd S4C.

“Bydd hyn yn moderneiddio cylch gorchwyl S4C ar gyfer oes ddigidol, gan adeiladu ar yr argymhellion yn Adolygiad Annibynnol y diweddar Euryn Ogwen Williams o S4C yn 2018.

“Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu’n gwasanaethau ymhellach a rhoi cynnwys Cymraeg ar-alw ar y prif blatfformau ar draws y Deyrnas Unedig.”