Trafod pa mor unigryw yw profiad menywod o fyd natur fydd cyfraniad yr awdur Jasmine Donahaye i ŵyl Amdani, Fachynlleth! dros y penwythnos hwn (Mawrth 31 – Ebrill 2).
Bydd yr ŵyl lenyddol yn cael ei chynnal yn y dref am y trydydd tro ddiwedd yr wythnos, gyda chyfraniadau gan awduron ac arbenigwyr fel Mike Parker, Simon Brooks, Maggie Ogunbanwo, Mererid Puw Davies, a Carwyn Graves.
Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal ym mis Tachwedd 2021, ac roedd yn gyfle i ddathlu bywyd Jan Morris, ond erbyn hyn mae’r ŵyl yn cael ei chynnal bob mis Ebrill.
Ddydd Sul, bydd Jasmine Donahaye yn trafod sut beth ydy profiad menywod o fyd natur a’r rhwystrau mae menywod yn eu hwynebu gyda’r gwyliwr adar Charmain Savill yn nhafarn y Wynnstay yn y dref.
Mae ei chyfrol, Birdsplaining: A Natural History, yn edrych ar hynny wrth i’r awdur deithio Cymru, yr Alban, Califfornia a’r Dwyrain Canol.
“Mae rhai themâu yn fy nghasgliad o ysgrifau sy’n edrych ar ein perthynas â’r byd natur a’n perthynas â’n gilydd,” eglura Jasmine Donahaye, sy’n darlithio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, wrth golwg360.
“Un gwahaniaeth yw risg: mae’n rhaid i fenyw wneud math o asesiad risg bob tro mae hi’n mynd allan ar ben ei hunan.
“Mae’n gwneud effaith ar ei phrofiad sydd yn wahanol i ddynion.
“Ofn a rheolaeth yw un o’r themâu dw i’n sgrifennu amdanyn nhw – yn ôl fy mhrofiad i.
“A dyma agwedd yr holl gyfrol: dw i’n trio archwilio syniadau o’r safbwynt profiad – a hefyd trwy adar – ac nid drwy arbenigedd, felly’n cynnig ffordd arall i rannu gwybodaeth.”
Gwladychu a byd natur
Dyma fydd y tro cyntaf i Jasmine Donahaye gymryd rhan yng ngŵyl Amdani, Fachynlleth! ac mae hi’n edrych ymlaen at gael ymweld.
“Mae’n lein-yp grêt, a gobeithio ga i weld hen ffrindiau sy’n cymryd rhan, a chwrdd ag awduron newydd a chyfrolau newydd hefyd.”
Dydy’r awdur heb benderfynu’n union pa themâu i gyffwrdd arnyn nhw yn y drafodaeth eto.
“Mae rhai ymatebion i’r gyfrol wedi canolbwyntio ar y bennod o dan yr enw ‘Field Guides’ – lle dw i’n archwilio sut mae ein patrymau cymdeithasol yn ymddangos ar dudalennau cyfrolau am adar,” eglura.
“Hefyd efallai y gwnâi gyffwrdd ar goloneiddio – dw i’n sgrifennu am HB Tristram, naturiaethwr o Loegr oedd yn teithio ym Mhalestina yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Ond wrth gwrs mae yna gwestiynau tebyg am goloneiddio nawr yng Nghymru: pwy sy’n rheoli sut ydyn ni’n trin y byd natur, a phwy sy’n gallu dweud pa fath o agwedd yw’r agwedd ‘cywir’?”
- Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener, Mawrth 31 ac Ebrill 2, gyda nifer o ddigwyddiadau mewn sawl lleoliad yn nhref Machynlleth.