Mae arddangosfa newydd sy’n archwilio sut mae ymgyrchwyr hawliau sifil adnabyddus yn berthnasol i Gymru heddiw yn agor ym Mangor heno (Mawrth 28).
Bydd yr artistiaid Jean Samuel Mfikela a Rhona Bowey Brito yn cyfrannu at arddangosfa Cynhwysiant, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Bangor Arts Inititive.
Gan ddechrau yn Clio Lounge heno, bydd yr arddangosfa yna’n symud i Dafarn y Black Boy yng Nghaernarfon fory, yna i Westy’r Castle Bank yng Nghonwy ddydd Iau a Gwesty’r George, Caergybi ddydd Gwener.
Bydd sylw’n cael ei roi i ymgyrchwyr hawliau sifil fel Martin Luther King Jr, Malcolm X a Betty Campbell, ynghyd â gwleidyddion fel Abraham Lincoln a J F Kennedy.
Angen am addysg
Y gobaith ydy defnyddio celf i addysgu pobol, meddai Jean Samuel Mfikela, sy’n dod o Gameroon ac wedi ymgartrefu ym Mangor ers naw mlynedd.
Er ei fod yn credu bod Cymru’n wlad gynnes a chroesawgar, mae hiliaeth yn bodoli o hyd ymysg “lleiafrif ac unigolion”, ac anwybodaeth sy’n sail i hynny, meddai.
Mae’r arddangosfa’n berthnasol i bobol heddiw oherwydd bod y celfyddydau yn ffordd o drosglwyddo neges bwysig am amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth i bobol ar lawr gwlad a llywodraethau, eglura’r artist wrth golwg360.
“Dylai’r gymuned hon a’r wlad hon fod yn wrth-hiliol.
“Dylai pobl gael eu trin yn gyfartal, a dylem ddathlu ein hamrywiaeth.
“Mae celf yn bwerus iawn.
“Fel gair o eglurhad: rydym eisoes yn ddiolchgar iawn i Gymru oherwydd dw i wedi teithio i lawer o wledydd, ac mae fy nghyfnod yng Nghymru wedi bod yn fendigedig
“Mae rhai pobol sy’n dod i’r gymuned hon, yn enwedig Bangor, yn anghofio am lefydd eraill ac yn aros yma oherwydd eu bod nhw’n dechrau teimlo’n gartrefol.
“Ond credwn y gallwn wneud hyd yn oed yn well drwy ddatblygu.
“Mae pobol yn wych, ond mae angen rhywfaint o addysg arnynt o hyd.
“Weithiau mae gennym ni broblemau hiliaeth o hyd, mae’r broblem gan y lleiafrif ac unigolion, ond mae’n dal i fod yno.
“Dw i’n deall bod y pethau hyn yn digwydd oherwydd anwybodaeth.
“Dyna pam rydyn ni’n meddwl mai addysgu yw’r unig ffordd, mae angen arddangosfeydd neu sgrifennu.
“Rydym yn helpu’r gymuned i wella, ac i symud ymlaen.”
‘Parhau â’r gwaith’
Sail yr arddangosfa ydy cofio unigolion fu’n gweithio mewn gwledydd eraill i ymgyrchu dros hawliau sifil.
“Mae pobol o gefndiroedd amrywiol wedi hyrwyddo hyn mewn cenhedloedd eraill,” esbonia Jean Samuel Mfikela
“Er enghraifft, rydym yn siarad am bobol fel Nelson Mandela, Martin Luther King, a Gandhi.
“Straeon yw’r rhain sy’n sôn am ddynoliaeth a hawliau dynol a chydraddoldeb i ddynolryw.
“Rydyn ni’n meddwl os all pobol glywed eu straeon a gwybod faint maen nhw wedi gweithio a sut mae eu gwaith wedi arwain at newidiadau, yna gall pobol ddeall na ddylai unrhyw berson, unrhyw unigolyn, deimlo eu bod yn rhy fach i gyfrannu at newid cymdeithasol.
“Ein bwriad yw y dylai pobol sy’n byw heddiw sylweddoli nad yw newid cymdeithasol yn digwydd oherwydd ein bod am iddo ddigwydd. Mae’n digwydd oherwydd bod rhywun mewn hanes yn gwneud pethau.
“Dylid cwblhau gwaith anorffenedig y straeon hyn yn ein hoes ni oherwydd eu bod nhw’n weithredoedd dros ryddid.
“Ein gwaith ni nawr yw parhau.
“Rydym am atgoffa pobol gyffredin o’u rhwymedigaethau.”