Byddai hi’n “fraint” i gantores werin o Gaernarfon ddod i’r brig yng nghategori Tlws y Werin Gwobrau Gwerin Cymru eleni.

Mae Tapestri, band Sarah Zyborska, wedi cyrraedd y rhestr fer, a byddai ennill yn gydnabyddiaeth o’u gwaith caled, ynghyd â dod â chyhoeddusrwydd i’w halbwm newydd.

Gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru bleidleisio yn y categori Tlws y Werin, sy’n cynnwys bandiau fel AVANC, The Trials of Cato, a Vrï hefyd, cyn dydd Mercher, Mawrth 29.

Mae’r gwobrau hefyd yn cynnwys categorïau fel yr Artist Gorau, y Band Gorau, Cân Draddodiadol Orau, Albwm Orau, Cân Gymraeg Orau a’r Gân Saesneg Orau, a bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu ar Ebrill 20 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Bydd pedwaredd sengl Gymraeg Tapestri, ‘Dod yn Fyw’, yn cael ei rhyddhau fis nesaf, ac mae eu halbwm Tell Me World allan ers yr wythnos ddiwethaf.

Daeth Sarah Zyborks a Lowri Evans, sy’n dod o Drefdraeth yn Sir Benfro, ynghyd i greu’r prosiect gwerin yn 2019 ar ôl cyfarfod yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant.

‘Braint’

Yn ôl Sarah Zyborska, sydd bellach yn byw yn Llanfairpwll ar Ynys Môn, byddai’n fraint ennill y wobr am sawl rheswm.

“Mae gweithio gyda’n gilydd yn golygu llawer o jyglo a theithio,” meddai Sarah Zyborska wrth golwg360

“Byddai’n grêt gweld mwy o ferched yn ennill y stwff yma.

“Byddai’n meddwl llawer oherwydd mai pobol sy’n dewis yr enillydd – dim beirniad ond pobol.

“Rydym ni newydd ryddhau albwm felly byddai’n dda iawn ennill rhywbeth yr un pryd ag yr ydym yn rhyddhau hwnna.”

Diffyg menywod ar lwyfannau

Roedd y ddwy yn perfformio’n unigol ar lwyfan Cymru yng Ngŵyl An Oriant yn 2019 pan ddaethon nhw ynghyd.

“Doedden erioed wedi cwrdd cyn hynny mewn gwirionedd,” eglura Sarah Zyborska.

“Daethom ni i nabod ein gilydd yn y fan yna, yng nghefn y llwyfan a chael sgwrs.

“Roedden ni’n gweld bod gennym lawr o stwff yn gyffredin, ac roedden ni’n teimlo ychydig yn rhwystredig am faint yn fwy o ddynion oedd yn cael cyfleoedd i fynd ar y prif lwyfannau mewn gwyliau.

“Roedd y ddwy ohonon ni wedi bod yn perfformio ar ben ein hunain ers cymaint o amser ac ychydig yn rhwystredig am hynny, roedden eisiau trio rhywbeth newydd.”

Gigio ac albwm gyntaf

Ychydig o gyfle gafodd Tapestri i berfformio cyn i’r cyfnod clo ddod i rym, ond fe wnaethon nhw barhau i gydweithio.

Ers i’r cyfnod clo ddod i ben maen nhw wedi bod yn chware yn gyhoeddus eto, ac wedi creu albwm.

“Mae’r albwm wedi ei recordio mewn nifer o fannau gwahanol,” eglura Lowri Evans.

“Blwyddyn ddiwethaf roedd gigs gyda ni. Chwaraeon ar y brif lwyfan yn Ŵyl Werin Caergrawnt, oedd yn anhygoel Chwaraeon yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a Sesiwn Fawr Dolgellau.

“A bydd taith gyda ni sef taith i hyrwyddo’r albwm gyntaf.”