Mae Canolfan y Mileniwm a Frân Wen yn cydweithio i gynhyrchu sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd sbon.

Bydd BRANWEN: DADENI gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies, yn cael ei llwyfannu yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor ym mis Tachwedd.

Mae’r bartneriaeth artistig yma yn nodi carreg filltir bwysig i’r ddau sefydliad wrth iddyn nhw ddechrau’r gwaith o gyflawni eu cyd-weledigaeth o gynhyrchu sioe gerdd Gymraeg nodedig, gan ddenu talent o bob cwr o Gymru ar gyfer ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi.

Wedi’i arwain gan dîm o dri awdur, mae cyd-greu wrth wraidd y cynhyrchiad.

Mae gwaith ysgrifennu blaenorol Hanna Jarman yn cynnwys GALWAD (Collective Cymru), Y Teimlad (CCIC) a drama gomedi S4C Merched Parchus y gwnaeth hi ei chreu, ei chyd-ysgrifennu ac ymddangos ynddi.

Mae gwaith ysgrifennu Elgan Rhys yn cynnwys Elen Benfelen/Goldilocks a Woof ar gyfer Theatr y Sherman, ac mae’n gweithio fel Golygydd Creadigol a Rheolwr Prosiect ar y gyfres Y Pump (Y Lolfa).

Yn fwyaf diweddar, mae Seiriol Davies, sydd hefyd wedi cyfansoddi ac ysgrifennu geiriau’r sioe, wedi ysgrifennu Betty: A Sort of Musical (Royal Exchange Manceinion), Milky Peaks (Theatr Clwyd ac Áine Flanagan Productions) a How to Win Against History, a agorodd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin – cafodd y sioe yr adolygiadau gorau yn yr Ŵyl honno ac yna gwerthodd ei rhediad yn y Young Vic yn Llundain allan.

Caiff Branwen: Dadeni ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen Gethin Evans, (Ynys Alys a Faust & Greta ar gyfer Frân Wen; cyfarwyddwr artistig perfformio byw ar gyfer GALWAD), sy’n arwain tîm arbennig o dalent greadigol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele (The Scandal at Mayerling, Dextera a chynhyrchiad sydd ar y gweill o Cinderella ar gyfer Scottish Ballet; A Midsummer Night’s Dream, Hero of the People, Woof ar gyfer Theatr y Sherman), y dylunydd goleuo Bretta Gerecke (Lady in the Dark ar gyfer Opera Zuid; dylunydd set a goleuo Coming to England ar gyfer Birmingham Rep; dylunydd set, goleuo, gwisgoedd a thafluniadau The Invisible ar gyfer Catalyst Theatre), y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts (arweinydd Band Pres Llareggub; trefnydd rheolaidd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Welsh Pops Orchestra ac S4C) a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams (The Cost of Living ar gyfer National Theatre Wales, castio byw a theatr ar gyfer GALWAD).

Bydd Branwen: Dadeni yn agor yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru (Tachwedd 8-11), yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Tachwedd 15-17) ac yn gorffen yng Nghanolfan Pontio, Bangor (Tachwedd 22–25).

Stori Branwen

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid.

Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn.

Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobol, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.

Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.

Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?

‘Gwaith newydd ar raddfa fawr yn Gymraeg’

“Rydw i wrth fy modd i rannu’r newyddion am ein sioe gerdd newydd sbon gyda Chanolfan Mileniwm Cymru – partneriaeth sy’n allweddol er mwyn ein helpu i ddatblygu gwaith newydd ar raddfa fawr yn Gymraeg,” meddai Gethin Evans.

“Mae ailddychmygu chwedl Branwen wedi bod yn daith ddiddorol, ers ein gweithdy cyntaf pan sylweddolon ni pa mor berthnasol y gallai’r stori roedden ni i gyd wedi clywed fel plant fod i’n byd cyfoes.

“Mae dod o hyd i’r ddynoliaeth yn y ffigurau mytholegol yma i ddatgloi themâu pŵer, galar a theulu gyda thîm creadigol sydd mor dalentog yn fraint enfawr.

“Rydw i’n edrych ymlaen at rannu’r sgôr epig a’r stori drasig â chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor drwy ein partneriaid teithio strategol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Pontio.”

‘Menter nodedig

“Rydw i’n llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Frân Wen ar y fenter nodedig hon ar gyfer gwaith ysgrifennu newydd yn Gymraeg yn y genre yma, ar y raddfa hon,” meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru.

“Mae’r cydweithrediad yma yn bwysig iawn i ni wrth i ni weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg mwyaf hyd yma, sy’n seiliedig ar stori Gymreig fyd-enwog a phoblogaidd, wedi’i haddasu ar gyfer ein byd ni heddiw.

“Alla i ddim aros i weld yr addasiad gwych yma o Branwen, wedi’i ysgrifennu gan Hanna, Elgan a Seiriol, yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled y wlad, gydag ein tîm syfrdanol o dalent greadigol Gymreig.”

Branwen: Dadeni yw’r diweddaraf mewn rhediad o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru sy’n meithrin awduron a thalent greadigol yng Nghymru ac o Gymru.

Bydd ei chynhyrchiad diweddaraf, Es & Flo, sgript arobryn gan Jennifer Lunn, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru fis Ebrill a Mai cyn cael ei lwyfannu yn y Kiln Theatre yn Llundain ym mis Mehefin.

Mae cynyrchiadau llwyddiannus eraill Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys The Boy with Two Hearts (2021) gan Hamed Amiri, a drosglwyddodd yn ddiweddar i’r National Theatre yn Llundain; The Making of a Monster (2022) gan Connor Allen, Anthem (2022) gan Llinos Mai a The Beauty Parade (2020) gan Kaite O’Reilly.

Mae gwaith diweddar Frân Wen yn cynnwys taith genedlaethol y ddramedi Gymraeg am dyfu i fyny, Croendena, a werthodd allan; Ynys Alys (2022) a oedd yn dilyn stori merch ifanc wrth iddi chwilio am ei hannibyniaeth; a Faust & Greta (2021), cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio – profiad theatraidd digidol wedi’i ysbrydoli gan gyfieithiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe Faust & Greta.