Mae’r ffilm Y Sŵn wedi bod yn teithio sinemâu Cymru’n ddiweddar, gan adrodd hanes sefydlu S4C a gweithredoedd Gwynfor Evans i sicrhau sianel Gymraeg. Fel un oedd yn rhan o sîn wleidyddol Cymru yn y cyfnod, caiff Dafydd Wigley ei bortreadu yn y ffilm gan Dyfan Dwyfor. Yma, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn rhannu ei farn am Y Sŵn.
I’r to ifanc, mae hanes yn rywbeth sydd wedi digwydd i bobol eraill, i genhedlaeth arall, rhywbeth sy’n perthyn i oes gwahanol. ‘Does a wnelo fo ddim oll â phrofiad eich bywyd chi.
Mae’r ffilm Y Sŵn, a fu o gwmpas sinemâu ledled Cymru yn ystod y mis diwethaf, yn dod â phennod o ddigwyddiadau pur ddieithr ac anghyfarwydd i sylw cenhedlaeth ifanc Cymru, tra’n rhoddi i’r genhedlaeth hŷn gyfle i ail-fyw profiadau ysgytwol cyfnod eu hieuenctid, bron hanner canrif yn ôl.
Mae Y Sŵn felly yn torri tir newydd, wrth gyflwyno i genhedlaeth arall, trwy ddulliau drama-doc wedi ei haddurno â chryn dipyn o ddehongliad dychmygus, un o ddigwyddiadau pwysig hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif, sef safiad Gwynfor Evans dros sianel deledu Gymraeg a’i fygythiad i ymprydio hyd farwolaeth i sicrhau hynny.
O ran y stori, gellir dadlau ei bod yn cael ei hadrodd o fewn ei chyd-destun ei hun heb ddigon o sylw i’r ffactorau oedd yn gefndir iddi: y Gymraeg yn colli tir yng Nghymru, fel y gwelwyd yn syfrdanol yng Nghyfrifiad 1961; darlith radio Saunders Lewis; gwewyr Tryweryn a’r cyhuddiadau nad oedd Gwynfor wedi gwneud digon o safiad; y tyndra o fewn Plaid Cymru rhwng “Llys Llangadog” a’r garfan “New Nation”; buddugoliaeth ryfeddol Gwynfor yn isetholiad 1966 – ac isetholiadau’r Rhondda, Caerffili a Merthyr; dylanwad Gwynfor ar yr Alban a buddugoliaeth Winnie Ewing; yr arwisgiad ac ymddygiad gwarthus George Thomas; colli Caerfyrddin a’i hail-ennill.
Yna – ac fe gafodd hyn ofod yn y ffilm – y chwalfa yn dilyn refferendwm datganoli ’79, a yrrodd ieuenctid ein gwlad i bydew du anobaith; protestiadau’r FWA, ffrwydradau pibelli dwr; a llosgi tai haf. A thrwy hyn oll, Gwynfor yn driw i’w egwyddorion heddychol a’i argyhoeddiad y byddai dulliau di-drais yn ennill y dydd.
A dyna oedd eironi anferthol y sefyllfa. Pe bai Gwynfor wedi marw o ganlyniad i’w ympryd, byddai Cymru’n wenfflam. Cofiaf i’r byw i’r bargyfreithiwr (wedyn Barnwr) parchus Dewi Watcyn Powell ddatgan yn ddi-flewyn ar dafod wrthyf: “Os ydyn nhw’n gadael i Gwynfor farw, fi fydd y cyntaf i lawr i orsaf agosaf yr heddlu, morthwyl yn fy llaw, i falu’r lle yn yfflon!”
Dyna oedd natur y teimlad angerddol drwy Gymru; a rhesi ohonom yn gwrthod talu ein trwyddedau teledu ac yn mynd gerbron y llysoedd lleol ledled Cymru fel protest o gefnogaeth i safiad Gwynfor. Byddai ei farwolaeth wedi dechrau cyflafan ac, o bosib, chwyldro. Efallai, neu efallai ddim? Ond ai hynny oedd dymuniad Gwynfor? O ddifri calon? Y fath eironi: heddychwr gwbl argyhoeddedig yn tanio matsien i goelcerth anniddigrwydd ffyrnig cenedl, oedd wedi ei thrin yn warthus o sarhaus gan Lywodraeth Geidwadol a ddylai fod wedi gwybod yn well.
Roedd rhai agweddau o’r ffilm yn drawiadol: y teimladau dwys o fewn y teulu, gyda phortread Eiry Thomas o Rhiannon Evans, gwraig Gwynfor, yn feistrolgar; yn amlwg, roedd Eiry wedi gwneud ei gwaith cartref.
Y cymeriad mwyaf byrlymus oedd yr un ddychmygol – Ceri Samuel, oedd yn ymgnawdoli gwahanol ffrydiau o ymateb – o blith gweision sifil yng Nghymru ac yn ehangach; gan academyddion; a gan werin gwlad. Ac roedd perfformiad Lily Beau yn afaelgar a ffres; byddwn yn sicr o weld llawer mwy ohoni hi ar ein llwyfannau a sgriniau.
Roedd perfformiad Rhodri Evan fel Gwynfor yn ddiffuant ac yn gydymdeimladwy; ond i mi, nid oedd grym tawel – di-ildio a phenderfynol – Gwynfor yn ddigon amlwg. Efallai mai amhosibl oedd ymgnawdoli’r math ddimensiwn. Roedd y lled-awgrym fod Gwynfor, ar ôl ennill ei fuddugoliaeth, yn dal i bendroni dros gymryd ei fywyd ei hun ar ôl cael sicrwydd o’r Sianel (wrth iddo ail-gerdded i’r dyfroedd ond i Rhiannon ei achub) – i mi – yn anghredadwy.
Does dim dwywaith fod Gwynfor yn hynod isel ar ôl colli’r refferendwm a sedd Caerfyrddin yn 1979. Ond roeddwn gydag ef mewn rali ym Mhorthmadog y noson ar ôl iddo ddathlu ei fuddugoliaeth. Roedd mewn hwyliau eithriadol o dda; ac yn siarad ac yn ymddwyn felly, ar lwyfan ac yn breifat.
Byddai rhai yn dadlau fod y modd y mae ffilmiau yn cael y manylion bach yn gywir, yn arwydd a ydynt yn cael cywirdeb hanesyddol hefyd. “Gwnewch y pethau bychain!” O fethu gwneud hynny, a ydi o’n codi amheuaeth am gywirdeb y darlun mawr? Gofyn ydw i! Yn amlwg, mae’r adnoddau sydd ar gael yn diffinio’r graddau y gall unrhyw ffilm ymchwilio ac ail-greu manylion yn gywir; a chywirdeb hanesyddol y darlun mawr sy’n bwysig.
Teimlad digon od ydi gwylio ffilm o ddigwyddiadau yr oeddech yn rhan ohonynt. Cefais y fath brofiad efo’r ddrama lwyfan This House, oedd yn portreadu cwymp Llywodraeth Lafur 1974-79 pan fu saga’r frwydr am iawndal llwch y chwarelwyr yn ganolog i barhad Llywodraeth Prydain. Diolch i Dyfan Dwyfor am gymryd fy rhan innau yn Y Sŵn. Rhan ymylol oedd hon; a chywir hynny. Roedd penderfyniad Gwynfor, mewn modd sylfaenol iawn, yn benderfyniad personol ac unigolyddol.
I’r gweddill ohonom, a oedd yn wleidyddol weithredol o fewn y Blaid bryd hynny, roedd sialens fawr i geisio ei gefnogi’n llawn ac yn llwyr, tra’n osgoi’r perygl o ddargyfeirio holl agenda cymdeithasol ac economaidd y Blaid. Pe bai Gwynfor wedi marw, byddai hynny wedi bod yn amhosib a does wybod i ble fyddai gwleidyddiaeth Cymru wedi arallgyfeirio. Bu trafodaeth sylweddol o fewn y Blaid am hyn, er o reidrwydd, nid oedd hynny’n cael ei wyntyllu’n gyhoeddus, er mwyn peidio tanseilio Gwynfor yn ei safiad dewr. Gallaf ddeall na fyddai’n hawdd i’r ffilm olrhain mewn dyfnder y math ddimensiwn.
A ydi’r ffilm yn llwyddo i gyfleu yn llawn angerdd y cyfnod – y pryderon a’r ansicrwydd? Yn rhannol, ond efallai ddim yn gyflawn. I gael mynegiant o’r holl elfennau fu’n berwi drwy’r cyfnod, byddai angen llawer mwy o ymchwil a mwy o ofod i ganiatáu i’r tyndra oedd dan yr wyneb, mewn gwahanol garfannau, godi i ymwybyddiaeth y gwylwyr; ac, hefyd, i’r is-ffrydiau niferus gael eu lle mewn cyfanwaith cynhwysfawr. Byddai hynny wedi galw am adnoddau llawer mwy sylweddol na’r rhai oedd ar gael i’r awdur Roger Williams a’r cyfarwyddwr, Lee Haven Jones; adnoddau nad ydynt, ysywaeth, ar gael i’r sector ffilmiau Cymraeg fel y byddai yn Hollywood.
Ond pe bai wedi ei gwneud yn Hollywood, nid ein stori ni fyddai’r gwylwyr wedi ei gweld. Yn bendifaddau, ein Sŵn ni ydi’r ffilm hon. Stori unigryw sydd yn perthyn i Gymru; ac sydd ond yn gwneud synnwyr yng nghyd-destun hanes cenedl sydd â’i hanthem yn erfyn am barhad ei hiaith. Stori oedd – ac sydd – yn llawer mwy na “sŵn”.
Mae’n bwysig fod pobol ifanc Cymru yn gweld y ffilm ac yn cael y cyfle i ddeall ei harwyddocâd. Ac yn sicr ddigon, mae lle i gyflwyniadau eraill ar y sgrin fawr – saga Tryweryn; y frwydr dros statws yr iaith; hanes streic y glowyr o safbwynt Cymreig; y frwydr dros iawndal llwch i’r chwarelwyr; saga ennill refferendwm 1997; a llawer mwy.
Oherwydd os caiff y genhedlaeth ifanc wybod a deall eu hanes, byddant yn mynnu eu dyfodol. Mawr obeithiaf nad y ffilm hon fydd yr olaf; ac o gael adnoddau digonol, byddai pobol Cymru yn mynnu ei harnesu i sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn fwy cyfarwydd â hanes eu gwlad.