Bydd y gantores-gyfansoddwraig Bronwen Lewis yn ymuno â thîm BBC Radio Wales gyda rhaglen ei hun fis nesaf.

Yn ystod y rhaglen ar foreau Sul, bydd Bronwen Lewis yn rhannu caneuon sy’n arwyddocaol iddi hi ac yn cael cwmni ambell westai arbennig.

Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu o bentref Blaendulais ger Castell Nedd, a bydd cyfle i wrandawyr gysylltu a rhannu eu straeon hefyd.

Daeth Bronwen Lewis i amlygrwydd gyntaf wrth gystadlu ar gyfres ganu The Voice yn 2013, cyn canu’r brif gân ar gyfer ffilm Pride y flwyddyn wedyn.

Yn ystod y pandemig, denodd ddilyniant enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol pan berfformiodd dros 45 o gyngherddau rhithiol o’i stiwdio yn ei chartref.

Aeth fideos TikTok ohoni’n canu caneuon pop Saesneg yn Gymraeg yn feiral, gyda channoedd ar filoedd o bobol yn eu gweld a Greg James yn cyfeirio atyn nhw ar ei raglen ar BBC Radio 1.

‘Cyfle gwych’

Dywedodd Bronwen Lewis ei bod hi wrth ei bodd yn ymuno â’r orsaf.

“Am gyfle gwych a hwyliog i allu chwarae rhai o fy hoff ganeuon a chysylltu efo pobol o bob rhan o Gymru,” meddai.

“Diolch i BBC Radio Wales am y croeso cynnes.”

‘Rhannu ei hegni’

Wrth ei chroesawu, dywedodd Golygydd BBC Radio Wales, Carolyn Hitt, eu bod nhw wrth eu boddau.

“Mae hi’n dalent arbennig ac mae ganddi’r gallu i gysylltu â gwrandawyr drwy gerddoriaeth, sgyrsiau cynnes a mymryn o hiwmor Cymreig.

“Os ydych chi wedi gweld ei chyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, fyddwch chi’n gwybod!

“Fedrwn ni ddim disgwyl i rannu ei hegni gyda’n gwrandawyr, ar foreau Sul ac ar alw drwy BBC Sounds.”

Bydd rhaglen Bronwen Lewis yn dechrau ddydd Sul nesaf, Ebrill 2, a bydd hi ar y tonfeddi’n wythnosol rhwng 9:30 ac 11 y bore.