Bydd portread o Elinor Bennett yn cael ei roi i’r delynores fel “rhodd gan y genedl” ar ddiwedd yr Ŵyl Delynau Ryngwladol.
Ym mis Ebrill, bydd Elinor Bennett yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ac eleni fydd ei blwyddyn olaf fel Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl.
I gydnabod ei gweithgarwch ym myd y delyn dros y degawdau, penderfynodd Geraint Lewis a Rhiannon Mathias drefnu bod yr artist David Griffiths yn gwneud peintio portread ohoni.
Mae’r portread yn barod, a bellach maen nhw wedi codi bron i £3,500 tuag ato drwy dudalen GoFudMe.
Bydd hi’n bosib i bobol wneud cyfraniadau tan ddiwedd y flwyddyn, a bydd enwau pawb sydd wedi cyfrannu’n cael eu dangos yn y Galeri yng Nghaernarfon.
“Tua diwedd 2021 roeddwn i’n darllen llyfr gan yr artist David Griffiths, enw’r llyfr ydy Hunanbortread. Roeddwn i’n adnabod David yn iawn ac yn gwybod ei fod yn cael ei ystyried fel y prif beintiwr portreadau sydd yng Nghymru,” eglura’r cyfansoddwr Geraint Lewis wrth golwg360.
“Wrth fy mod i’n darllen y llyfr roeddwn i’n digwydd bod yn byw ym Mangor ar y pryd, ac yn darllen ar y bws o Gaernarfon ac yn gweld y lluniau yma i gyd roedd David wedi’u gwneud o bobol fel Bryn Terfel, Geraint Evans, Osian Ellis, Dafydd Wigley, nifer o wleidyddion.
“Roeddwn i’n meddwl y bydde fe’n neis i drio gweld os fysa ni’n gallu cael David i wneud portread o Elinor ar gyfer ei phen-blwydd yn 80 oed.
“Roedd hi’n anodd cael y peth wedi’i gomisiynu achos mae Rhiannon yn rhan o fwrdd y Ganolfan Gerdd [William Mathias], felly rydyn ni wedi penderfynu gwneud e fel rhodd i Elinor gan unrhyw un sydd moyn, gan y genedl i bob pwrpas.”
Mae Elinor Bennett a Geraint Lewis eisoes wedi gweld y llun, ac yn hapus iawn efo’r portread.
“Mae’n rhaid i fi gyfaddef bod e’n edrych yn ffantastig, ac mae e wedi dal popeth am Elinor i’r dim. Mae o’n bortread gogoneddus. Mae’r llun yn dal ei phersonoliaeth hi’n berffaith.”
‘Dylanwad aruthrol’
Bydd pumed Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru’n cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon rhwng Ebrill 5 ac Ebrill 11, a’r llun yn cael ei ddadorchuddio ar noson olaf yr ŵyl.
“Mae gymaint o bobol mor hoff o Elinor ac yn gwybod gymaint mae hi wedi’i wneud dros y degawdau i hyrwyddo’r delyn, cynnal bob math o ddigwyddiadau, a’i bod hi’n berson mor gynnes a hawddgar. Roeddwn i’n teimlo bod eisiau iddi gael rhywbeth,” meddai Geraint Lewis.
“Pan oeddwn i yn yr ysgol yn Rhydfelen, roeddwn i’n cael fy nysgu gan ei chwaer am flwyddyn, Menna. Roedd hi’n cadw disgyblaeth yn well nag unrhyw un dw i wedi dod ar eu traws erioed, roedd pawb yn ei hofni hi.
“Pan wnes i gyrraedd Bangor yn 1980, un o’r bobol gyntaf wnes i gyfarfod oedd Elinor ac yn sylweddoli bod hi’n chwaer a meddwl y byddwn i’n terrified ohoni! Ond roedd Elinor yn wahanol iawn, pan dw i’n dweud y stori yma mae’r ddwy yn chwerthin!
“Mae Elinor wedi bod yn ddylanwad aruthrol arna i ers dros bedwar degawd.
“Mae hi wedi bod yn ganolog i’m mywyd mewn cymaint o ffyrdd felly mae gen i ddyled aruthrol iddi, ond dw i’n ymwybodol bod yr un peth yn wir am gannoedd o bobol eraill yn y byd cerddorol.
“Mae hi’n rhoi trwy’r amser. Dydych chi byth yn teimlo bod Elinor wedi blino, mae gyda hi egni rhyfeddol. Mae hi wedi gwneud gwaith ar gerddoriaeth werin, cerddoriaeth gynnar, hyrwyddo’r cerddorion clasuron fel John Parry, John Thomas. Wedyn hefyd, mae hi wedi comisiynu gymaint gan gyfansoddwyr ein hoes ni.
“Mae hi’n mynd o un arddull i llall ac yn arbenigo ynddyn nhw i gyd, ond rywsut ei phersonoliaeth hi sy’n clymu’r cyfan at ei gilydd.
“Fyddech chi ddim yn meddwl ei bod hi’n 80 oed, mae hi i weld mor ifanc, yn llawn bywyd.”
Y gobaith yw y bydd modd mynd â’r llun ar daith i wahanol lefydd sydd wedi bod yn gysylltiedig ag Elinor wedyn.
“Lawr i Aberystwyth i’r Llyfrgell Genedlaethol achos fe wnaeth hi radd yn gyntaf yn y brifysgol yno, mynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd lle buodd hi’n dysgu, wedyn i’r Academi Frenhinol yn Llundain lle oedd hi gydag Osian [Ellis], ac wedyn yn ôl i’r brifysgol ym Mangor lle buodd hi’n dysgu am gymaint o amser.
“Gwneud cylch bach, fel bod pobol ymhob man yn cael cyfle i fynd i’w weld.”