Mae rhestr fer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru wedi cael eu datgelu heddiw.

Ymhlith y llyfrau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023, mae dwy gyfrol gan Manon Steffan, casgliad o straeon Celtaidd rhyngwladol, a nofel graffeg yn seiliedig ar ddrama lwyfan Gwald yr Asyn.

Cafodd y rhestrau byrion, un ar gyfer oedran uwchradd ac un arall ar gyfer y cynradd, eu cyhoeddi ar raglen Heno heno (nos Iau, Mawrth 23).

Eleni, bydd categori newydd, Gwobr Barn y Darllenwyr, sef tlws arbennig fydd yn cael ei ddewis gan blant a phobol ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og.

Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru, a’u noddi gan CILIP Cymru, a’r bwriad yw anrhydeddu a dathlu’r awduron neu’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunydd darllen gorau i blant.

Dros y blynyddoedd, mae enillwyr y gwobrau’n cynnwys Jac Jones, Caryl Lewis, Manon Steffan Ros a Gareth F. Jones.

Rhestr Fer Cynradd

Dros y Môr a’r Mynyddoedd, awduron amrywiol (Gwasg Carreg Gwalch)

Casgliad prydferth o straeon Celtaidd rhyngwladol. Er bod pob stori’n unigryw ac yn wahanol, mae un peth yn gyffredin rhyngddynt – y merched cryf a phenderfynol sy’n arwain pob stori.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Huw Aaron a Luned Aaron (Atebol)

Llyfr modern, doniol a lliwgar sy’n llawn direidi ond yn trafod neges bwysig ar yr un pryd – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan, Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)

Cyfuniad o air a llun yn dod at ei gilydd i ddweud hanes un bachgen swil o dde Cymru, a lwyddodd i helpu miliynau o bobl drwy ei waith yn sefydlu un o’n trysorau cenedlaethol.

Rhestr Fer Uwchradd

Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)

Nofel graffeg anghyffredin a ffraeth iawn sy’n seiliedig ar ddrama lwyfan. Stori am asyn sydd wedi hen arfer bod o gwmpas pobol, ond erbyn y diwedd daw i gwestiynu ei hunaniaeth ei hun!

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa)

Antur ffantasïol llawn dirgelwch, sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol. Dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel deimladwy ac amserol iawn sy’n taflu goleuni ar rôl Cymru yn y diwydiant caethwasiaeth.

‘Safon uchel iawn’

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni oedd Morgan Dafydd, Sara Yassine, Francesca Sciarrillo, Sioned Dafydd a Siôn Edwards.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Cymraeg, bod y safon yn uchel iawn eleni.

“Er bod yr argyfwng costau byw yn brathu, o edrych ar yr arlwy eleni gallwn weld fod y diwydiant llyfrau yn dal ei dir a bod creadigrwydd yn ffynnu.

“Eleni, gwelsom gymysgedd o awduron newydd ynghyd â rhai cyfarwydd ym maes llyfrau i blant.

“Yn fy nhrydedd flwyddyn ar y panel, gallaf ddweud â sicrwydd bod y safon yn uchel iawn eleni – yn wir, mae’n parhau i godi bob blwyddyn.”

Wrth longyfarch y sawl sydd ar y rhestrau byrion, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau, ei bod hi’n “galonogol iawn gweld llyfrau gwreiddiol Cymraeg mewn cymaint o wahanol fformatau i apelio at ddarllenwyr ifanc”.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol eleni.”

Bydd enillwyr y categorïau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau, Mehefin 1 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, a bydd rhestr fer y llyfrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi nos fory ar y Radio Wales Arts Show.