Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r actor Dafydd Hywel sydd wedi marw yn 77 oed.
Yn wreiddiol o’r Garnant, Cwmaman, bu’n un o fawrion y llwyfan a’r sgrin yng Nghymru dros y chwe degawd diwethaf.
Bu’n chwarae cymeriadau canolog mewn llu o gynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnwys Yr Alcoholig Llon, Y Pris, 35 Diwrnod, ac Un Bore Mercher ar S4C.
Ar ddechrau’r 1980au, bu’n chwarae rhan Jac Daniels ar Pobol y Cwm, ac ymddangosodd hefyd ar y rhaglen blant Miri Mawr fel Caleb y Twrch.
Bu hefyd yn actio mewn cyfresi Saesneg fel The Bill, Holby City, Stella a The Crown i enwi dim ond rhai.
Roedd yn weithgar iawn ym myd y pantomeim yng Nghymru, a bu’n brif weithredwr ar Gwmni Mega ar ôl ei sefydlu yn yr 1980au.
Roedd hefyd yn gyn-chwaraewr, ac yn gefnogwr ffyddlon i Glwb Rygbi Yr Aman, a chyhoeddodd hunangofiant yn 2013, Hunangofiant Alff Garnant.
‘Colled aruthrol’
Un wnaeth weithio gyda Dafydd Hywel droeon oedd T James Jones, neu Jim Parc Nest.
Fe wnaeth Dafydd chwarae rhan William Williams Pantycelyn yn un o’i ddramâu, a bu hefyd yn chwarae rhan Herod mewn drama a sgrifennodd ar gyfer yr Eisteddfod.
“Roedd hi’r sioc rhyfeddaf i glywed i glywed y newyddion,” meddai T James Jones wrth golwg360.
“Roedd o’n sioc fawr ac yn siom i glywed.
“Y theatr wnaeth ein tynnu ni at ein gilydd, ac roedden ni’n ymwneud ag ein gilydd yng ngwaith y theatr a theledu yn gyson.
“Rydyn ni’n mynd yn ôl blynyddoedd.
“Ac roedden ni’n byw ar yr un stryd ym Mhontcanna yng Nghaerdydd am gyfnod rhai blynyddoedd yn ôl nawr.
“Roedd o’n hyfryd i weithio gyda fe, ac yn rhwydd iawn.
“Falle bod o ambell waith yn euog o beidio dysgu ei eiriau mor fanwl â hynny, ond erbyn y perfformiad roedd e bob amser yn ddiogel iawn.
“Roedd yna agwedd diniwed yn perthyn iddo fe a chawson ni dipyn o hwyl wrth gydweithio.
“Mae’n golled aruthrol i fyd y ddrama a theledu.”
‘Ymgyrchydd di-ildio’
Bu Dafydd Hywel yn ymgyrchu’n frwd dros y Gymraeg hefyd, gan ymladd dros addysg Gymraeg yn y brifddinas.
“Ffrind annwyl – wedi ein magu yn yr un pentref,” meddai’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
“Dycnwch y glo carreg yn rhedeg drwy ei wythiennau. Cyn gapten llwyddiannus Clwb Rygbi’r Aman, actor penigamp, cynhyrchydd pantomeimiau cofiadwy, gwladgarwr balch ac ymgyrchydd di-ildio dros addysg Gymraeg.
“Un o gymeriadau mawr Cymru.”
Meddai’r bardd Aneirin Karadog ar Twitter: “Newyddion trist am golli Dafydd Hywel heddiw.
“Roedd ganddo ddawn aruthrol fel actor ac roedd ei weithgarwch dros yr iaith yn cynnig arweiniad i ni gyd, o ran beth gall pob un ohonom sydd eisiau gweld yr iaith yn ffynnu, ei wneud.
“Braint oedd cael dod i’w nabod.”
‘Colled i genedlaethau o blant’
Ychwanegodd yr actor Wynffordd Ellis Owen bod colli Dafydd Hywel yn “golled i genedlaethau o blant”.
“Roedd DH yn gês ac yn danbaid dros y theatr Gymraeg a’r pethau gorau,” meddai.
“Bydd y golled yn cael ei theimlo gan genedlaethau o blantos hefyd, achos ef oedd brenin y pantos.
“Fyddai’r Nadolig ddim yn Nadolig heb ymweliad â phanto DH.
“Fy nghydymdeimlad cywiraf â’i deulu oll yn eu colled.