Bydd teuluoedd ar incwm isel yn cael mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni.

Mae cefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru’n golygu eu bod yr Urdd yn gallu parhau gyda’u hymrwymiad i “sicrhau cyfle i bawb fynychu a phrofi cyffro’r Eisteddfod”.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng Mai 29 a Mehefin 3, ac mae dwy ffordd i deuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim.

Y llynedd, roedd mynediad am ddim i bawb i faes Eisteddfod Sir Ddinbych, a hynny’n cyd-fynd â chanmlwyddiant yr Urdd.

Fe fydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodau £1 yr Urdd efo manylion hawlio tocynnau, ynghyd â chod disgownt unigryw i’r cyfrif hwnnw, neu bydd posib hawlio tocyn incwm isel drwy lenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd.

Wrth ddiolch i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol, sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Mae dros 75,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

“Yn barod fel mudiad rydym yn barod yn cynnig Aelodaeth £1 yr Urdd i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.

“Eleni mae’r Urdd hefyd wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i’r rhai sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd.

“Bydd y cyfraniad o £150,000 gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r Urdd i barhau gyda’n hymrwymiad i bawb, gan sicrhau cyfle i bawb fynychu a phrofi cyffro Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.

“Ein gobaith fel mudiad yw sicrhau ‘Urdd i Bawb’ a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gystadlu ac elwa o weithgareddau’r Urdd.”

‘Uchafbwynt diwylliannol’

Ychwanegodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac yn ffordd wych i’n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.

“Rwy’n falch bydd y cyllid hwn yn helpu fwy o deuluoedd i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn ystod y digwyddiad.”

Bydd tocynnau Eisteddfod yr Urdd 2023 yn mynd ar werth ddydd Mawrth nesaf (Mawrth 28).