“Pam fod rhaid newid bob dim?”
Dyna un gri ar dudalen Eisteddfod Genedlaethol ar ôl eu newyddion eu bod am addasu’r drefn gystadlu yn y brifwyl o fis Awst.
Yn dilyn adolygiad annibynnol o gystadlaethau’r Eisteddfod, maen nhw wedi cyhoeddi gwelliannau i’r drefn.
Un datblygiad newydd yw eu bod nhw’n cynnal rownd gyn-derfynol ar gyfer y cystadlaethau torfol fel y corau, gyda’r tri therfynol yn cael cyfle arall i berfformio.
Bydd dwy ganolfan gystadlu ar y Maes, gydag un yn dal hyd at 1,200 o bobol a’r llall yn dal 500, gyda rhagbrofion ar gyfer unigolion a deuawdau yn y canolfannau hyn.
Bydd rhagbrofion gwerin a cherdd dant yn cael eu cynnal yn y Tŷ Gwerin, llefaru a monologau yn y Babell Lên, a’r rhagbrofion cerdd yn Encore, “Gan roi cyfle i’r ymwelwyr i’n is-bafiliynau gael blas ar rai o’n cystadlaethau ac i’n cystadleuwyr gael blas ar berfformio mewn gofod sy’n addas i’w crefft”.
Eleni hefyd, bydd rhaglen theatr stryd a dawns yr Eisteddfod yn cael ei datblygu ymhellach, gyda rhagor o berfformiadau ar hyd a lled y Maes.
Byddan nhw hefyd yn cynnal perfformiadau theatrig mewn gwahanol bafiliynau ar hyd a lled y Maes, fel ein bod ni’n sicrhau bod ein harlwy yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl drwy gydol yr wythnos.
‘Rhaglennu’r wythnos mewn ffordd fwy strategol’
Yn ôl yr Eisteddfod, mae’r newidiadau’n eu galluogi nhw i “raglennu’r wythnos mewn ffordd fwy strategol, gan ystyried profiadau ein cystadleuwyr a’r gynulleidfa yn hytrach na gorfod gosod popeth yn ddibynnol ar niferoedd cystadleuwyr”.
Bydd y rhaglen yn llifo’n braf drwy gydol yr wythnos gyda crescendo naturiol ar ddiwedd pob diwrnod ac adran, yn creu ffocws a chyfle i ddathlu llwyddiant, meddai’r Eisteddfod, gyda chystadlaethau torfol yn parhau i gael eu gwasgaru ar draws yr wythnos er mwyn i ymwelwyr dyddiol yn ogystal â’r rheini sy’n aros drwy’r wythnos gael blas ar wahanol genres diwylliannol.
Maen nhw’n dweud bod posibilrwydd y gallai rhai cystadlaethau gael eu cynnal ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer, a bydd y rhaglen gystadlu’n cael ei chyhoeddi cyn diwedd y mis yma, bron i dri mis yn gynharach na’r arfer.
Y dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi yw Ebrill 1, a’r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan yw Mai 1.
‘Bydd llai yn cystadlu’
Mae’r newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi gan yr Eisteddfod yn hollti barn.
Yn ôl Heledd Griffiths, “bydd llai yn cystadlu” oherwydd y “syniad hollol dwp”.
“Faint o gorau a bandiau pres fydd yn mynd i’r gost o deithio ac aros dros nos er mwyn mynd i ragbrawf yn unig?” meddai.
“Ydy hi’n trïo lladd y Steddfod ta beth?
“Cystadlu yn y Tŷ Gwerin/Babell Lên yn golygu y bydd llai o’r arlwy arferol yno. Cam gwag arall.
“Croesawu’r newidiadau tan nawr ond mae hyn yn mynd yn rhy bell o lawer.
“Beth ddigwyddodd i gerddoriaeth glasurol hefyd? MAE yna bobl yng Nghymru sy’n ei hoffi!”
‘Lladd cystadlu corawl’
Mae un arall, Rhys Jones, yn cwestiynu faint gafodd cystadleuwyr a threfnwyr ac arweinwyr eu holi fel rhan o’r broses o gyflwyno newidiadau.
“Tybed faint o holi cystadleuwyr ac threfnwyr/arweinwyr corau a phartion ffyddlon yr eisteddfod ddigwyddodd yn ystod yr adolygiad hwn (sef y rhai gaiff eu heffeithio fwyaf)?” meddai.
“Newid dyddiadau, llai o statws i gystadlu torfol a diffyg cyfathrebu cyn cyhoeddi unrhyw newidiadau yn siomedig tu hwnt.
“Deall bod angen arbed arian, ond mae trio gwerthu’r newidiadau hynny fel rhywbeth positif i bawb yn ddwl.
“Byddwch yn lladd cystadlu corawl dwi’n amau.”
“Be nesa?” gofynna Lona Baum Lewis.
“Pam fod rhaid newid bob dim!!
“Yr un fath yn Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn diwethaf, cystadlaethau mewn gwahanol lefydd dim debyg i Eisteddfod o gwbl!!
“Siwtio rhai pobol efallai ond dyna fy marn i beth bynnag!!!!!”
Un gair sydd gan Arawn Rhufon Glyn i ddisgrifio’r newidiadau – “pathetic”.