Sioned Page-Jones o bentref Blaencoed yn Sir Gaerfyrddin yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.

Daeth y cyhoeddiad gan Heledd Cynwal neithiwr (nos Lun, Mawrth 20) yn ystod noson Eisteddfod Ddawns Gorllewin Myrddin.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei gyflwyno yn flynyddol i wirfoddolwr arbennig fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Bydd Sioned Page-Jones yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, sy’n cael ei chynnal rhwng Mai 29 a Mehefin 3.

Cafodd ei henwebu gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobol ifanc Sir Gâr sydd wedi elwa o’i chefnogaeth a’i gwaith ieuenctid gwirfoddol, sy’n ymestyn dros 26 mlynedd.

Dechreuodd taith hyfforddi Sioned Page-Jones gydag Aelwyd Hafodwenog yn 19 mlwydd oed.

Ynghyd â bod yn Arweinydd yr Aelwyd, cafodd hi flas ar hyfforddi yn 1997, wrth baratoi’r Parti Deusain dan 15 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Daeth llwyddiant mawr i’r aelwyd y flwyddyn honno – cafodd y parti drydydd yn y gystadleuaeth, ac mae sawl cenhedlaeth wedi elwa ar ei phrofiad ers hynny.

Daeth hi’n Arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont pan gafodd y clwb ei ailsefydlu yn 2004, gan sefydlu Côr Cymysg am y tro cyntaf yn ei hanes.

Deunaw mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n dal wrth y llyw ac wedi hyfforddi ac arwain y Côr Cymysg i lwyddiannau mawr ar lwyfannau Eisteddfod CFfI Cymru.

Mae angerdd Sioned am faes y Ddawns Werin a Dawns y Glocsen yn heintus, ac mae wedi hyfforddi degau o grwpiau ac unigolion dawnsio a chlocsio yn enw Aelwyd Hafodwenog, Dawnswyr Talog a Chlocswyr Cowin dros y blynyddoedd.

‘Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf’

“Mae’r Aelwyd, am flynyddoedd lawer, wedi bod yn ganolbwynt i ieuenctid yr ardal, gyda Sioned, a’i gwaith wythnosol yn sicrhau bod y gymuned yn mynd o nerth i nerth,” meddai Sioned, Daniel, Hannah a Gwennan, sy’n aelodau dan 25 Aelwyd Hafodwenog.

“Rhan hollbwysig o gynhaliaeth yr Aelwyd yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i olynu’r gwaith hwnnw.

“Rydym ni wedi bod mor ffodus i ddysgu a datblygu o dan adain rhywun mor dalentog â Sioned.

“Mae rhai ohonom, ar ôl symud i’r brifysgol, wedi cymryd y cam mawr i arwain corau aelwydydd ein prifysgolion gan fynd benben â Sioned a chôr Aelwyd Hafodwenog ar lwyfan cenedlaethol.

“Mae safonau Sioned o hyd yn uchel, ac mae hynny’n elfen sydd wedi dylanwadu ar bob un ohonom ni fel arweinyddion.

“Ond, y clod mwyaf gallwn ni roi i Sioned yw, pan mewn ystafell ymarfer ac yn pendroni dros y ffordd orau i ddysgu neu fynegi’r frawddeg gerddorol yna, y peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw ‘beth wnele SPJ?’.

“Un gair sydd i ddisgrifio Sioned, a hynny yw ‘ysbrydoledig’.”

‘Cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy’

“Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch Sioned Page-Jones ar ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Mae Sioned wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobol ifanc Sir Gâr ers dros chwarter canrif, a bydd hi’n fraint a phleser ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r Urdd yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes, oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Bydd seremoni arbennig i gyflwyno’r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ar ddydd Iau, Mehefin 1, ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.