Mae Dawn Bowden, Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mawrth 20) mai Maggie Russell yw cadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae gan Maggie Russell dros 35 mlynedd o brofiad fel artist proffesiynol, mae hi wedi bod mewn nifer o swyddi uchel gyda BBC Cymru, ac wedi bod yn lladmerydd parhaus dros y celfyddydau yng Nghymru yn ystod y pedwar degawd diwethaf.

Yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd hi’n atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod polisïau a gweithgareddau’r Cyngor yn cefnogi polisïau strategol ehangach Llywodraeth Cymru.

Mae Maggie Russell yn olynu’r cadeirydd blaenorol, Phil George, sydd wedi bod yn y swydd ers 2016.

Cyfnod “cyffrous a heriol” i ddod

“Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i fod yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru,” meddai Maggie Russell.

“Mae cyfnod cyffrous a heriol o’n blaenau.

“Rwy’n croesawu’r cyfle i gefnogi uchelgais a chreadigrwydd y celfyddydau yng Nghymru i wneud gwaith sy’n agored i bob cymuned, cynrychiolydd ein cenedl a bydd hynny’n synnu, yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli.”

Wrth gyhoeddi’r penodiad ac wrth ei chroesawu hi i’r swydd, dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden fod Mae Maggie Russell “yn gaffaeliad gwych i’r Cyngor”.

“Mae hi’n cael ei phenodi ar adeg hollbwysig ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ac rwy’n hyderus y bydd hi’n llwyddiannus wrth gadeirio’r sefydliad yn ystod ei Adolygiad Buddsoddi, sydd eisoes yn mynd rhagddo.

“Hoffwn i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i Phil George sydd, yn ystod ei gyfnod yn gadeirydd, wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr sector y celfyddydau yng Nghymru, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad.

“Hoffwn i gydnabod ei ymrwymiad wrth fynd i’r afael â’r her ac arwain y sefydliad drwy gyfnod unigryw ac un o’r cyfnodau mwyaf anodd ers cyn cof.

“Hoffwn i hefyd ddiolch i is-gadeirydd y Cyngor, Kate Eden, sydd wedi ysgwyddo nifer o ddyletswyddau ychwanegol yn ystod y misoedd diwethaf.”