Mae Ysgol Gynradd Sili ger Penarth wedi bod yn defnyddio adnodd dysgu unigryw i ddysgu Cymraeg, Sbaeneg, Almaeneg, a hyd yn oed Eidaleg i’w disgyblion.
Mae Cerdd Iaith yn adnodd dysgu drwy gerddoriaeth gafodd ei ddatblygu gan y British Council ar y cyd ag ieithyddion, cerddorion ac ymarferwyr drama.
Mae nifer cynyddol o athrawon ledled Cymru yn defnyddio’r adnoddau ac yn manteisio ar sesiynau hyfforddi’r British Council.
Mae Cerdd Iaith yn cynnig llond gwlad o weithgareddau a chaneuon gwreiddiol sy’n helpu athrawon i adeiladu ar sgiliau Cymraeg a Saesneg eu disgyblion, a chyflwyno gwahanol ieithoedd i’r ystafell ddosbarth drwy gyfuno dulliau addysgu iaith traddodiadol gyda cherddoriaeth, symud a drama.
Ar hyn o bryd, mae Cerdd Iaith yn cynnig adnoddau ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg, Eidaleg a Sbaeneg, ac maen nhw’n ychwanegu adnoddau ar gyfer Ffrangeg ar hyn o bryd.
Ers dechrau defnyddio adnoddau addysgu a dysgu Cerdd Iaith, mae Ysgol Gynradd Sili wedi gweld cynnydd pendant yn niddordeb eu disgyblion mewn ieithoedd.
Bu dros 80 o ddisgyblion rhwng saith ac 11 oed yn cymryd rhan mewn sesiwn berfformio i ddangos eu sgiliau iaith newydd.
Roedd y perfformiad yn ffrwyth llafur chwe wythnos o hyfforddiant gan yr arweinydd cerdd Tim Riley.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol, gan ddatblygu gwersi gyda’r plant a defnyddio canu, cerddoriaeth a symudiad i’w paratoi ar gyfer eu sioe fawr.
‘Ymateb yn dda i’r her o newid o iaith i iaith’
“Mae’r disgyblion wedi gwneud mor dda dros y chwe wythnos diwethaf,” meddai Tim Riley am y prosiect.
“Fe wnaethon ni ddefnyddio’r un caneuon – yn Saesneg a Chymraeg i ddechrau, cyn cyflwyno Sbaeneg ac Almaeneg.
“Dw i’n ffeindio fod y plant yn ymateb yn dda i’r her o newid o iaith i iaith a gweld y gwahanol ffyrdd mae’r gwahanol ieithoedd yn gweithio.
“Dw i’n gwybod os galla i gael y plant i sefyll ar eu traed fod hynny’n helpu gyda’r addysgu a’r dysgu.
“Mae’r perfformiad yma wedi bod yn ffordd wych o arddangos adnoddau Cerdd Iaith – y rheini sy’n cael eu defnyddio yn y stafell ddosbarth a’r rhai sydd ar gael arlein.”
Roedd Aimee Bishop, athrawes Blwyddyn 3, yn canmol y prosiect ar ôl helpu rhai o’r disgyblion i baratoi ar gyfer eu sesiynau perfformio’n ddiweddar.
“Roedd yn ardderchog gweld hyder y plant yn tyfu wrth i’r perfformiad agosáu,” meddai.
“Roedd yr adnoddau’n sail ardderchog i Tim gyflwyno caneuon, gwisgoedd a phropiau i gydfynd â’r dysgu – ynghyd ag ambell elfen o ddrama.
“Roedd hynny’n helpu’r plant i ddysgu drwy chwarae, a dysgu heb sylweddoli.
“Roedd yn wych i weld y sioe yn dod at ei gilydd a chlywed y plant yn defnyddio geiriau ac ymadroddion newydd yn Sbaeneg, Eidaleg ac Almaeneg.”
‘Twf aruthrol yn hyder y plant’
Yn ôl David Jarvis, sy’n dysgu plant Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Sili, mae effaith y sesiynau i’w gweld yn glir ar y plant eisoes.
“Ers y sesiwn berfformio a’r hyfforddiant gyda Tim, mae rhai o’r disgyblion wedi sefydlu clwb Sbaeneg sydd mor boblogaidd mae nawr wedi gordanysgrifio – mae wedi bod yn sbardun i ddysgu ieithoedd iddyn nhw,” meddai.
“Rydyn ni wedi cynnal gwersi iaith wythnosol gan ddefnyddio rhai o’r adnoddau yn ein dosbarthiadau a dw i’n gweld fod hyn wedi tanio brwdfrydedd newydd ynddyn nhw.
“Mae un o’r disgyblion hyd yn oed wedi dechrau cael gwersi Almaeneg y tu allan i oriau ysgol, sy’n galonogol iawn.”
Mae Andrea Waddington, Pennaeth Ysgol Gynradd Sili, wedi gweld twf aruthrol yn hyder y plant gydag ieithoedd ar gefn hyfforddiant rhaglen Cerdd Iaith ar gyfer y sesiwn berfformio, ac mae’n credu bod ieithoedd yn bwysig iawn i ddysgwyr ifanc.
“Fe wnaethon ni fachu ar y cyfle i ddod â’r arbenigedd yma i’r ysgol, yn enwedig gan ein bod ni’n un o ysgolion rhyngwladol y British Council,” meddai.
“Mae ein hathrawon a’n disgyblion yn cytuno fod dysgu iaith drwy gerddoriaeth, cân a dawns yn ffordd effeithiol o gysylltu gyda phlant yn ifanc.
“Rydyn ni’n gwybod fod gan addysg ran enfawr i’w chwarae o ran ehangu gorwelion, a bod dysgu ieithoedd yn helpu disgyblion i fod yn wybodus am ddiwylliannau eraill ac yn agored iddynt hefyd.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o’n hathrawon yn manteisio ar hyfforddiant Cerdd Iaith.
“Rydyn ni wastad wedi hyrwyddo ieithoedd yn Ysgol Gynradd Sili – ond mae’r chwe wythnos diwethaf a’r perfformiad gwych yma wedi rhoi hwb go iawn i ni. Rydyn ni wedi gweld cariad go iawn at ieithoedd yn blodeuo.”
Cyfeillgarwch ac empathi drwy ieithoedd
“Mae Cerdd Iaith yn enghraifft o’r hyn sydd wrth galon gwaith y British Council,” meddai Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau gyda’r British Council, wrth sôn am ddatblygu rhaglen hyfforddi Cerdd Iaith.
“Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am ddysgu ieithoedd rhyngwladol achos rydyn ni’n gweld pwysigrwydd ieithoedd wrth feithrin cyfeillgarwch ac empathi rhwng diwylliannau. Ac rydyn ni’n credu fod gallu pobol ifanc i siarad a deall ieithoedd rhyngwladol yn allweddol i hynny.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod, ar sail ymchwil a wnaed gan y British Council, fod dechrau dysgu ieithoedd mor gynnar â phosib yn eithriadol o bwysig; a bod pobol, pan fyddant yn hŷn, yn aml yn difaru peidio dysgu iaith arall.
“Dyma lle gall adnoddau Cerdd Iaith helpu – i blannu cariad at ieithoedd o oed ifanc, yn y gobaith y bydd plant yn cario hynny gyda nhw a’i ddefnyddio.”
Gall athrawon yng Nghymru fanteisio ar adnoddau hyfforddi arlein Cerdd Iaith i’w helpu i gyflwyno iaith ryngwladol mewn unrhyw gyd-destun.
Cafodd y rhaglen ei datblygu’n wreiddiol gan British Council Cymru fel rhan o’u gwaith i ryngwladoli diwylliant ac addysg yng Nghymru.
Mae rhaglen Cerdd Iaith wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gan fod athrawon wedi sylweddoli bod yr adnoddau’n ffordd berffaith i’w helpu i wireddu amcanion y cwricwlwm newydd.