Mae elusen sy’n gweithio tuag at sicrhau Cymru ddi-fwg yn dweud y bydden nhw wedi bod yn hapus i weld cynnydd yn y gyfradd doll ar e-sigaréts yn y Gyllideb.

Daeth y cyhoeddiad yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf y bydd y gyfradd doll ar bob cynnyrch tybaco yn cynyddu o Ebrill 1, ond gan nad yw e-sigaréts yn cynnwys tybaco fydd eu pris ddim yn cynyddu.

Fodd bynnag, mae llawer o e-sigaréts yn cynnwys nicotin, sy’n dod o blanhigyn tybaco, sydd â’r gallu i wneud pobol yn gaeth i’r cynnyrch.

Dywed elusen ASH Cymru fod y Gyilldeb yn “gam i’r cyfeiriad cywir”, ond y byddai cynyddu’r doll ar e-sigaréts yn gallu cael effaith fawr ar bobol ifanc sy’n defnyddio cynnyrch fel vapes.

Bydd ardoll sigaréts yn codi 10.1% yn unol â Mynegai Prisiau Manwerthu, a 2% ychwanegol ar ben hynny.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, £12.84 yw’r pris cyfartalog am becyn o 20 sigarét ac felly byddai cynnydd o 12% mewn pris yn codi’r pris cyfartalog i £14.38, neu £1.54 y pecyn yn ychwanegol.

Bydd tybaco rholio â llaw yn cynyddu 10.1%, ynghyd â 6% ychwanegol.

Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio y bydd cynnydd mewn prisiau yn dod â’r Deyrnas Unedig gam yn nes at fod yn ddi-fwg erbyn 2030.

Cynnydd pris bach yn cael ‘effaith mawr’

Mae ASH Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o effeithiau iechyd, cymdeithasol ac economaidd ysmygu.

Yn ôl yr elusen, fêpio bellach yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru, gyda thua 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion yn defnyddio cynnyrch fêpio.

Ond y broblem, yn ôl yr elusen, yw bod fêpio ar gynnydd ymysg pobol ifanc yng Nghymru, ac mae rhybuddion fod pobol ifanc yn mynd yn gaeth iddyn nhw hefyd.

Mae un vape tafladwy yn cyfateb i 45 sigarét ar gyfartaledd.

Maen nhw’n cynnwys 20mg o nicotin, sef y lefel uchaf sy’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’n ymwneud â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw rhwng gwneud yn siŵr nad yw’r cynhyrchion hyn yn hygyrch i blant, oherwydd yn amlwg mae vapes yn eithaf rhad,” meddai Simon Scheeres, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus ASH Cymru, wrth ystyried y cyhoeddiad yn y Gyllideb.

“Mae hyn yn eu gwneud nhw’n fwy hygyrch i blant.

“Ond rydym hefyd yn cydbwyso hynny â’u gwneud yn fforddiadwy i bobol fyddai, fel arall, yn defnyddio tybaco.

“Pan roedden ni’n drych ar Gyllideb y Gwanwyn, roedd gennym y ddau beth hyn mewn golwg.

“Dydy cynnydd ym mhris vapes ddim yn beth drwg o reidrwydd, oherwydd gall helpu i gadw’r cynhyrchion yma allan o ddwylo plant, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod ar ystod pris fforddiadwy fel y gall ysmygwyr ddefnyddio’r dewis arall yma sy’n llai niweidiol.

“Beth rydyn ni’n ei wybod ydi bod plant yn sensitif i bris tybaco a vapes, felly byddai hyd yn oed cynnydd bach yn cael effaith mawr ymysg yr ieuenctid.

“Felly pe byddai’n gynnydd bach, fyddai dim problem gennym ni.

“Ond byddai’n broblem fawr pe byddai cynnydd mawr, er enghraifft cynnydd sy’n fwy nag sydd ar gyfer tybaco.

“Mae’r Gyllideb yn gam i’r cyfeiriad cywir o’n safbwynt ni, achos rydyn ni’n gweithio tuag at y diwrnod pan fydd tybaco wedi’i ddileu yn gyfan gwbl.”

Cadw at reoliadau yn hytrach na chodi prisiau

Fe wnaeth Graham Fentham ddefnyddio e-sigaréts er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu, ac mae o bellach yn berchen ar siop SA48 Vapes yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae o’n teimlo bod y broblem gyda phlant yn defnyddio offer fêpio yn mynd ymhellach na chodi prisiau.

“Weithiau, bydda i’n cael plant dan oed yn dod mewn i drio prynu vapes, ond yn anffodus does dim rheolaeth dros rieni yn dod mewn i brynu ar gyfer plant.

“Ti’n gwybod bod o’n digwydd ond does dim lot galla i wneud, er fy mod i ddim yn deall pam y byddan nhw’n eu prynu nhw ar gyfer plant ifanc.

“Mae yna feddwl tu ôl i godi prisiau vapes fel bod plant ddim yn cael eu dwylo arnyn nhw, ond os byddai pawb yn gwneud y peth iawn a pheidio gwerthu i blant, fyddai dim angen ar gyfer cynnydd.

“Rydan ni’n gwneud gymaint ag y gallwn i addysgu pobol am vapes, ond mae’n bach o syndod bod cymaint o bobol sydd ddim yn ysmygu i ddechrau yn prynu vapes, achos dw i wastad wedi gweld vapes fel ffordd o stopio ysmygu.

“Mae’r rheoliadau yna hefyd ar gyfer faint o nicotin sydd mewn vapes; mae yna siopau sy’n gwerthu rhai sy’n cynnwys hyd at 7,000 pwff, sy’n anghyfreithlon.”

£180m i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiadau’r Gyllideb: Ceidwadwyr Cymreig yn addo “twf a llewyrch”

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mae Jeremy Hunt “wedi colli gafael ar aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd”