Bydd Cymru’n derbyn £180m o arian canlyniadol trwy Fformiwla Barnett fel rhan o Gyllideb Canghellor y Deyrnas Unedig, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15).

Mae Jeremy Hunt wedi cyflwyno Cyllideb sy’n “gwrthbrofi’r amheuwyr”, meddai, wrth iddo gyhoeddi na fydd yna “ddirwasgiad technegol” eleni.

Daw hyn wrth i wledydd y Deyrnas Unedig wynebu argyfwng costau byw a phrisiau ynni cynyddol.

Arian i Gymru

Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £180m o gyllid canlyniadol trwy Fformiwla Barnett, a bydd £20m ar gael tuag at drwsio morglawdd Caergybi.

Mae’r newyddion am forglawdd Caergybi wedi’i groesawu gan Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr ynys, sy’n dweud ei fod yn “newyddion cadarnhaol”.

“Yn falch, wythnos ar ôl i mi dynnu sylw yn y Senedd at yr angen i fuddsoddi ym morglawdd #Caergybi, o weld y Canghellor yn cyhoeddi £20m o gyllid,” meddai ar Twitter.

“Angen asesiad rŵan ar le mae hynny’n gadael y sefyllfa £ gyfan.

“Y gost dipyn yn uwch na hynny.”

Gyda’r cyhoeddiad y bydd 12 rhanbarth buddsoddi newydd yn cael eu sefydlu yng ngwledydd Prydain, y disgwyl yw y bydd un ohonyn nhw yng Nghymru ac yn derbyn £80m, a’r tebygolrwydd yw y bydd yn cael ei sefydlu yn un o drefi neu ddinasoedd prifysgol y wlad.

Daeth cadarnhad hefyd y bydd darparwyr ynni niwclear yn gallu cael gafael ar yr un gefnogaeth â chynhyrchwyr ynni gwyrdd yn y dyfodol.

Mae yna gynlluniau ar droed ar gyfer gorsafoedd niwclear bychain yn Nhrawsfynydd a Wylfa.

Bydd ynni niwclear yn cael ei ailddosbarthu, gan ddod yn ynni sy’n ‘amgylcheddol gynaliadwy’, a chafodd Ynys Môn sylw yn hynny o beth gan Jeremy Hunt unwaith eto.

Cafodd cynlluniau i ddal a storio carbon ei grybwyll hefyd, wrth i’r Canghellor neilltuo £20bn o gefnogaeth ar gyfer datblygiad cynnar gan ddechrau yng ngogledd Cymru er mwyn “braenaru’r tir ar gyfer dal carbon ledled y Deyrnas Unedig”.

Uchafbwyntiau eraill

Mae swyddfa’r OBR yn darogan y bydd chwyddiant yn cyrraedd 2.9% erbyn diwedd y flwyddyn, i lawr o 10.7% y llynedd.

Mae’r dreth ar danwydd wedi’i rhewi am flwyddyn arall, ac mae’r cymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dalu biliau ynni’n cael ei ymestyn am dri mis arall, tan fis Mehefin.

Mae Jeremy Hunt hefyd wedi cyhoeddi y bydd y dreth ar alcohol 11 ceiniog yn is yn y bunt mewn tafarnau nag mewn archfarchnadoedd o fis Awst, ond gyda Llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi gosod pris sylfaen ar werthu a chyflenwi alcohol, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru.

Ar fater gofal plant, lle mae disgwyl i’r gefnogaeth yn Lloegr gael ei ymestyn i blant blwydd neu ddyflwydd oed, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad yw cynlluniau Llafur a Phlaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn ddigonol nac yn ddigon uchelgeisiol.

Yng Nghymru, mae gofal plant ar gael ar gyfer plant dwy i bedair oed, ac yn ôl Jane Dodds, mae gofal plant “yn fater o’r pwys mwyaf sy’n wynebu teuluoedd ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd”.

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “dal ein heconomi yn ôl” yng Nghymru ac yn cadw rhieni allan o’r gweithlu “gan ei bod hi, i nifer o deuluoedd, yn fwy cost-effeithiol i riant aros gartref na dychwelyd i’r gwaith”.

Dywed y blaid y byddan nhw’n parhau i alw am ofal plant rhan amser rhad ac am ddim ar gyfer plant naw mis oed a hŷn “waeth beth yw statws gwaith y rhieni”.

Wrth ymateb i hynny hefyd, dywed Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ei bod hi’n “edrych ymlaen at dderbyn arian cyfatebol llawn i Gymru ar frys fel ein bod yn gallu parhau i weithredu system yn unol ag anghenion Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn tra’n helpu mwy o deuluoedd i gael gofal plant am ddim”.

Mae Jeremy Hunt hefyd yn awyddus i annog pobol dros 50 oed i ddychwelyd i’r gwaith, gan gyfeirio at ei hun fel rhywun sydd wedi newid gyrfa wrth ddychwelyd o’r meinciau cefn i fod yn Ganghellor.

Ond cafodd ei wawdio gan yr SNP wrth iddo ddweud bod “annibyniaeth bob amser yn well na dibyniaeth”, cyn ychwanegu “yn y rhan fwyaf o amgylchiadau” pan chwarddodd aelodau o’r blaid Albanaidd.

‘Cyllideb sy’n cynnig twf a llewyrch’

Yn ôl Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Gyllideb yn cynnig “twf a llewyrch” i Gymru.

“Heddiw, mae’r Canghellor wedi cyhoeddi Cyllideb fydd yn cynnig twf a llewyrch i deuluoedd a busnesau, bydd ehangu gofal plant am ddim yn cefnogi rhieni sy’n gweithio’n galed ac sydd eisiau aros yn eu swyddi ond yn methu fforddio gwneud hynny,” meddai.

“Wrth barhau â’u gweithredoedd i fynd i’r afael â chostau byw, rydym yn croesawu’r gefnogaeth ychwanegol i’r rheiny ar incwm isel a phensiynwyr.

“Dyma Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n helpu’r rhai sy’n cael eu talu lleiaf yn y gymdeithas i aros mewn gwaith ac i fod yn rhan o’r tîm i barhau â’n twf economaidd yn dilyn y pandemig a rhyfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin.

“Unwaith eto, y Ceidwadwyr sy’n gweithio er mwyn cyflwyno ar sail blaenoriaethau pobol, tyfu’r economi a sicrhau bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed.

“Nawr, tro Llywodraeth Lafur yng Nghymru yw defnyddio’r arian ychwanegol yn llawn i ddarparu’r un cynnig gofal plant estynedig â Lloegr, gan sicrhau bod gan bobol yng Nghymru yr un cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.”

‘Cyllideb wag’

“Gwarant tafarnau Brexit – slogan gwag sy’n gweddu i Gyllideb wag,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth iddi ymateb i gyhoeddiad Jeremy Hunt.

“Mae tafarnau’n ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff o ganlyniad i Brexit.

“All pobol ddim fforddio bwyta ac yfed allan o ganlyniad i lanast economaidd y Torïaid.

“Mae Hunt wedi colli gafael ar aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd.”

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi ategu barn Plaid Cymru wrth ymateb i’r Gyllideb.

Mae Ben Lake, llefarydd y blaid ar y Trysorlys wedi croesawu ymestyn y Gwarant Prisiau Ynni, ond yn dweud ei fod yn “siomedig” nad yw’r Cynllun Cefnogaeth ar gyfer Biliau Ynni na’r Taliadau Tanwydd Amgen wedi’u hymestyn.

“Drwy ddewis y status quo, mae’r Canghellor wedi colli cyfle i gynnig cefnogaeth fawr ei hangen i aelwydydd oddi ar y grid, ac i deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd â chostau byw uwch,” meddai.

“Mae’n syndod nad oedd unrhyw ymrwymiad i sicrhau codiad cyflog teg i’n gweithwyr yn y sector cyhoeddus, ac mae’n warthus nad oedd unrhyw sôn yn araith y Canghellor am wella cysylltedd digidol.

“Mae angen buddsoddiad sylweddol a chynnar mewn cysylltedd digidol ac isadeiledd band llydan, cysylltiadau trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy ac ymchwil a datblygu os ydyn ni’n gobeithio gwireddu potensial economaidd Cymru.

“Mae perygl yn sgil tawelwch y Canghellor ar y materion hyn y bydd Cymru’n cael ei chloi mewn lefelau datblygu is nag ardaloedd cyfoethocach yn y Deyrnas Unedig.

“Mae Plaid Cymru’n croesawu’r arian hwyr ar gyfer gofal plant yn Lloegr, ac mae’n rhaid iddo arwain at arian canlyniadol llawn i Gymru.

“Rydym eisoes ar y droed flaen diolch i Blaid Cymru, gyda gofal plant rhad ac am ddim i blant dyflwydd oed wedi’i ymestyn drwy ein Cytundeb Cydweithio.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur fynd yn gynt nawr ac ymrwymo i ddefnyddio arian newydd i gyflwyno polisi Plaid Cymru o ofal plant cynhwysol yn llawn.”

Y sefyllfa bresennol “tu hwnt i ddirnadaeth y Blaid Geidwadol”

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud bod y Gyllideb yn dangos bod y sefyllfa economaidd bresennol “tu hwnt i ddirnadaeth y Blaid Geidwadol”.

Mae hi’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fethu â gwneud digon i helpu aelwydydd sydd wedi’u taro’n wael gan yr argyfwng costau byw, ac o amddifadu Cymru o arian HS2 trwy gynllun ‘Lloegr-yn-unig’, ac hefyd o fethu â diogelu’r wlad rhag costau ynni cynyddol yn y dyfodol.

“Cawson nhw gyfle i ddangos eu bod nhw’n poeni am yr argyfwng costau byw sy’n taro miloedd o deuluoedd a phensiynwyr Cymru, ond maen nhw wedi methu’n llwyr,” meddai.

“Roedd hwn yn gyfle i dorri biliau ynni a rhoi help llaw go iawn i aelwydydd.

“Gallen nhw fod wedi benthyg cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol i dorri biliau gan £500 ar gyfartaledd.

“Yn yr un modd, does dim byd yma i ddiogelu cartrefi yn y dyfodol rhag cynyddu prisiau ynni.

“Mae gan Gymru a’r Deyrnas Unedig rai o’r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon yng ngogledd Ewrop.

“Heb raglen insiwleiddio go iawn, bydd teuluoedd yn parhau’n fregus pan ddaw i sioc prisiau.

“Y tu hwnt i’r argyfwng ynni, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i amddifadu Cymru o werth biliynau o bunnoedd o arian HS2 mae arni hi i ni, gan sicrhau methiant parhaus ein trafnidiaeth gyhoeddus, druan.”

‘Cyllideb foel, heb gig ar yr esgyrn’

Yn ôl Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, mae hon yn “Gyllideb foel, heb gig ar yr esgyrn”.

“Nid yw’n ddigonol i daclo’r heriau go iawn mae pobol yn eu hwynebu,” meddai.

“Roedd ganddo’r pwerau i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr, ond dewisodd beidio â chyflawni’r dasg fawr, bwysig hon.”

Yn ôl Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, mae’r Gyllideb ond yn “papuro dros y craciau”.

“Gyda’r Gyllideb hon, roedd gan y Llywodraeth Dorïaidd y cyfle i ddatgloi addewid a photensial Cymru, ond yn hytrach fe ddewison nhw yn syml iawn i bapuro dros graciau eu 13 mlynedd o fethiant economaidd,” meddai.

“Gyda’n gorchwyl i sicrhau’r twf parhaus mwyaf yn y G7, bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth Lafur Cymru i greu swyddi da, cynhyrchiant a thwf ledled Cymru.

“Yn hytrach na’n tranc dan reolaeth y Torïaid, rydym yn haeddu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ag uchelgais fydd yn lledaenu grym, cyfoeth a chyfleoedd i bob rhan o’n cenedl.

“Dyna fydd Llafur yn ei gyflwyno.”

‘Camau bychain yn y cyfeiriad cywir’

Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, yn dweud bod hon yn “Gyllideb sy’n llai na’r lleiafswm, sy’n methu’r darlun mawr ar adeg pan fo sefyllfaoedd ariannol pobol yn gwaethygu”.

“Roedd yn brin o ddarparu gofal ystyrlon – roedd yna blaster wedi’i sticio pan oedd angen gweithredu sylweddol.

“Fe wnaeth tyllau yn y ffyrdd a phetrol gymryd y flaenoriaeth dros godiadau cyflog i athrawon a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rydym oll yn dibynnu arnyn nhw’n parhau i wynebu toriadau dinistriol – doedd dim arian ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na llywodraeth leol.

“Bydd y penderfyniad i gynnal y gwarant prisiau ynni am dri mis arall yn rhoi rhywfaint o gysur i bobol yn yr argyfwng costau byw parhaus hwn, ac mae’n rywbeth rydym wedi bod yn galw amdano’n barhaus.

“Rydym hefyd wedi bod yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud Credyd Cynhwysol yn decach ac ar i gwmnïau ynni roi’r gorau i gosbi pobol ar fesuryddion taliadau ymlaen llaw.

“Rydym wedi gweld camau bychain yn y cyfeiriad cywir yn y meysydd hyn.”