Mae’r Gyllideb gafodd ei chyhoeddi gan Jeremy Hunt, Canghellor y Deyrnas Unedig, heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15), wedi cael ei disgrifio fel “annelwig i’r Deyrnas Unedig, ac amherthnasol i Gymru” gan economegydd blaenllaw…


Y gwir plaen amdani yw fod y Deyrnas Unedig wedi torri, a does gan y Canghellor ddim cynllun i’w thrwsio.

Ar hyn o bryd, mae dyled genedlaethol y Deyrnas Unedig yn swm anhygoel, £2.5 triliwn, a’r Deyrnas Unedig sydd â’r baich treth uchaf a’r cynhyrchiant isaf o bob un o’r 38 aelod o’r OECD. Yn erbyn y cefndir hwn y dywedodd y Canghellor mai ei “flaenoriaeth yw lleihau dyled”, ond dydy e ddim wedi symud i gyflawni hynny. Yr unig gyhoeddiad perthnasol oedd y cynnydd yn y dreth ar dybaco, sydd ddim yn debygol o godi llawer gyda mwy a mwy o bobol yn rhoi’r gorau i ysmygu!

Mae’n amlwg nad yw’r Canghellor yn deall yr economi. Nododd nad oes unrhyw ddirwasgiad wedi’i ddarogan, gan fethu’r ffaith ein bod ni eisoes yng nghanol dirwasgiad dwfn a chyfnod o chwyddwasgiad (stagflation). Mae awgrymu y bydd dirwasgiad yn cwympo o dros 10% i ddim ond 2% erbyn diwedd y flwyddyn yn or-ddweud yn fwy nag economeg, a does dim sôn am y dull ar gyfer gwireddu hyn.

Mae yna rai ffactorau i’w croesawu ym manylion y Gyllideb – bydd cymorth gyda gofal plant a rhewi’r dreth ar danwydd yn helpu teuluoedd Cymru, yn enwedig yr olaf ohonyn nhw mewn ardaloedd gwledig. Yn yr un modd, bydd y cap ynni yn cynnig rhyddhad i deuluoedd Cymru, er y dylem atgoffa’n hunain ein bod ni eisoes yn cynhyrchu traean yn fwy o drydan yng Nghymru nag yr ydym yn ei ddefnyddio, ac y dylai ynni fod yn rhatach o lawer yma.

Efallai y bydd gostwng y dreth ar gwrw drafft mewn tafarnau mewn ymateb i brisiau archfarchnadoedd yn helpu tafarndau, ond mae prisiau archfarchnadoedd yn dal yn rhad o’u cymharu â thafarnau. Ydy Mr Hunt, wir yr, yn ymweld â thafarnau? Ar wahân i hynny, does dim byd i Gymru.

Roedd y Gyllideb yn ei chyfanrwydd yn bytiog, bydd y cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn am oes ond yn effeithio ar ryw 4% o boblogaeth gyfan y Deyrnas Unedig, roedd yr arian gafodd ei neilltuo ar gyfer AI, mewn gwirionedd, yn fach iawn ac yn aneglur, ac roedd y gwariant cyfalaf llawn ar gyfer Lloegr yr un mor aneglur.

Mae cynyddu gwariant ar amddiffyn ar yr un pryd â cheisio lleihau dyled yn amlwg yn plesio’r asgell dde Dorïaidd. Mae’r Deyrnas Unedig eisoes yn gwario’n anghymesur ar wariant nag unrhyw wlad Ewropeaidd arall.