Mae economegydd blaenllaw o Brifysgol Bangor yn credu bod y Gyllideb gafodd ei chyhoeddi gan y Canghellor Jeremy Hunt heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15) yn un “deg” ond “anodd, i ryw raddau, o ran y sefyllfa economaidd rydan ni’n ei gweld”.
Bydd Cymru’n derbyn £180m o arian canlyniadol trwy Fformiwla Barnett, a bydd £20m ar gael tuag at drwsio morglawdd Caergybi.
Gyda’r cyhoeddiad y bydd 12 rhanbarth buddsoddi newydd yn cael eu sefydlu yng ngwledydd Prydain, y disgwyl yw y bydd un ohonyn nhw yng Nghymru ac yn derbyn £80m, a’r tebygolrwydd yw y bydd yn cael ei sefydlu yn un o drefi neu ddinasoedd prifysgol y wlad.
Bydd ynni niwclear yn cael ei ailddosbarthu, gan ddod yn ynni sy’n ‘amgylcheddol gynaliadwy’, a chafodd Ynys Môn sylw yn hynny o beth gan Jeremy Hunt unwaith eto, gyda phrosiectau bach yn Nhrawsfynydd ac Wylfa yn debygol o elwa.
Cafodd cynlluniau i ddal a storio carbon ei grybwyll hefyd, wrth i’r Canghellor neilltuo £20bn o gefnogaeth ar gyfer datblygiad cynnar gan ddechrau yng ngogledd Cymru er mwyn “braenaru’r tir ar gyfer dal carbon ledled y Deyrnas Unedig”.
Mae Jeremy Hunt hefyd wedi cyhoeddi y bydd y dreth ar alcohol 11 ceiniog yn is mewn tafarnau nag mewn archfarchnadoedd o fis Awst, ond gyda Llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi gosod pris sylfaen ar werthu a chyflenwi alcohol, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru.
Mae disgwyl i’r gefnogaeth ar gyfer gofal plant yn Lloegr gael ei ymestyn i gynnwys plant blwydd neu ddyflwydd oed, ond yng Nghymru mae’r un gofal ar gael ar gyfer plant dwy i bedair oed.
Mae Jeremy Hunt hefyd yn awyddus i annog pobol dros 50 oed i ddychwelyd i’r gwaith.
Mae’r Gyllideb wedi cael ymateb cymysg gan y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.
‘Denu pobol yn ôl i weithio’
Yn ôl Dr Edward Jones, sy’n ddarlithydd Economeg yn Ysgol Busnes Bangor, mae’r Gyllideb yn arwydd o ddyhead Jeremy Hunt i gyflwyno polisïau i annog pobol i ddychwelyd i’r gwaith.
“Beth rydan ni wedi gweld Jeremy Hunt yn ei wneud ydi trio dod â pholisïau i mewn sy’n mynd i helpu pobol ddod yn ôl i mewn i’r farchnad lafur, yn ôl i mewn i swyddi,” meddai wrth golwg360.
“Oherwydd un o’r pethau rydan ni wedi’i sylweddoli yng Nghymru ac ar draws Prydain yw fod rhai pobol oedd wedi stopio gweithio yn ystod y pandemig ddim wedi dod yn ôl i mewn i’r farchnad lafur, felly mi oedd hynny’n golygu bod yna lai o weithwyr yn yr economi.
“O beth dw i’n gweld, efo’r polisïau mae Jeremy Hunt wedi dod â nhw i mewn heddiw, mae o’n trio denu’r bobol yna yn ôl i mewn i weithio.
“Cyhoeddodd Jeremy Hunt heddiw fod economi Prydain ddim am fod mewn recession, neu’n dechnegol ddim am fod mewn recession, ond rhywbeth technegol yw hynna.
“Dw i dal yn credu bod yr economi’n mynd i fod yn galed i bobol ym Mhrydain ac i ni yma yng Nghymru, ond rydan ni’n gweld adborth yn barod gan bobol fel yr IMF, yr International Monetary Fund, ac maen nhw’n dweud ein bod ni ar y trywydd iawn o leiaf, a fyswn i’n cytuno efo nhw ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.
“Ond yn anffodus, mae am fod yn flwyddyn go galed o’n blaenau.”
‘Dim llawer o gyhoeddiadau mawr’
Yn sgil y sefyllfa economaidd bresennol, meddai Dr Edward Jones, doedd e ddim yn disgwyl “llawer o gyhoeddiadau mawr, neu’r big innovative projects“.
“Ond un peth mae’r Canghellor wedi’i wneud yw, mae o’n mynd i drio’i gwneud hi’n haws i bobol fynd yn ôl i weithio,” meddai.
“Rydan ni’n gwybod fod hyn yn broblem ers y pandemig, felly dw i yn falch bod o wedi gwneud hyn, mae o wedi sylweddoli bod yna broblem economaidd ac mae’n trio datrys honna rŵan.
“Mae’n rhaid i ni gofio, mae sawl peth sy’n digwydd sydd tu allan i bwerau’r llywodraeth i’w rheoli, er enghraifft prisiau ynni.
“Mae o’n mynd i wario £11bn dros y pum mlynedd nesaf ar amddiffyn, yr adran yna, yn anffodus oherwydd y sefyllfa rydan ni ynddi.
“Dyna’r math o beth sydd rhaid ei wneud ar hyn o bryd.
“Wrth gwrs, mi fysen ni i gyd wrth ein boddau’n gweld Cyllideb well i’n helpu ni ond yn anffodus, mae hon yn Gyllideb deg i’w gweld.
“Mae blwyddyn galed o’n blaenau, mae’n Gyllideb deg o ystyried y sefyllfa rydan ni ynddi, a fyswn i’n hoffi gweld ddiwedd y flwyddyn yma neu yn sicr flwyddyn nesa’, y Llywodraeth yn dod â pholisïau mwy i mewn i helpu i dyfu’r economi.”