Mae Owen Roberts wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd Plaid Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel arbenigwr cyfathrebu a materion allanol yn hyrwyddo sectorau bwyd ac amaeth Cymru.

Bydd yn dechrau ar ei waith yn arwain swyddfa ganolog Plaid Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Cafodd ei fagu yng Ngheredigion, ac mae’n byw ar hyn o bryd gyda’i deulu ger Penrhyncoch.

Graddiodd o brifysgolion Caerefrog ac Aberystwyth, ac wedi hynny treuliodd ddeng mlynedd yn darlithio mewn hanes modern, yn bennaf yn ymchwilio ac yn dysgu hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.

Mae wedi cyflawni nifer o rolau ymgyrchu a threfnu i Blaid Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol.

Treuliodd gyfnod yn Bennaeth Ymchwil a Chyfathrebu i Elin Jones pan oedd hi’n ddirprwy arweinydd Plaid Cymru ac yn llefarydd ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Yn fwy diweddar, mae wedi’i gyflogi mewn rôl uwch reoli mewn asiantaeth sy’n gweithredu ar ran ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru, yn hyrwyddo bwyd Cymreig a’r brand Cymreig, yn gyfrifol am gyfathrebu, materion allanol, a digwyddiadau mawr.

“Mae gan Owen gyfoeth o brofiad, brwdfrydedd a syniadau i gynyddu cefnogaeth i’r Blaid, ac rwy’n hynod o falch o fod yn ei groesawu i’w rôl newydd fel Prif Weithredwr,” meddai Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru.

“Mae Owen yn rhywun sydd wedi gweithio’n wirfoddol ar bob lefel o’r Blaid yn ogystal â threulio cyfnod fel aelod staff i Aelod etholedig. Mae ganddo ddealltwriaeth gwirioneddol o’r aelodaeth ar lawr gwlad ac mi rydw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio â fo a gweddill y staff i ddatblygu’r Blaid ymhob rhan o Gymru.”

‘Cyffro a balcher’

“Mae’n destun cyffro a balchder i mi fod yn ymgymryd â rol Prif Weithredwr Plaid Cymru gyda’r mudiad ar drothwy ei ganfed blwyddyn,” meddai Owen Roberts.

“Fy amcan fydd nid yn unig i dyfu aelodaeth y blaid ond hefyd i ysgogi ac ysbrydoli aelodau presennol i guro drysau a chynnal sgyrsiau gan ddod yn actifyddion pybyr yn ein cymunedau.

“Wrth i bleidiau San Steffan barhau i anwybyddu buddiannau Cymru, mae’n bwysicach nag erioed fod Plaid Cymru yn gweithio’n galed i ehangu ein cefnogaeth ym mhob cwr o’r wlad.

“Gwn fod llawer i’w wneud, ond gwn hefyd fod Cymru ar ei hennill pan fod Plaid Cymru yn rhoi llais cryf a gofalgar i’n cymunedau sy’n haeddu dim llai.”

‘Ystod o sgiliau a phrofiadau amhrisiadwy’

“Pleser o’r mwyaf yw croesawu Owen i’w swydd newydd fel Prif Weithredwr Plaid Cymru,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

“Daw gydag ef ystod o sgiliau a phrofiadau fydd yn amhrisadwy ar yr adeg bwysig hon yn hanes Plaid Cymru wrth i ni weithredu ein strategaeth wleidyddol newydd: ehangu cefnogaeth y blaid ym mhob rhan o Gymru, dod yn blaid lywodraethol, a sicrhau annibyniaeth i’n cenedl.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag Owen wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith hollbwysig hwn i sicrhau’r newid sydd ei angen a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled Cymru.”