Mae swyddi yn y fantol mewn cartref gofal yn Llanybydder, yn dilyn ymgynghoriad diweddar ar gyllideb Cyngor Sir Gâr.

Mae’r Cyngor wedi cytuno i newid y gwasanaeth gofal ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yng Nghwm Aur.

Yn y gorffennol, fe fu’r Cyngor yn comisiynu Grŵp Pobl i ddarparu elfen gofal ychwanegol y gwasanaeth hwn ond er gwaethaf pob ymdrech i gynnig darpariaeth o’r fath, mae nifer y preswylwyr yng Nghwm Aur sydd angen gofal ychwanegol wedi parhau’n fach iawn ers nifer o flynyddoedd.

Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth mewn ymgynghoriad â Grŵp Pobl, mae’r ddwy ochr wedi cytuno bod modd darparu anghenion gofal y preswylwyr mewn ffordd sy’n fwy cynaliadwy.

O ganlyniad, fe wnaethon nhw gytuno i newid y model i un lle na fydd gofal bellach yn cael ei ddarparu gan Grŵp Pobl fel sefydliad, ond yn hytrach fe fydd gwasanaeth cartref yn cael ei drefnu naill ai gan y Cyngor neu asiantaeth gofal cartref allanol sy’n darparu gofal yn yr ardal.

Mae anghenion yr holl breswylwyr mae hyn yn effeithio arnyn nhw wedi cael eu hasesu gan dimau gwaith cymdeithasol y Cyngor, ac mae’r Cyngor wrthi’n rhoi trefniadau eraill ar waith i ddarparu’r gofal.

Mae pob tenantiaeth yn ddiogel, felly fydd dim rhaid i unrhyw breswylydd symud, a bydd gofal yn dal i gael ei ddarparu yn unol â’u hanghenion ar sail asesiad.

Diswyddiadau

“Mae Grŵp Pobl wrthi’n adolygu sut y bydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel landlord, o ran cymorth ar y safle ar gyfer cymorth nad yw’n ymwneud â gofal, ac mae’r Cyngor wedi cytuno i gyfrannu’n ariannol o hyd er mwyn cefnogi hyn,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Mae’r cynnig hwn yn effeithio ar staff a gyflogir gan Grŵp Pobl, ac rydym yn gwybod bod Grŵp Pobl wedi cyflwyno hysbysiadau diswyddo i’r staff hyn.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod rhai o’r staff wedi llwyddo i gael swyddi eraill, ac mae’r Cyngor wedi rhoi rhestr o swyddi gwag o fewn y Cyngor i Grŵp Pobl, i’w staff fwrw golwg arnynt.

“Fel cyflogwr mawr, mae gan Grŵp Pobl hefyd gyfleoedd adleoli ar gael i’w staff.”

Mae’r Cyngor yn “sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd a phryderus i breswylwyr a staff Cwm Aur”, yn ôl Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyngor Sir Gâr.

“Fel yn achos unrhyw newid, mae’r cyfnod pontio bob amser yn anodd, a bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r preswylwyr, eu teuluoedd a Grŵp Pobl i reoli’r newid hwnnw’n effeithiol,” meddai.

“Er bod y newid yn golygu model gofal gwahanol i’r preswylwyr, mae’r Cyngor yn hyderus y bydd darparwyr eraill ar gael i reoli’r gofal hwnnw, ac na fydd unrhyw breswylydd heb ofal pan ddaw’r cytundeb gyda Grŵp Pobl i ben.

“Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Pobl i ddatrys y sefyllfa’n llwyddiannus.”