Mae gweithiwr clwb gofal o Gaernarfon yn dweud ei bod hi’n teimlo’r pwysau i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o salwch am nad oedd ei thâl statudol yn ddigon i fyw arno.
Roedd Nerys Roberts, sy’n gweithio i glwb gofal sy’n cael ei redeg gan Mudiad Meithrin, yn teimlo’r esgid yn gwasgu wrth iddi dderbyn £99.35 yn unig o dâl statudol yn ystod ei chyfnod o absenoldeb o’r gwaith.
“Yr ail wythnos, penderfynais fynd mewn am ychydig o oriau er bo fi off yn sâl, oherwydd dy fod di ddim ond yn cael dy dalu tâl salwch statudol,” meddai wrth golwg360.
“Dydy pobol ddim yn cael cyfle i wella’n iawn oherwydd eu bod nhw’n gorfod mynd yn ôl i’w gwaith, ac mae firysau a ballu yn lledaenu pan wyt ti’n gwneud pethau fel yna.”
Dydy barn Nerys Roberts ddim yn unigryw chwaith, gyda nifer fawr o bobol ar hyd a lled y wlad yn teimlo nad yw’r tâl statudol sy’n cael ei gynnig yn ddigonol.
O Ebrill 6, bydd y tâl salwch statudol yn cynyddu i £109.40 yr wythnos, ond a yw hyn yn ddigonol? Nac ydy, yn ôl Nerys Roberts.
“Dylai’r tal salwch statudol godi mwy,” meddai.
“Dydy hynny ddim yn mynd i dalu am biliau efo costau byw yn cynyddu.
“Mae rent ar gyfartaledd tua £700, mae nwy, trydan a threth y cyngor wedi codi.”
‘Dyletswydd dros y rhai bregus’
Yn ôl Nerys Roberts, dylai’r tâl salwch statudol fod yn uwch oherwydd yr argyfwng costau byw, ac mae dyletswydd arnom dros y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.
“Dylai’r tal salwch statudol fod yn well, neu dylai’r cwmni mae’r person sy’n sâl yn gweithio iddo ychwanegu at y taliad,” meddai.
“Pan mae salwch yn wirioneddol fel yna, ac mae gennyt ti nodyn salwch i brofi fo, dylai bod y tâl salwch statudol ychydig bach mwy na beth ydy o, neu fod y cwmni rwyt ti’n gweithio iddo yn gallu topio fo fyny ychydig bach.
“Dylai fod rhywbeth yn cael ei wneud yn well na beth sydd ar gael efo costau byw yn cynyddu ac rwyt ti dal angen talu biliau er bo chdi’n sâl.
“Dydy tâl salwch statudol ddim yn ddigon o arian i dalu am bob dim.
“Y bobol sengl sydd heb blant adref a dim ond un incwm sy’n dod mewn sy’n dioddef fwyaf.
“Does dim help i’r rhain.”
Mynd yn ôl i’r gwaith yn fuan
Roedd Nerys Roberts yn teimlo’n ofnadwy pan oedd hi’n sâl, ond gwnaeth hi’r penderfyniad anodd i ddychwelyd i’r gwaith yn ystod ail wythnos ei salwch oherwydd bod angen yr arian arni.
“Roeddwn wedi blino am ryw bythefnos cynt, dim blino normal ond blino ofnadwy,” meddai.
“Roedd gennyf symptomau eraill.
“Es i i weld y doctor, ges i brawf gwaed ac wrin, daeth y rhain yn ôl yn glir felly wnaethon nhw ei roi o lawr i firws.
“Ges i nodyn salwch am bythefnos.
“Mae tâl salwch statudol yn £99.35 yr wythnos.
“Rwy’n cael £10 yr awr ac rwy’n gweithio 35 awr.
“Weithiau rwy’n cael tal arweinydd.
“Ar gyfartaledd rwy’n ennill £350 yr wythnos.
“Yr ail wythnos penderfynais fynd mewn am ychydig o oriau er bod fi oddi ar gwaith yn sâl oherwydd dy fod dim ond yn cael dy dalu tal salwch statudol.
“Doeddwn i methu fforddio cymryd pythefnos oddi ar y gwaith.”