Mae Cyngres Undebau Llafur y TUC yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cyfran deg o arian i Gymru yng Nghyllideb y Gwanwyn.
Daw hyn wrth i Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, baratoi i gyhoeddi ei Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15).
Dywed y TUC fod y Gyllideb yn dod ar adeg o chwyddiant uchel iawn, cynnydd mewn diweithdra a llai o incwm i aelwydydd, a’r cyfan oll yng nghysgod cyfyngiadau ariannol ar Lywodraeth ddatganoledig Cymru.
Maen nhw’n galw ar y Canghellor i gyflwyno codiadau adrannol ar draws y llywodraeth fel bod gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru’n cael y codiadau cyflog maen nhw’n eu haeddu, yn ogystal â chyfres o fesurau eraill i sicrhau bod gwaith yn talu, gan gynnwys cynllun ar gyfer isafswm cyflog o £15.
Daw’r alwad wrth i rali gael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw, er mwyn dangos undod â’r rheiny sy’n streicio.
Ar hyn o bryd, bydd aelodau o undebau PCS, UCU a Prospect yn gweithredu’n ddiwydiannol yn y gwasanaeth sifil a phrifysgolion, ond mae streiciau mewn ysgolion wedi’u gohirio gan undeb NEU Cymru fel bod modd i athrawon ystyried cynnig cyflog newydd.
‘Cyfle i unioni cam’
“Mae Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfle i ddechrau unioni cam dros ddegawd o bolisïau llymder,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Ddylai pobol dosbarth gweithiol ddim bod yn talu’r pris am y pandemig, yr argyfwng ynni na’r methiant i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a nawdd cymdeithasol yn ddigonol ers blynyddoedd.
“Mae’r gost wrth fethu â gwneud hynny’n rhy uchel – bydd cynnydd mewn diweithdra a rhagor o doriadau i wasanaethau cyhoeddus yn niweidio pobol ymhellach drwy wthio rhagor o bobol i mewn i dlodi.”