Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi ymuno â phrotestwyr yng Nghaerdydd sy’n gwrthwynebu ehangu pwll glo.

Mae’r protestwyr yn ymgynnull y tu allan i Lys Sifil Caerdydd i fynnu bod y cynlluniau ar gyfer Pwll Glo Aberpergwm ger Castell-nedd yn cael eu dileu.

Fis Ionawr y llynedd, daeth caniatâd ar gyfer cloddio 40m tunnell yn rhagor o lo ar y safle.

Mae’r llys wrthi’n clywed adolygiad barnwrol ar ddyfodol y safle, yn dilyn anghytundeb rhwng llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig tros bwy fyddai â chyfrifoldeb am atal unrhyw estyniad ar y safle.

“Rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac efo pob dydd rydan ni’n cloddio am ragor o danwydd ffosil, rydyn ni’n mynd yn nes at ddifrod nad oes modd ei wyrdroi,” meddai Jane Dodds.

“Does dim ots p’un ai cyfrifoldeb Llafur neu’r Ceidwadwyr yw e, dylai’r glo yma aros yn y ddaear.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd yn glir na ddylai pobol leol golli allan ac y dylai hen gymunedau glofaol Cymru fod ar frig y rhestr pan ddaw i fuddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd newydd megis hydrogen a dur gwyrdd.

“Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig amlinellu cynlluniau i wneud hyn ar unwaith, ac osgoi ailadrodd camgymeriadau Margaret Thatcher.”