Fe fydd pob un o’r 32 sir yn Iwerddon yn cynnal o leiaf un digwyddiad yn yr iaith Wyddeleg heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15).

Mae’r digwyddiadau’n rhan o Lá na gCiorcal 2023, gyda grwpiau ledled y wlad yn rhoi’r cyfle i bobol ddefnyddio hynny o iaith sydd ganddyn nhw yn eu cymunedau.

Yn ôl un grŵp yn ardal Dún na nGall (Donegal), mae gan grwpiau cymunedol ran fawr i’w chwarae wrth hybu’r iaith ar lawr gwlad.

“Rydyn ni’n hapus iawn o fod yn cymryd rhan heddiw yn Lá na gCiorcal yma yn na Dúnaibh, lle mae ein grŵp sgwrsio’n mynd o nerth i nerth,” meddai Anna Nic Lochlainn, Rheolwr Céim Aniar a threfnydd Ciorcal Comhrá yn na Dúnaibh, Dún na nGall.

“Mae gan y ciorcal (cylch) yma, fel ciorcail (cylchoedd) eraill yn yr ardal, ran fawr i’w chwarae wrth hybu’r Wyddeleg yn y gymuned yma yn y Tuaisceart Dhún na nGall Gaeltacht (bro Wyddeleg yn y gogledd), ac mae croeso i bawb ymuno â ni.”

Ysbrydoliaeth

“Fe wnaeth Lá na gCiorcal ein hysbrydoli ni a rhoi’r ysgogiad i ni ddechrau ciorcal comhrá (cylch sgwrsio) ar gyfer Gwyddelod sy’n siarad Gwyddeleg yn y sir yma yn An Longfoirt,” meddai Éamonn Ó Braonáin, Aelod Bwrdd Sirol CLG yn An Longfoirt.

“Gobeithio y gallwn ni, yn ein tro, ysbrydoli pobol i ddefnyddio’u Gwyddeleg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, p’un a ydyn nhw’n rhugl neu megis dechrau.

“Byddwn ni’n dechrau ciorcal (cylch) rheolaidd ar gyfer ein cymunedau o hyn ymlaen, fydd yn helpu clybiau ledled y wlad.”

‘Dathlu’r iaith’

“Mae’n wych fod grwpiau cymunedol ledled y 32 sir yn trefnu ciorcail chomhrá (cylchoedd sgwrsio) heddiw yn y Gaeltacht ac o amgylch Iwerddon i ddathlu’r iaith Wyddeleg,” meddai Conchubhair Mac Lochlainn, Cathaoirleach (cadeirydd) Sheachtain na Gaeilge le Energia.

“Gobeithio y bydd Lá na gCiorcal yn ysbrydoli pobol i aros ynghlwm wrth ciorcail (cylchoedd) yn eu bröydd ar ôl Seachtain na Gaeilge le Energia a thrwy gydol y flwyddyn.”