Fe fydd Comisiwn Ewrop yn cyfieithu ymgyrch sy’n hybu goddefgarwch o’r iaith Gatalaneg i’r iaith frodorol, wedi iddi fod yn uniaith Sbaeneg hyd yn hyn, yn ôl Catalan News.

O ganlyniad i’r ymgyrch uniaith, fe fu gwleidyddion o blaid annibyniaeth Junts per Catalunya, gan gynnwys y cyn-arweinydd Carles Puigdemont, yn cyflwyno cwestiwn seneddol yn beirniadu gwahaniaethu yn erbyn siaradwyr brodorol.

Caiff yr ymgyrch ei rheoli’n uniongyrchol o Frwsel ar ran y 27 aelod sy’n siarad cyfanswm o 24 o ieithoedd swyddogol, yn ôl Comisiwn Ewrop.

Dywed llefarydd ar ran y Comisiwn fod yr ymgyrch wedi bod yn Sbaeneg yn unig hyd yma “gan mai hi yw unig iaith swyddogol Sbaen o fewn yr Undeb Ewropeaidd”.

Ond maen nhw’n cyfaddef fod hynny’n “her” weithiau, wrth geisio sicrhau bod eu negeseuon yn cyrraedd pawb.

Mae Cynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yn Barcelona fel arfer yn cynnal ymgyrchoedd yn yr iaith frodorol “o ystyried sefyllfa arbennig y Gatalaneg”.

Yn yr achos hwn, bydd deunydd yr ymgyrch ‘You are EU’ yn cael ei addasu a’i gyhoeddi yn yr iaith Gatalaneg ar y cyfryngau cymdeithasol, ond fydd dim posteri yn yr iaith honno.

Bydd Llywodraeth Catalwnia yn mynegi eu “hanniddigrwydd” ynghylch diffyg “sensitifrwydd tuag at yr iaith”, yn ôl llefarydd, sy’n dweud bod yr ymgyrch hon yn “enghraifft arall o’r angen i godi ymwybyddiaeth” o’r defnydd o’r iaith “ar bob lefel”.

Cyfle cyfartal

Roedd cyfle cyfartal ar-lein i ieithoedd brodorol fel Catalaneg ar yr agenda wrth i aelodau o blaid wleidyddol Esquerra Republicana gyfarfod â Chomisiynydd Ewrop tros Arloesi, Ymchwil a Diwylliant yr wythnos hon.

Dywed Catalwnia fod rhaid i weithgor yr Undeb Ewropeaidd feddu ar “fentergarwch gwleidyddol” er mwyn gwyrdroi’r “anghyfartaledd” sy’n wynebu rhai ieithoedd Ewropeaidd ar y we, gan nad ydyn nhw wedi’u gwarchod yn y byd digidol ar y cyfan.

Mae pryderon penodol ganddyn nhw, ond maen nhw’n cydnabod y byddai’n anodd cyflwyno rhaglen benodol i warchod yr iaith ar y we, er bod gan rai o brif ieithoedd Ewrop warchodaeth nad yw’n cynnwys ieithoedd lleiafrifol.

Er gwaethaf sefyllfa’r ieithoedd brodorol, mae gan yr Undeb Ewropeaidd ddyletswydd i hybu amlieithrwydd ac mae Catalwnia yn dadlau bod rhaid cael gwarchodaeth ar y we er mwyn dechrau datblygu technoleg iaith fyddai’n helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Gatalaneg a sicrhau cyfle cyfartal i holl ieithoedd Ewrop, waeth beth yw eu statws swyddogol.

Mae llythyr wedi’i lofnodi gan bron i ugain o Aelodau o Senedd Ewrop wedi cael ei anfon at un o gomisiynwyr Ewrop, yn rhybuddio am y perygl y gallai nifer o ieithoedd Ewrop gael eu dileu’n llwyr o’r byd digidol.

Ymgyrch i hybu’r iaith

Mae Llywodraeth Catalwnia wedi cyhoeddi ymgyrch newydd yn hybu’r iaith Gatalaneg.

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn newid agweddau tuag at yr iaith ac yn cynyddu nifer y siaradwyr, gan fod gan Gatalwnia “nifer o leisiau a ffyrdd o siarad yr iaith”.

Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd y llywodraeth 100 o fesurau newydd i roi sicrwydd i’r Gatalaneg a hefyd yr iaith Aranese, iaith swyddogol rhanbarth Val d’Aran yng ngogledd-orllewin Sbaen, a iaith arwyddion Catalaneg.

Mae 51 o’r mesurau hyn eisoes ar waith, a’r rheiny’n amrywio o’r sector clyweledol i addysgu gweithwyr cyhoeddus ac adrannau iechyd ac addysg.