Mae angen brysio i fynd i’r afael â safonau byw sy’n gostwng, yn ôl Ben Lake.
Daw sylwadau llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys wrth i’r Canghellor Jeremy Hunt baratoi i gyhoeddi ei Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 15).
Yn ôl Ben Lake, sydd hefyd yn Aelod Seneddol Ceredigion, mae’n rhaid i’r Canghellor dorri’r cylch gwenwynig o fynd o un argyfwng i’r llall.
“Mae incymau aelwydydd eisoes wedi dioddef cwymp o 3.2% mewn cyflogau rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr,” meddai.
“Mae disgwyl cwymp pellach o £1,100 mewn termau real dros y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn wynebu risg wirioneddol o ddirywiad sylweddol mewn safonau byw o ganlyniad, ac eto nid oes llawer o ymdeimlad o frys yn Whitehall i fynd i’r afael ag ef.
“Mae cynllun pum pwynt Plaid Cymru yn darparu llwybr i’r Canghellor ddiogelu incwm aelwydydd ar unwaith.
“Drwy sicrhau bod cyflogau a budd-daliadau’r sector cyhoeddus o leiaf yn cyd-fynd â chwyddiant, a thrwy warantu estyniad i’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni a’r Taliad Tanwydd Amgen, gallwn gymryd camau hanfodol i warchod safonau byw pobl rhag niwed pellach.
“Rhaid i ni hefyd edrych i’r tymor hwy a mynd i’r afael â’r argyfwng cynhyrchiant sydd wedi ein dal yn ôl ers dros ddegawd.
“Yn wir, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cyfrifo, ar ein trywydd presennol, y bydd incymau Cymru erbyn 2027 £10,300 yn is na phe bai lefelau twf cyn yr argyfwng ariannol wedi’u cynnal.
“Mae’n bryd llunio strategaeth gynhwysfawr sydd â buddsoddiad mewn cysylltedd digidol a thechnolegau gwyrdd yn ganolog iddi.
“Rydyn ni fel arall mewn perygl o barhau â’r cylch gwenwynig o neidio o argyfwng i argyfwng heb unrhyw obaith o ddatrysiad.”
Cynllun pum pwynt Plaid Cymru i leddfu’r argyfwng costau byw
‘Rhaid i’r Canghellor fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw’