Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadw’r Sicrwydd Prisiau Ynni o £2,500 a chymryd “camau pendant wedi’u targedu” er mwyn lleddfu’r argyfwng costau byw mae pobol a busnesau’n ei wynebu.
Dyna rybudd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wrth i Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, baratoi i gyflwyno’i Gyllideb ddydd Mercher (Mawrth 15).
Dywed fod y Gyllideb yn cael ei chyhoeddi ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn gwaethygu, gyda phrisiau ynni a bwyd yn dal i fod yn uchel.
“Mae gan y Canghellor y pwerau i wneud gwell defnydd o’i lifrau lles a threth, yn ogystal â lle ym mhwrs y cyhoedd, i leddfu’r heriau sy’n cael eu profi gan aelwydydd a busnesau,” meddai Rebecca Evans.
“Rhaid defnyddio hyn er mwyn cefnogi’r rhai mwyaf bregus ar unwaith – gan gynnwys datrysiadau ymarferol i gefnogi pobol â chostau ynni, anghenion tai a budd-daliadau lles.
“Byddai cadw’r Sicrwydd Prisiau Ynni o £2,500 y tu hwnt i fis Ebrill yn rhan hanfodol o hyn.
“Mae’n hanfodol bod y Canghellor yn gweithredu ar ariannu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector cyhoeddus, ac yn adfer tâl termau real ar gyfer gweithwyr y sector gofal.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn troi’n 75 mlwydd oed eleni, ac mae’n gyfle gwirioneddol i fuddsoddi ac i ddiwygio.
“Mae ein cyllideb ein hunain yn werth hyd at £1bn yn llai mewn termau real yn 2023 hyd at 2024, felly mae angen i ni weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi go iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus i gydnabod effaith ddinistriol chwyddiant ar draws y wlad.
“Dw i wedi ysgrifennu at y Canghellor ac wedi cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i bwysleisio’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, ein pobol a’i gwasanaethau cyhoeddus.
“Cyllideb y Gwanwyn yw’r adeg ar gyfer gweithredu ystyrlon.”