Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad o Glinig Angelton yn Ysbyty Seiciatrig Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Tynnodd arolygwyr sylw at faterion difrifol roedd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg weithredu arnyn nhw ar unwaith, er mwyn atal niwed sylweddol i’r cleifion a’r staff.

Yn ystod yr arolygiad, cafodd nifer o feysydd eu nodi lle’r oedd angen gwelliant sylweddol, gan gynnwys materion diogelwch, asesiadau o bwyntiau clymu, trefniadau cynllunio gofal digonol a chynnal archwiliadau rheolaidd.

Cwblhaodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolygiad dirybudd o’r ysbyty ar dri diwrnod dilynol fis Tachwedd y llynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd nifer o ardaloedd asesu ar Wardiau 1 a 2 yng Nghlinig Angelton eu harolygu.

Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal i bobol hŷn â diagnosis o gyflwr iechyd meddwl difrifol a pharhaus, a dementia.

Cryfderau a phryderon

Roedd staff yn yr uned yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i’r cleifion.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu’n barchus â’r cleifion a’u hymwelwyr, ac roedd prosesau adborth effeithiol ar waith.

Ond roedd prosesau llywodraethu ac archwilio yn annigonol ac, wrth edrych ar gynlluniau gofal y cleifion, gwelodd yr arolygwyr nad oedden nhw’n cael eu hasesu na’u monitro’n rheolaidd.

Doedd asesiadau o bwyntiau clymu ddim yn cael eu rheoli’n effeithiol, a doedd dim torwyr clymau ar y naill ward na’r llall.

Roedd ystafelloedd yn yr ysbyty oedd yn cael eu hystyried yn ‘ystafelloedd rhydd o bwyntiau clymu’, ond doedd dim cynllun cadarn i’w weld i atal cleifion risg uchel rhag mynd i mewn i ystafelloedd eraill a chael gafael o bosibl ar eitemau y gallen nhw eu clymu.

Dylai’r bwrdd iechyd ystyried cael rhestr sydd wedi’i chytuno o eitemau cyfyngedig a gwaharddedig sy’n cael eu caniatáu ar y ward, sydd i’w gweld yn glir yn yr ysbyty.

Roedd lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol yn isel, ac mae’r arolygwyr yn argymell y dylai’r bwrdd iechyd gynnal dadansoddiad o setiau sgiliau er mwyn rhoi hyfforddiant wedi’i deilwra i’r staff sy’n berthnasol i’w rôl.

Roedd angen gwelliannau sylweddol hefyd o ran cwblhau dogfennaeth glinigol er mwyn cofnodi’r gofal gaiff ei roi yn yr ysbyty mewn modd cywir a chlir.

Roedd angen gwella diogelwch drysau mewnol y wardiau hefyd, oherwydd gallai cleifion ddianc, neu gallai pobol heb awdurdod gael mynediad i’r wardiau, gan fod hyn yn peri risg i’r cleifion a’r staff.

Roedd y lefelau staffio yn ystod yr arolygiad yn ddigonol, a gwelodd yr arolygwyr gydberthnasau da rhwng y staff, oedd yn cydweithio’n dda fel tîm.

Oherwydd y pryderon, fe wnaeth yr arolygwyr anfon llythyr Sicrwydd ar Unwaith, lle gwnaethon nhw ysgrifennu at y gwasanaeth yn syth ar ôl yr arolygiad, gan gyflwyno canfyddiadau ynghylch lle mae angen camau unioni brys.

‘Nifer o feysydd i’w gwella’

“Fel rhan o’n harolygiad, nodwyd nifer o feysydd i’w gwella sy’n peri risg ddifrifol i’r cleifion a’r staff yng Nghlinig Angelton,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Pan fyddwn yn nodi pryderon sy’n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion, gofynnwn i’r bwrdd iechyd gymryd camau brys.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy’n nodi camau gwella, y byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn ei erbyn.”