Mae adolygiad wedi dod i’r casgliad bod dyn oedd wedi tagu ei chwaer ‘garedig’ i farwolaeth yn dilyn ffrae mewn parc carafanau eisoes wedi’i thrywanu hi â siswrn, a bod yr awdurdodau wedi “tanbrisio” y perygl roedd yn ei beri i aelodau’r teulu.

Fe wnaeth Matthew Selby, sydd bellach yn 20 oed, wedi lladd ei chwaer Amdana, 15, mewn carafan ym Mharc Gwyliau Tŷ Mawr yng Nghonwy fis Gorffennaf 2021.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth y Llys Apêl gynyddu dedfryd Matthew Selby, sy’n hanu o Ashton-under-Lyne, i oes o garchar.

Fe blediodd yn euog i ddynladdiad drwy gyfrifoldeb lleihaëedig ym mis Rhagfyr.

Clywodd y llys yn Llundain fod y brawd a chwaer wedi bod ar eu gwyliau gyda’u tad pan wnaethon nhw ddychwelyd i’w carafan ar ôl bod allan, ac fe ddechreuon nhw ddadlau.

Mae gan Matthew Selby awtistiaeth, ac mae ganddo anhwylder ffrwydron ysbeidiol, sy’n achosi ymddygiad ymosodol mympwyol, ac fe ruthrodd at ei chwaer ar ôl iddi ei daro â phlwg, gan achosi mân anafiadau i’w gwefus.

Cwympodd hi i’r llawr rhwng dau wely yn yr ystafell cyn i Matthew Selby ddechrau ei thagu.

‘Colli nifer o gyfleoedd’

Fe ddaeth arolwg o’r digwyddiadau arweiniodd at farwolaeth Amanda Selby gan Bartneriaeth Gwarchod Plant Tameside i’r casgliad fod yna nifer o gyfleoedd wedi’u colli dros gyfnod o dair blynedd allai fod wedi adnabod ‘peryglon cynyddol mewn perthynas â Matthew Selby.

Er gwaethaf nifer o ymosodiadau treisgar dros gyfnod o ddegawd, roedd gwasanaethau gofal cymdeithasol plant wedi cau ffeil y teulu yn 2018.

Daeth y panel gwarchod i’r casgliad eu bod nhw’n poeni bod yr achos wedi’i gau yn “rhy fuan” a bod yna “ddifaterwch” ymhlith asiantaethau fod ymddygiad Matthew Selby “wedi setlo”.

Fe ddaeth yr arolwg i’r casgliad hefyd nad oedd asesiad risg o’r niwed corfforol i Amanda Selby, a bod “cyfleoedd wedi’u colli” mewn perthynas â phryderon diogelwch ynghylch ei hiechyd meddwl a chorfforol.

Yn ogystal, fe wnaeth yr oedi wrth sicrhau diagnosis Matthew Selby o awtistiaeth effeithio ar faint o gefnogaeth ‘briodol’ y gellid fod wedi ei rhoi i’r teulu.

Hanes o drais

Roedd teulu’r Selby, ac Amanda a Matthew, yn hysbys i nifer o asiantaethau ers 2008.

Am bedair blynedd, fe fu’r asiantaethau amrywiol yn poeni am ymddygiad treisgar ac ymosodol cynyddol Matthew Selby, ond doedd hyn ddim wedi arwain at gamau pellach gan wasanaethau cymdeithasol, meddai’r panel.

Cafodd ei wahardd o’r ysgol gynradd pan oedd e’n wyth oed yn sgil ei ymddygiad ymosodol.

Roedd hi’n hysbys ei fod e’n dreisgar, ar ôl iddo ymosod ar aelod o staff yr ysgol yn 2012, ac fe ddaeth yn gynyddol fygythiol ac ymosodol yn y cartref tuag at ei fam, oedd wedi arwain at gael ei drosglwyddo i ofal cymdeithasol i blant.

Fe wnaeth e drywanu ei chwaer â siswrn dair blynedd yn ddiweddarach, arweiniodd at y plant yn dod yn destun cynllun gwarchod plant.

Cafodd Amanda Selby, oedd yn ddisgybl yn Academi Droylsden, ei disgrifio yn ystod yr adolygiad fel “person tawel a charedig iawn” a’i hadnabod fel gofalwr ifanc i’w mam, sydd â salwch cronig ac anawsterau symudedd.

Daeth y panel i’r casgliad ei bod hi wedi cael ei magu ar aelwyd lle’r oedd “ymddygiad treisgar ac ymosodol”, a lle’r oedd holl aelodau’r teulu wedi’u niweidio’n gorfforol gan ei brawd “ar sawl achlysur”.

Fodd bynnag, roedd y teulu’n credu bod gan Matthew Selby berthynas bositif â’i chwaer a’i fam, ac roedd ei drais yn rhan o’i awtistiaeth.

Ond cytunodd y teulu maes o law i wahanu, gydag Amanda Selby a’i mam yn symud allan o gartre’r teulu yn 2017, a Matthew Selby yn aros gyda’i dad fel ffordd o leihau rhagor o niwed.

Ond parhaodd y cysylltiad rhwng dwy ochr y teulu, ac roedd “perygl o niwed o hyd”.

Y flwyddyn ganlynol, fe wnaeth y gwasanaethau cymdeithasol plant gau’r achos, a wnaethon nhw ddim cyflwyno rhagor o gyfyngiadau ynghylch cysylltu â’i gilydd.

“Pan gafodd yr achos ei gau yn 2018, fe wnaeth asiantaethau gydnabod fod perygl o gamdriniaeth o hyd, ac roedd y panel yn teimlo bod y peryglon posib gan [Matthew Selby] wedi cael eu tanbrisio,” meddai’r adolygiad.

Colli cyfle i ddargyfeirio

Fe wnaeth ymddygiad Matthew Selby barhau i achosi pryder i’r awdurdodau rhwng 2018 a 2021, gyda’r achos wedi’i ddargyfeirio ddwywaith i’r gwasanaethau cymdeithasol gan amryw o asiantaethau, ond daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd tystiolaeth bod unrhyw gamau wedi’u cymryd yn hynny o beth.

“Cytunodd y panel y dylid fod wedi codi pryderon i sicrhau ymrwymiad asiantaethau niferus,” meddai.

Ddechrau 2020, nododd meddyg teulu fod y teulu wedi adrodd fod Matthew Selby yn dal i “daro’i dad bum neu chwe gwaith” bob dydd, a’i bod hi’n “arfer” i’w fab fod yn dreisgar tuag ato.

Ond doedd y lefel hyn o drais heb fod yn destun asesiad, a doedd dim tystiolaeth fod y pryderon hyn wedi cael eu rhannu â gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond byddai’r pryderon hyn wedi bod yn deilwng o hynny hyd yn oed er gwaethaf effaith Covid-19 ar y pryd.

Diffyg cefnogaeth i awtistiaeth

Chafodd Matthew Selby ddim diagnosis o awtistiaeth hyd nes ei fod e’n 17 oed, er iddo gael ei asesu’n barhaus am awtistiaeth er pan oedd e’n blentyn.

Roedd “cryn oedi” wrth adnabod yr angen am asesiad awtistiaeth, allai fod wedi effeithio ar fynediad i’r teulu i gefnogaeth briodol, meddai’r panel.

Er iddo gael ei gyfeirio at wasanaethau eraill allai fod wedi gallu cynnig cymorth a chefnogaeth, doedden nhw ddim wedi manteisio ar y rhain, meddai’r teulu, gan fod ganddo anawsterau wrth ddarllen ac ysgrifennu a doedd e ddim bob amser yn deall sut allai gwasanaethau ei helpu.

Fe wnaeth y panel argymell fod angen gwella’r gefnogaeth oedd yn cael ei rhoi i blant ac oedolion ifanc oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth, yn enwedig gan fod ‘bwlch amlwg’ unwaith roedd gwasanaethau plant yn dod i ben yn 16 oed cyn i’r gefnogaeth i oedolion ddechrau yn 18 oed.

“Unwaith mae diagnosis yhn cael ei wneud, mae’n ymddangos bod ychydig iawn o ddarpariaeth gofal a chefnogaeth yn Tameside i unigolion i’w helpu i oresgyn anawsterau yn eu hymddygiad sy’n cael eu hachosi gan awtistiaeth,” meddai’r adolygiad.

“Mae angen adnabod gwasanaeth allai ymateb i anghenion penodol plant â diagnosis o awtistiaeth, yn hytrach na cheisio gwneud i wasanaethau traddodiadol ffitio.”

Mae gwaith ar y gweill gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r pryderon gafodd eu codi, oedd hefyd wedi’i hadlewyrchu yn yr arolygiaeth o’u gwasanaethau Anghenion Addysgol Arbennig a Gwasanaethau Anabledd gan Ofsted, meddai’r panel.

Daeth yr adolygiad i’r casgliad hefyd fod yna bwyslais ar y gamdriniaeth gorfforol gan Matthew Selby, oedd wedi cael sylw trwy lwybrau a gweithdrefnau camdriniaeth, yn hytrach na chael eu gweld yn rhan o’i “anallu i reoli emosiynau ac ymateb” fel rhan o’i ddiagnosis o awtistiaeth.

“Ers hynny, mae’r teulu wedi cadarnhau eu bod nhw’n credu bod yna ddiffyg dealltwriaeth o anghenion y teulu ac y bydden nhw wedi hoffi pe bai rhagor o ymyrraeth ar gael i fynd i’r afael â’r hyn oedd yn achosi ymddygiad treisgar [Matthew Selby],” meddai’r panel.

Dywedodd y teulu wrth yr adolygiad, er eu bod nhw’n cydnabod “problemau o fewn eu teulu”, eu bod nhw’n credu bod eu plant wedi cael “rhai profiadau plentyndod positif gan gynnwys gwyliau rheolaidd a theulu oedd yn eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw”.

Argymhellion

Mae nifer sylwedydol o argymhellion wedi’u gwneud gan Bartneriaeth Gwarchod Plant Tameside yn dilyn marwolaeth Amanda Selby a chael Matthew Selby yn euog.

Mae hyn yn cynnwys gweithgor newydd i fynd i’r afael â symud o ofal gwasanaethau plant i ofal gwasanaethau oedolion, ac y dylid rhoi gweithdrefnau “cadarn” yn eu lle wrth gau achosion gofal cymdeithasol.

Mae gofyn hefyd i Heddlu Manceinion Fwyaf gynnig sicrwydd fod systemau cadarn ar waith i gofnodi, adnabod a throsglwyddo pryderon gwarchod plant.

Ar Fawrth 8, fe ddyfarnodd y Llys Apêl y dylid cynyddu cyfnod Matthew Selby yn y carchar i oes â lleiafswm o dair blynedd a phedwar mis, namyn yr amser roedd e eisoes wedi’i dreulio dan glo.

Bellach, fe fydd yn rhaid i’w achos gael ei ystyried gan y Bwrdd Parôl cyn y bydd modd iddo adael y carchar.