Mae enw’r dyn fu farw yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys yn Abertawe wedi cael ei gyhoeddi.

Aeth Brian Davies, oedd yn 68 oed, ar goll yn dilyn y digwyddiad ar Heol Clydach am oddeutu 11.20 fore ddoe (dydd Llun, Mawrth 13).

Cafodd ei adnabod yn ffurfiol heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 14), ac mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Yn ôl yr heddlu, mae ymchwiliad ar y gweill i ganfod beth yn union oedd wedi achosi’r digwyddiad.

Maen nhw’n cydweithio ag asiantaethau eraill gan gynnwys y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn ôl llefarydd.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r gymuned leol am eu “hamynedd a’u dealltwriaeth”.

Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Canfod corff yn dilyn ffrwydrad yn Abertawe

Mae tŷ wedi cael ei ddymchwel